Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 16 Medi 2020.
Weinidog, ysgrifennais atoch yn gynharach y mis hwn, ac rwyf wedi codi mater llifogydd yn y Rhondda sawl gwaith gyda chi yma yn y Senedd. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol ynglŷn â pham fod cymaint o gymunedau yn y Rhondda wedi dod yn agored i lifogydd yn sydyn, ond ni ddylai'r ymchwiliad hwn atal unrhyw fesurau ataliol neu waith adfer. Tybed a allwch ddweud wrth y Senedd beth rydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i hyrwyddo a chefnogi cyllid ar gyfer llifddorau. Nawr, rwy’n cyfeirio at lifddorau ac nid gatiau llifogydd, gan fod llifddorau’n fwy cadarn ac amddiffynnol na gatiau llifogydd. Clywais eich ateb yn gynharach, felly tybed a allwch ddweud wrthym beth y mae angen i bobl ei wneud os ydynt yn byw mewn cymuned sy'n agored i lifogydd i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn talu neu’n cyfrannu tuag at gost llifddor ar gyfer eu heiddo sy’n agored i berygl llifogydd.