Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 16 Medi 2020.
Byddaf yn sicr yn mynd yn ôl i sicrhau nad yw hynny'n wir. Ar hyn o bryd, mae gennym y map cyngor datblygu, a bydd y map llifogydd ar gyfer cynllunio yn cymryd lle hwnnw. Felly, mae'n bwysig iawn, fel y dywedwch, fod y system newydd honno'n seiliedig ar y data gorau posibl. Rwyf wedi rhoi cymorth ariannol llawn i CNC ac i awdurdodau lleol, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James, i greu'r gronfa ddata asedau genedlaethol newydd a map llifogydd Cymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y data'n gywir. Felly, byddaf yn bendant yn mynd yn ôl i wneud yn siŵr.