Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Medi 2020.
Byddwn, yn sicr. Bydd John Griffiths wedi clywed fy ateb cynharach i Siân Gwenllian pan ddywedais ei bod yn bwysig iawn fod pob safbwynt yn cael ei ystyried, ond mae'n rhaid i ymgynghoriad cyhoeddus fod yn rhan o'r broses benderfynu, ac wrth asesu unrhyw gais am drwydded ar gyfer cyflwyno unrhyw rywogaeth, mae CNC bob amser yn ystyried dichonoldeb biolegol a chymdeithasol cynnig o'r fath.