Atal Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:59, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y dylai eich etholwyr ei wneud yw sicrhau eu bod yn cysylltu â'r awdurdod lleol, a all wedyn gyflwyno cais am y cyllid hwnnw. Rwy'n ei ddweud eto: rydym yn rhoi cyllid 100 y cant i’r awdurdod lleol. Nid wyf yn gwybod llawer am lifddorau, ond deallaf eu bod yn gryfach na gatiau llifogydd, a chredaf ei bod yn ddiogel dweud na fyddai gatiau llifogydd byth yn datrys pethau'n hirdymor, ond yn sicr yn y tymor byr, gallant fod o gymorth. Felly, byddwn yn eu hannog i gysylltu â'u hawdurdod lleol, a all sicrhau wedyn eu bod yn gwneud cais am y cyllid hwnnw. Ceir llawer o fesurau lliniaru llifogydd—soniais am fentiau hefyd—ac efallai, wrth ymweld, gellid rhoi'r mesur mwyaf priodol ar waith. Ond i ddechrau, cysylltwch â'r awdurdod lleol.