2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref? OQ55488
Diolch, Russell George. Mae'r gweithgor yn archwilio sut y gall awdurdodau cynllunio lleol gynllunio ar gyfer datblygiadau amaethyddol newydd fel siediau dofednod. Bydd yn rhoi cyngor ar faterion sydd i'w hystyried gan bolisïau cynlluniau datblygu a'r ystyriaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar y ceisiadau cynllunio. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi gohirio'r gwaith ond bydd yn ailddechrau cyn bo hir.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn fy marn i, mae angen canllawiau wedi'u diweddaru arnom ar frys ar ffurf nodyn cyngor technegol, er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys neu siediau ieir—mae ganddynt enwau gwahanol. Mae hynny'n sicr yn wir ym Mhowys, lle rwy'n gobeithio y byddwch yn ymwybodol fod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr unedau sy'n cael eu hadeiladu—roeddwn yn falch fod Aelod arall wedi codi hyn yn gynharach gyda'ch cyd-Aelod, Lesley Griffiths. Mae angen diweddaru'r canllawiau oherwydd mae pryder gwirioneddol ynghylch effeithiau lefelau ffosffad uchel o unedau dofednod dwys, materion yn ymwneud â llygredd aer, llygredd dŵr a chynlluniau rheoli tail. Nawr, fe ysgrifennoch chi ataf yr wythnos diwethaf ac fel y dywedwch, mae'n ymddangos na fydd llawer o weithredu cyn dechrau'r flwyddyn nesaf, ond rwyf am ddweud bod hynny'n siomedig, Weinidog. Rwy'n awgrymu ein bod angen mwy o weithredu brys. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi, gydag amserlenni, o ran pryd y gwelwn y canllawiau angenrheidiol ar waith?
Russell, rwy'n rhannu eich pryderon, ac rydym yn gweithio—. Mae'n siomedig iawn nad oedd y gweithgor, a oedd i fod i gynnal ei bedwerydd cyfarfod ym mis Mawrth, ychydig cyn y cyfyngiadau symud, wedi gallu gwneud hynny. Maent yn bwrw ymlaen yn awr, felly yn amlwg rydym eisiau iddynt wneud eu gwaith cyn gynted ag sy'n bosibl; rydym eisiau sicrhau bod yr holl wybodaeth gywir gennym. Ar hyn o bryd, lle mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer siediau dofednod newydd, mae'n rhaid iddynt ystyried manteision economaidd ac effeithiau amgylcheddol y cynnig, gan gynnwys effaith gronnol y nifer gynyddol o ddatblygiadau. Felly, mae rhai o'r pethau y sonioch chi amdanynt eisoes ar waith, ond rwy'n gwbl ymwybodol fod angen inni edrych eto ar y materion sy'n ymwneud â llygredd y cyrsiau dŵr ac yn y blaen. Byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng polisïau arallgyfeirio ffermydd a diogelu'r amgylchedd, sef y ddwy agwedd sy'n cystadlu â'i gilydd yma. Felly, dyna'n union y mae'r gweithgor yn edrych arno, gyda'r bwriad o adolygu polisi cynllunio yng ngoleuni eu canfyddiadau, a gallaf eich sicrhau ein bod wedi eu hannog i wneud eu gwaith cyn gynted ag sy'n bosibl.