1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i'r sector bwyd a ffermio yng Nghymru pe na bai Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb masnach yr UE? OQ55483
Diolch. Ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, rwyf wedi bod yn gweithio gydag aelodau o fy ngrŵp rhanddeiliaid bord gron i ystyried pob senario bosibl, gan gynnwys gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn parhau i archwilio'r opsiynau ar gyfer cefnogi'r sectorau allweddol hyn pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb masnach rydd.
Diolch, Weinidog. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn gweithio bob awr o'r dydd i sicrhau ein bod yn cael, a'n bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau, cytundeb masnach da er budd Cymru yn ogystal ag er budd gweddill y DU, ond yn ystod ymweliad â fferm yng nghanolbarth Cymru yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod un o Weinidogion Llywodraeth y DU, Mr Jayawardena, wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd masnach yn parhau â'r UE yn wir, ac nad oedd angen inni boeni, ac ychwanegodd yn optimistaidd y byddai cytundebau da—cytundebau da—yn cael eu llunio'n fyd-eang gyda gwledydd eraill, gan gynnwys UDA.
Felly, o gofio ein bod bellach yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn paratoi ar gyfer cytundeb masnach tebyg i un Awstralia â'r UE—mewn geiriau eraill, dim cytundeb masnach ar delerau Sefydliad Masnach y Byd—a fydd yn llwyr ddinistrio ein ffermwyr defaid a sectorau eraill yn Ogwr a ledled Cymru, a bod bygythiad difeddwl yr un Lywodraeth i dorri cyfraith ryngwladol yn golygu y gall yr Unol Daleithiau ei hun, yn ogystal â gwledydd llai, wthio Llywodraeth annibynadwy'r DU i gefn y ciw mewn perthynas â chytundebau masnach, a oedd Gweinidog Boris Johnson yn siarad synnwyr ar ei daith undydd i ganolbarth Cymru neu a oedd yn siarad drwy ei het?
Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion cynharach fy mod i a'm gweinidog cyfatebol yn yr Alban wedi cael ein cyhuddo o fod ag ymagwedd 'gwydr hanner gwag' tuag at hyn, ond yn amlwg, mae'n fater sy'n peri pryder mawr, gan mai 15 wythnos yn unig sydd cyn diwedd cyfnod pontio'r UE. Ond tra bo gobaith o hyd o ddod i gytundeb â'r UE, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU. Gwnaethom hynny'n glir iawn yn y cyfarfod ddydd Llun gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA a Gweinidogion eraill. Mae'n bwysig iawn eu bod yn rhannu'r holl wybodaeth y gallant ei rhannu gyda ni fel ein bod yn gwybod yn union pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn arwain ar y trafodaethau masnach ar ran Llywodraeth Cymru, ac er y gallai'r negodiadau gyda gweddill y byd gynnig rhai cyfleoedd, rwy'n gwybod mai'r UE yw ein marchnad fwyaf sylweddol o bell ffordd o hyd. Felly, i mi ac i fy holl gyd-Weinidogion, rydym wedi dweud yn glir iawn mai dyna ddylai fod yn ffocws uniongyrchol i Lywodraeth y DU.
Diolch i'r Gweinidog.