Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch, Russell George. Mae'r gweithgor yn archwilio sut y gall awdurdodau cynllunio lleol gynllunio ar gyfer datblygiadau amaethyddol newydd fel siediau dofednod. Bydd yn rhoi cyngor ar faterion sydd i'w hystyried gan bolisïau cynlluniau datblygu a'r ystyriaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar y ceisiadau cynllunio. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi gohirio'r gwaith ond bydd yn ailddechrau cyn bo hir.