Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch. Mae ffermwyr yng nghanolbarth Cymru wedi derbyn gwerth dros £84.3 miliwn mewn taliadau cynllun y taliad sylfaenol. Yn ogystal â hyn, roedd cynllun cymorth llaeth Cymru hefyd ar gael, ac mae wedi talu dros £900,000 hyd yma. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio wedi parhau i gefnogi ffermwyr, gan ddarparu cyngor a hyfforddiant ar-lein, ac wedi gallu cynnig cymorth dros y ffôn hefyd yn ystod y pandemig COVID-19.