Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 16 Medi 2020.
Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mai dim ond pan fo tystiolaeth ecolegol dda y dylid ailgyflwyno rhywogaethau, a bod angen i’r gwaith cynllunio fod yn drylwyr? Mae angen ymgysylltu'n dda â chymunedau lleol. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymchwil a edrychai ar gynefinoedd ac argaeledd bwyd i eryrod yng Nghymru, ac roeddent yn ffafrio adeiladu achos tystiolaeth yn ofalus, a chael sgwrs lawn a pharchus, wrth gwrs, gyda ffermwyr a chymunedau lleol—yn y bôn, symud un cam ar y tro, rwy'n credu. A fyddech yn cytuno â mi ein bod yn dymuno gweld bioamrywiaeth ond bod yn rhaid dilyn proses addas?