Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Medi 2020.
Mark, nid wyf mewn sefyllfa i drafod manylion y broses CDLl ar gyfer cyngor penodol ar hyn o bryd, ond byddwn yn croesawu cyfarfod â chi ar wahân os ydych am fynd drwy bryderon penodol am un cyngor unigol. Ac fe wyddoch mai mater i'r cyngor yn bennaf yw materion yn ymwneud â'r CDLl, ond hyd nes y rhowch chi'r manylion i mi, ni allaf yn hawdd wneud sylwadau ar hyn o bryd ar broses cyngor unigol tuag at ei CDLl.