Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:27, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym yn debygol o weld newidiadau hirdymor i'r farchnad dai yn dilyn COVID-19, ac nid o reidrwydd er gwell. Efallai y bydd pobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny eisiau prynu tai mawr gyda mannau agored a gerddi a thai nad oes raid iddynt fod mor agos at y swyddfa, a gallai hynny achosi i lawer o bobl gael eu prisio allan o'u cymunedau. Mae hynny'n debygol o gael ei brofi fwyaf yn ein cymunedau gwledig, ac eto nid oes gennym gynllun gweithredu o hyd i atal y sgandal fod perchnogion ail gartrefi yn camfanteisio ar fylchau yn y gyfraith er mwyn osgoi talu treth gyngor ychwanegol, ac nid oes gennym system gynllunio o hyd sy'n gallu cyfyngu ar berchnogaeth ail gartrefi, cartrefi gwyliau nac eiddo Airbnb. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa bryd y gwelwn gamau i ddiwygio'r system gynllunio a rhoi'r grym i awdurdodau lleol sicrhau bod y farchnad dai ôl-COVID yn gweithio i bobl ifanc a'n cymunedau gwledig?