2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Medi 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym yn debygol o weld newidiadau hirdymor i'r farchnad dai yn dilyn COVID-19, ac nid o reidrwydd er gwell. Efallai y bydd pobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny eisiau prynu tai mawr gyda mannau agored a gerddi a thai nad oes raid iddynt fod mor agos at y swyddfa, a gallai hynny achosi i lawer o bobl gael eu prisio allan o'u cymunedau. Mae hynny'n debygol o gael ei brofi fwyaf yn ein cymunedau gwledig, ac eto nid oes gennym gynllun gweithredu o hyd i atal y sgandal fod perchnogion ail gartrefi yn camfanteisio ar fylchau yn y gyfraith er mwyn osgoi talu treth gyngor ychwanegol, ac nid oes gennym system gynllunio o hyd sy'n gallu cyfyngu ar berchnogaeth ail gartrefi, cartrefi gwyliau nac eiddo Airbnb. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa bryd y gwelwn gamau i ddiwygio'r system gynllunio a rhoi'r grym i awdurdodau lleol sicrhau bod y farchnad dai ôl-COVID yn gweithio i bobl ifanc a'n cymunedau gwledig?
Diolch, Delyth. Rwy'n rhannu eich pryder ynghylch prisio pobl leol allan o'r farchnad, ac nid mewn cymunedau gwledig yn unig, mae hynny'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru, wrth i Gymru ddod yn lle braf iawn i fyw ynddo. Ond mae eich cwestiwn yn codi tri mater gwahanol hyd y gwelaf i. Mae'r cyntaf, mewn gwirionedd, yn ymwneud â phobl sydd eisiau dod i fyw a gweithio yng Nghymru, ond sy'n gallu fforddio tai gwell oherwydd eu bod efallai'n adleoli o ran ddrutach o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r bobl hynny'n dod i Gymru i fyw a dod yn rhan o'n cymunedau, nid ydynt yn berchnogion ail gartrefi; maent yn bobl sy'n dod yma i ddod yn rhan o'n cymunedau. Serch hynny, credaf ei bod yn iawn i ddweud bod rhywfaint o dystiolaeth ar hyn o bryd—tystiolaeth anecdotaidd—eu bod yn gwthio prisiau i fyny, ac rydym yn sicr yn ymwybodol o hynny ac yn edrych ar hynny.
Mae'r ail fater yn ymwneud â phobl yn prynu ail gartref y maent hwy eu hunain eisiau ei ddefnyddio, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn ystod yr ymateb i'r pandemig, wedi adolygu'r trothwy ar gyfer rhoi cymorth grant i bobl, felly rydym yn awr yn edrych i weld a allwn adolygu'r trothwy ar gyfer newid o dreth gymunedol i ardrethi busnes. Felly, rydym wrthi'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Byddwn yn cael gwybodaeth yn ôl gan ein hawdurdodau lleol ynglŷn â faint o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y newid, ac a yw hynny'n cael unrhyw effaith sylweddol ar nifer y bobl sy'n gwneud y newid. Ni fydd hynny'n newid y ffordd y maent yn defnyddio eu cartrefi, ond mae'n newid faint o dreth y maent yn ei thalu ac yn y blaen, felly rydym yn edrych ar hynny. A gwn fod y Prif Weinidog wedi cael cyfarfod gyda'ch cyd-Aelod chi a minnau, Siân Gwenllian, yn gynharach heddiw, lle cawsant drafodaeth go gadarn, rwy'n credu, ac rydym—. Gwn fod y drafodaeth honno'n canolbwyntio ar nifer o bethau y gellir eu gwneud i ganiatáu i bobl leol gael tai fforddiadwy yn eu cymunedau. Ddoe, yn ystod fy natganiad, cynigiais gyfarfod â Llyr, ac rwy'n fwy na bodlon bwrw ymlaen â hynny. Gwn fod y Prif Weinidog wedi cyfarfod â Siân Gwenllian y bore yma. Felly rwy'n awgrymu bod grŵp bach ohonom sydd â phryderon tebyg yn dod at ein gilydd, ac fel y dywedais ddoe yn y datganiad, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, felly rydym yn hapus iawn i'w archwilio.
Rwy'n croesawu hynny'n fawr; diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi ac i weld pa atebion sydd i'w cael. Felly, diolch am eich ateb ar hynny.
Nawr, i droi at rai sylwadau a wnaethoch ychydig yn ôl—credaf mai'n fuan ar ôl i chi gael y portffolio oedd hynny. Roeddech wedi cyfeirio at ystadau newydd a oedd wedi dod drwy'r system gynllunio fel rhai a allai greu problemau ar gyfer y dyfodol. Ar y pryd, gwn ein bod ni fel plaid wedi cytuno â chi, a bod sawl enghraifft o sut y mae'r mater hwn yn dal yn broblem: ychydig i lawr y ffordd o'r fan lle rydych chi nawr yn y Senedd, ni all perchnogion werthu eu fflatiau oherwydd bod y bobl a adeiladodd yr adeiladau yn gwrthod datrys problemau gyda hwy; achosion o dwyll mewn perthynas â chartrefi lesddaliad nad yw ond yn awr yn cael eu hymchwilio gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd; a'r safleoedd busnes diddiwedd ledled Cymru, fel yr un yng Nghoety ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r datblygwr yn dal i gael caniatâd i adeiladu mwy o gartrefi oherwydd bod yr awdurdod, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ddi-rym i ddefnyddio eu perfformiad gwael blaenorol fel rheswm dros wrthod caniatâd yn y dyfodol.
Nawr, byddai'n un peth pe bai'r system yn gallu darparu tai fforddiadwy, ond mae'r system gynllunio'n sicrhau, os bydd awdurdod yn mynd yn rhy fawr i'w esgidiau, y gall yr arolygydd dorri nifer y tai fforddiadwy i sicrhau bod yr elw a warentir i ddatblygwyr mawr yn dal i ddod, ac elw y credwn ni, ym Mhlaid Cymru, y dylai fod yn destun treth ffawdelw. Felly, carwn ofyn, Weinidog, pryd fydd y Llywodraeth yn cyfyngu ar bwerau'r arolygydd cynllunio ac yn dweud wrth yr arolygydd cynllunio'n uniongyrchol mai polisi Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y tai fforddiadwy—oherwydd gwn eich bod am wneud hynny—ac na ddylent fod yn ceryddu awdurdodau lleol sy'n ceisio sicrhau bod datblygiad yn digwydd er budd y gymuned ac nid cyfranddalwyr y datblygwyr.
Diolch, Delyth. Unwaith eto, rydych wedi ymdrin â mwy nag un mater yn eich cwestiynau a'ch sylwadau. Felly, ar yr un cyntaf, lesddaliadau, rydym wedi cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn awr, ac mae nifer o bethau yno y mae angen i Lywodraeth y DU eu gwneud, ond mae rhai pethau y gallwn ni eu gwneud. Fe fyddwch yn gwybod ein bod eisoes wedi symud i atal gwerthiannau lesddaliadau mewn unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gefnogi gyda chymhorthdal—felly, yn y cynlluniau Cymorth i Brynu, er enghraifft—ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn. Rydym yn edrych ar ffyrdd o gynorthwyo lesddeiliaid gyda newidiadau i'r rheolau ac yn y blaen, mewn perthynas â'r modd rydych yn caffael y rhydd-ddaliad. Ond rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU drwy adroddiad gwirioneddol gynhwysfawr Comisiwn y Gyfraith—cafodd ei gyhoeddi yn lled ddiweddar. Felly, rwy'n rhannu eich pryder ynglŷn â gwerthu eiddo lesddaliadol.
Mewn gwirionedd, un o'r materion eraill—ac mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi cael gweithgor i ymchwilio i hyn—yw nid yn unig lle mae tai'n cael eu gwerthu fel lesddaliadau, ond lle mae pobl yn prynu tŷ rhydd-ddaliadol, ond wedyn yn darganfod bod y gwaith o reoli eu hystâd yn rhan o gwmni, oherwydd mewn gwirionedd nid yw'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Felly un o'r pethau rydym yn edrych arnynt yw safon ar gyfer mabwysiadu ffyrdd ledled Cymru—mae'n amrywio o awdurdod i awdurdod ar hyn o bryd—a chynyddu pwerau awdurdodau lleol i allu negodi bod y ffyrdd a'r carthffosiaeth a'r dŵr a phob dim yn cael eu codi i'r safon a'u mabwysiadu fel rhan o'r weithdrefn 106.
Wedyn, gan droi at y mater sy'n ymwneud â thai fforddiadwy a'r hyn y gellir ei negodi fel rhan o'r weithdrefn 106 honno, nid wyf yn rhannu'n gyfan gwbl eich dadansoddiad o ble mae'r Arolygiaeth Gynllunio ar hyn, ond rydym yn awyddus iawn i'r awdurdod lleol gael ei roi mewn sefyllfa gref o ran negodi pa gyfraniad sy'n angenrheidiol gan y datblygwr, o ran tai fforddiadwy ac mewn gwirionedd o ran y seilwaith angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu tai. Oherwydd nid ydym ychwaith am weld datblygiadau tai'n cael eu hynysu i ffwrdd oddi wrth gyfleusterau, heb deithio llesol, seilwaith gwyrdd, ac yn y blaen. Felly, mae nifer o bethau yn 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n hyrwyddo hynny. Cyn bo hir, byddaf yn cyflwyno fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru—yr wythnos nesaf rwy'n credu—i'r Senedd. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod, fel rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cynnig trefniadau rhanbarthol i roi'r trefniadau rhanbarthol strategol ar waith. Bydd yr holl bethau hynny'n helpu'r awdurdodau lleol i negodi targedau tai fforddiadwy uwch. A'r peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw y byddwch yn gwybod ein bod hefyd yn mynnu, ar dir Llywodraeth Cymru—ac rwy'n gweithio gyda thirfeddianwyr cyhoeddus eraill i ymestyn hyn—fod 50 y cant o dai fforddiadwy ar holl dir Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at adeiladu tai yn awr.
Diolch. A gwn fod rhywfaint o hyn yn bethau a drafodwyd gennym ddoe, ond rwy'n croesawu llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Nawr, fel rydym newydd ei weld o'r drafodaeth honno eisoes, mae yna lawer y credaf fod ein dwy blaid yn cytuno yn ei gylch: rydym yn cytuno bod angen mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru; rydym yn cytuno bod angen mwy o dai cymdeithasol; ac y dylai ystadau newydd gael eu cynnal gan seilwaith a ariennir yn briodol, fel roeddech chi'n dweud. Ac rydym yn cytuno y dylent fod fel ystadau a adeiladir ar egwyddorion teithio llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—na ddylent fod yn hyrwyddo'r defnydd o geir nac yn galw am newidiadau mawr i rwydweithiau ffyrdd.
Ond mae fy swyddfa wedi gweld gohebiaeth gan un adran gynllunio sy'n anwybyddu'r sylwadau a wnaethoch flwyddyn yn ôl yn y Siambr hon y dylai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol gael blaenoriaeth dros gynlluniau datblygu lleol a gynhyrchwyd cyn y Ddeddf honno. Mae arnaf ofn nad yw ein system gynllunio yn hyn o beth yn addas i'r diben. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu a'i gwneud yn ofynnol i adrannau cynllunio roi'r gorau i ganiatáu i ddatblygiadau a ddyfeisiwyd o dan yr hen system barhau, a sicrhau yn lle hynny fod yn rhaid ailgynllunio unrhyw ystadau tai o fewn egwyddorion polisi Llywodraeth Cymru, ni waeth pryd y dyrannwyd y tir hwnnw gyntaf ar gyfer adeiladu tai?
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhannu'r ohebiaeth â mi, fel y gallaf weld pa awdurdod rydym yn sôn amdano, oherwydd efallai y gallwn gael sgwrs unigol gyda'r awdurdod hwnnw.
Y broblem gyda'r system gynllunio—system a arweinir gan gynllun, rhywbeth rwy'n credu ynddo'n llwyr oherwydd heb hynny ni allwch gael llais lleol yn yr hyn y caniateir ei adeiladu yn y gymuned leol, a chredaf mewn gwirionedd y dylid caniatáu i bobl gael y gymuned y maent am ei chael yn lleol—ond y broblem gyda'r system gynllunio yw bod oedi yn y broses, oherwydd pan gewch ganiatâd cynllunio mae'n ganiatâd i adeiladu beth bynnag rydych wedi cael cydsyniad ar ei gyfer am gyfnod hir cyn iddo ddod i ben. Ac mewn gwirionedd, nid yw'n bosibl neu mae'n anodd iawn ôl-addasu'r caniatadau hynny, ac mae hynny'n fater sy'n peri cryn rwystredigaeth i bob un ohonom. Felly, mae gennym dai newydd yn cael eu codi o hyd yng Nghymru heb systemau chwistrellu ynddynt oherwydd bod y datblygiad wedi'i ddechrau cyn y ddeddfwriaeth honno.
Felly, ym mhob un o'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn fwy diweddar, rydym wedi ymdrechu'n galed iawn i sicrhau, pan ddaw'r rheoliad neu'r gofyniad newydd ar gynllunio i mewn, ei fod yn dod bron ar unwaith wedi i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio, ond nid yw'n bosibl gwneud iddo fynd am yn ôl. Felly, os ydych chi wedi cael caniatâd, mae gennych ganiatâd. A dyna un o'r pethau sy'n rhwystredig am hyn, oherwydd mae gennym bethau sy'n dal i gael eu hadeiladu yn ôl hen fanylebau na fyddai bellach yn cael caniatâd cynllunio. Felly, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth.
Yr hyn rydym wedi bod yn ceisio ei wneud serch hynny yw cael sgwrs gyda'r adeiladwyr tai dan sylw ynglŷn â pheidio â gwneud hynny, oherwydd nid oes rhaid iddynt ei wneud. Gallant wneud cais i newid y caniatâd cynllunio ac rydym wedi bod yn cynnig cymorth i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyfarfod ag un o'r adeiladwyr tai mwyaf yn ddiweddar ac maent wedi newid eu hagwedd yn llwyr ac wedi bod yn siarad â mi ynglŷn â sut y gallent wneud hynny ar rai o'u datblygiadau. Felly, mae'n dangos, os dangoswch chi'r ffordd, bydd pobl yn dod ar hyd y llwybr hwnnw gyda chi oherwydd gallant weld ei fod yn werth ei wneud. Ceir llygedyn o obaith, ond rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth ynglŷn â'r oedi y mae'r system gynllunio o reidrwydd yn ei greu.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Mae ffigurau amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru a ddiwygiwyd yn ddiweddar yn dangos cynnydd llai, er enghraifft, yn Sir y Fflint nag a ragwelwyd yn flaenorol a gostyngiad yn Wrecsam, er y rhagwelir o hyd y bydd nifer yr aelwydydd un rhiant ac aelwydydd un person yn cynyddu yn y ddau le.
Pan ysgrifennais atoch i holi pa effaith a gaiff hyn ar ffigurau a mathau disgwyliedig o waith adeiladu tai yn y dyfodol o fewn cynlluniau datblygu lleol neu CDLlau awdurdodau lleol, fe ateboch chi nad oes cydberthynas syml rhwng amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru a gofynion tai awdurdodau cynllunio lleol fel y'u nodir mewn CDLlau, ac y dylid ystyried yr amcanestyniadau ochr yn ochr ag asesiad diweddaraf awdurdod o'r angen am dai ar gyfer y farchnad a thai fforddiadwy yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, mae cynghorau fel Wrecsam a Sir Ddinbych wedi cael eu gorfodi o'r blaen i gynnwys ffigurau tai uwch yn eu CDLlau yn seiliedig ar amcanestyniadau blaenorol Llywodraeth Cymru. Sut felly rydych chi'n disgwyl gweld yr amcanestyniadau newydd yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu diwygiadau CDLlau?
Ie. Felly, fel y mae'r llythyr yn nodi, Mark, nid yw'n darged nac yn ganllaw; mae'n seiliedig ar yr amcanestyniadau ystadegol sydd gennym. Ac mae gan yr awdurdodau lleol gyfres o ganllawiau y maent i fod i'w hystyried mewn perthynas â threfniadau lleol y dylent eu rhoi ar waith i ddatblygu eu CDLl. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi atal yr amcanestyniad tai pum mlynedd i'r dyfodol beth amser yn ôl o ganlyniad i hynny, oherwydd ein bod yn credu, i'r nifer cynyddol o awdurdodau cynllunio yng Nghymru nad oes ganddynt CDLl presennol, eu bod yn achosi problemau difrifol gyda cheisiadau cynllunio hapfasnachol ar eu cyrion. Felly, rydym wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud hynny, ac rydym yn disgwyl iddynt gyflwyno eu hamcanestyniadau priodol eu hunain yn seiliedig ar y wybodaeth leol rydych newydd ei hamlinellu, er enghraifft, ar gyfer Sir y Fflint, er na fyddaf yn gwneud sylwadau ar awdurdodau unigol yma.
Wel, rwy'n gobeithio eich bod felly'n cadarnhau, os bydd eu ffigurau'n gwrthdaro â'ch ffigurau chi, a bod hynny'n seiliedig ar dystiolaeth, y gallai hynny gael blaenoriaeth, yn wahanol i'w profiad blaenorol. Ond mae llythyrau gennych chi a'ch adran at gyngor Sir y Fflint dros flynyddoedd yn datgan, ac rwy'n dyfynnu
Mae'n hynod siomedig fod eich awdurdod wedi cyflwyno cais pellach i ymestyn yr amser a gymerir i baratoi eich Cynllun Datblygu Lleol, yn enwedig yng ngoleuni sicrwydd blaenorol.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 yn gwneud darpariaeth dros dro ar gyfer cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon tra'n cadw at egwyddorion didwylledd ac atebolrwydd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon wrthyf fod Sir y Fflint, a dyfynnaf, yn 'cau eu cynllun', ac er bod trefniadau wedi'u gwneud i ddarparu sesiynau briffio i gynghorwyr ar y CDLl, a bod aelodau wedi gofyn am gasgliadau'r ymgynghoriad ar y fersiwn adneuo, dywedwyd wrthynt nad yw'r cynnwys a'r datganiad CDLl yn destun trafodaeth, ac ymddengys mai fersiwn y swyddogion yn unig a gaiff ei drafod. Beth, felly, yw eich disgwyliad fel y Gweinidog mewn amgylchiadau o'r fath?
Mark, nid wyf mewn sefyllfa i drafod manylion y broses CDLl ar gyfer cyngor penodol ar hyn o bryd, ond byddwn yn croesawu cyfarfod â chi ar wahân os ydych am fynd drwy bryderon penodol am un cyngor unigol. Ac fe wyddoch mai mater i'r cyngor yn bennaf yw materion yn ymwneud â'r CDLl, ond hyd nes y rhowch chi'r manylion i mi, ni allaf yn hawdd wneud sylwadau ar hyn o bryd ar broses cyngor unigol tuag at ei CDLl.
O'r gorau. Wel, i symud ymlaen: roedd llythyrau a anfonwyd gan eich prif gynllunydd at benaethiaid cynllunio awdurdodau lleol ar 27 Mawrth yn rhoi arweiniad defnyddiol ar sut y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynnal gwasanaethau yn ystod y pandemig. Nododd y rhain, er enghraifft, fod angen i'r awdurdod cynllunio lleol roi sylw ar unwaith i'r achosion o dorri rheolaeth gynllunio a fyddai'n galw am ddefnyddio hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro. Mae ymweliadau safle mewn achosion o'r fath yn deithio hanfodol, ac ni ellir cyflawni ymweliadau safle o adref, naill ai mewn perthynas â gosod hysbysiadau safle neu at ddibenion asesu a dadansoddi amodau safle, gan gynnwys gorfodi, felly maent yn esgus rhesymol dros deithio at ddibenion y rheoliadau coronafeirws a gyflawnir yn unol â gofynion y rheoliadau. Sut, felly, rydych yn ymateb i'r nifer o etholwyr yn Sir y Fflint, ond dim ond yn Sir y Fflint, sydd wedi rhoi gwybod am wahanol ddatblygiadau heb eu hawdurdodi, ac wedi fy nghopïo i mewn ar ymatebion cyngor sy'n datgan, ac rwy'n dyfynnu,
O fewn y gwasanaeth cynllunio, rhwystrwyd swyddogion rhag cynnal ymweliadau safle er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, neu sy'n gwneud datganiadau cyfatebol?
Wel, unwaith eto, Mark, os ydych am rannu manylion cwynion o'r fath gyda mi, fe fyddaf yn gallu mynd i'r afael â hwy, ond nid yw hynny'n rhywbeth y gallaf fynd i'r afael ag ef yma ar lawr y Senedd. Felly, os ydych am godi'r materion unigol hynny gyda mi y tu allan i'r fan hon, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt ar eich rhan.