Mapiau Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:09, 16 Medi 2020

Wel, diolch i chi am yr ymateb yna, ond wrth ddelio â gwaith achos yn ddiweddar mi ddes i i sylweddoli bod 90 y cant o afonydd Cymru heb y gauges neu'r mesuryddion i fesur llif y dŵr yn yr afonydd hynny. Nawr, dyna'r data sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r mapiau yma ar draws Cymru, a'r mapiau hynny, wrth gwrs, sy'n sail ar gyfer nifer o benderfyniadau cynllunio ymhob rhan o Gymru a nifer o benderfyniadau ynglŷn â phobl yn gallu cael mynediad at yswiriant ar gyfer eu tai, neu ar gyfer eu busnesau hefyd. Ond os nad yw'r data gwreiddiol yna ddim yn gydnerth neu, wrth gwrs, i rannau helaeth o Gymru, ddim ar gael, mae yna berygl bod y penderfyniadau pellgyrhaeddol yna yn cael eu gwneud ar sail wallus.

Nawr, ydych chi'n hyderus, felly—a dyna fy nghwestiwn i—ydych chi'n hyderus, gyda llif 90 y cant o afonydd Cymru ddim yn cael ei fesur a'i fonitro, fod yna ddata digonol i greu mapiau llifogydd dibynadwy yng Nghymru? Ac os nad ŷch chi, beth ŷch chi'n ei wneud i fynd i'r afael â hynny? Oherwydd, gyda chymaint o ddiffyg data, y perygl yw mai beth rŷn ni'n gweld Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i bob pwrpas yw rhoi bys yn y gwynt.