2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd ar incwm isel i wneud gwelliannau i'w heiddo? OQ55489
Mae mentrau Llywodraeth Cymru fel y rhaglen Cartrefi Clyd, safon ansawdd tai Cymru a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn cefnogi ein huchelgais i bawb gael cartref gweddus sy'n fforddiadwy, yn gynnes, yn saff ac yn ddiogel.
Diolch, Weinidog. Ers 2011-12, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth ariannol tuag at welliannau i gartrefi drwy Nyth. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi bod yn dirywio ers 2015-16, gyda llai o aelwydydd yn gweld gwelliannau drwy'r cynllun bob blwyddyn. Mae'r niferoedd wedi gostwng o 6,000 yn 2015-16 i 3,800 yn 2018-19. Er bod Llywodraeth Cymru yn dirwyn cymorth ar gyfer gwelliannau i eiddo i ben, mae Llywodraeth y DU, ar y llaw arall, wedi lansio cynllun grant cartrefi gwyrdd, a ddylai arwain at dros 600,000 o berchnogion tai yn Lloegr yn cael cymorth. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fod yn fentrus a chreu cynllun grant cartrefi gwyrdd i Gymru i gefnogi aelwydydd incwm isel yng Nghymru fel y gallant fforddio gwelliannau yma?
Wel, Janet, ni fyddwch yn synnu o gwbl nad wyf yn rhannu eich dadansoddiad. Rydych yn amlwg yn ymwybodol nad yw cynllun Nyth yn fy mhortffolio i; mae ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths mewn gwirionedd. Ond ers 2011, mae dros 61,400 o aelwydydd yng Nghymru wedi elwa o'n rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynorthwyo pobl sy'n byw ar incwm is i wella effeithlonrwydd ynni eu cartref ac arbed arian. Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2021, byddwn wedi buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd i wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill.
Rydym hefyd wedi lansio ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ddiweddar, drwy fy mhortffolio i, i gefnogi'r gwaith o ôl-osod 1,000 o gartrefi cymdeithasol presennol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nid yw hynny'n llawer iawn, ond ei fformat sy'n bwysig. Y rheswm dros wneud hynny yw ein bod yn anghytuno â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffordd y maent wedi gwneud y fenter cartrefi gwyrdd gan nad oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae'n amlwg iawn na fyddech yn ôl-osod teras carreg Fictoraidd yn y Rhondda yn yr un ffordd ag y byddech yn ôl-osod tŷ â waliau ceudod a adeiladwyd yn y 1970au yn fy etholaeth i, er enghraifft. Felly, gyda'n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, rydym yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol sydd â phob math o dŷ yng Nghymru yn eu portffolio i gyflwyno amrywiaeth o dechnolegau a chynlluniau a fydd yn codi'r tai yn safon ansawdd tai Cymru sydd eisoes wedi cyflawni lefel C i fyny i A. Byddwn yn gallu gweld beth sy'n gweithio, ac yna gallwn gyflwyno'r rhaglenni hynny fel bod yr hyn sy'n gweithio i bob tŷ ar gael, yn hytrach na rhaglen gyffredinol sy'n addas i bawb nad yw'n mynd i weithio, a bod yn onest.