3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:12, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf sy'n effeithio ar rannau o dde Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru yn gyffredinol ac mewn pedair ardal awdurdod lleol yn benodol: yng Nghaerffili, ym Merthyr Tudful, yn Rhondda Cynon Taf ac yng Nghasnewydd. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei achosi i raddau helaeth gan bobl sy'n dychwelyd o wyliau ar gyfandir Ewrop, lle rydym hefyd wedi gweld cyfraddau uwch o’r coronafeirws yn ystod y misoedd diwethaf, yn cael eu heintio â’r coronafeirws, ac yn allweddol, wrth i bobl ddechrau cymdeithasu mwy, gwelwn lai o ymlyniad wrth fesurau cadw pellter cymdeithasol. Yn anffodus, wrth i bobl gymdeithasu mwy, maent wedi anghofio cadw eu pellter oddi wrth ei gilydd, gan ei gwneud yn haws i’r coronafeirws ledaenu o un unigolyn i'r llall. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn partïon tai a phobl yn ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd dros yr haf.

Cyhoeddais gynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru y mis diwethaf. Mae'n nodi'r ystod o gamau y byddem yn eu cymryd i ymateb i achosion lleol a mannau problemus o ran y coronafeirws, pe baent yn digwydd. Rwy'n falch o adrodd unwaith eto fod ein timau olrhain cysylltiadau wedi gweithio'n eithriadol o dda dros yr wythnosau diwethaf i olrhain cysylltiadau mwy na 90 y cant o bobl sydd wedi cael prawf positif a'u cysylltiadau agos. O'r wybodaeth hon, rydym wedi gallu nodi clystyrau yn y pedwar awdurdod lleol sy’n peri pryder, a gyda phrofion cymunedol ychwanegol, rydym wedi nodi pryd y dechreuodd y trosglwyddiad cymunedol mewn dau o'r awdurdodau hynny.

Fe gyrhaeddwyd y sefyllfa honno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili yr wythnos diwethaf, ac yn anffodus, bu’n rhaid i mi gyhoeddi heddiw ein bod hefyd wedi cyrraedd y sefyllfa honno lle mae angen i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Lywydd, mae gweddill fy natganiad yn canolbwyntio ar y rhesymau pam ein bod yn cymryd camau yn Rhondda Cynon Taf, ond hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ym mhob ardal lle gwelwn gynnydd yn nifer yr achosion, ac rydym yn adolygu'r sefyllfa'n ddyddiol mewn perthynas â'r angen am fesurau ychwanegol.

Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd y prynhawn yma, yn dangos bod cyfartaledd treigl saith diwrnod cyfradd yr achosion newydd yn 82.1 ym mhob 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y cyfartaledd treigl saith diwrnod ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 68.4 ddoe. Y gyfradd prawf positif a gyhoeddwyd ddoe oedd 4.3 y cant; mae wedi codi i 5.1 y cant yn y data a gyhoeddwyd heddiw. Dyna'r gyfradd bositif uchaf yng Nghymru.

Mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi gallu olrhain oddeutu hanner yr achosion rydym yn eu gweld yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Nid yw'r gweddill yn gysylltiedig â'r clystyrau hynny, ac maent yn awgrymu ein bod bellach yn gweld tystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol. Ceir nifer o glystyrau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae dau ohonynt yn sylweddol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yn ardal y Rhondda isaf a'r llall gyda thaith clwb i rasys Doncaster, gan alw mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd. Yn union fel ym mwrdeistref Caerffili, rydym wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion dros gyfnod byr. Mae'r rhain yn gysylltiedig yn bennaf â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol ac yn cyfarfod yng nghartrefi ei gilydd. Rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sy’n gysylltiedig, fel rwy'n dweud, â phobl sy'n dychwelyd o wyliau dramor.

Mae'r awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhagweithiol wrth ymweld â safleoedd ledled y fwrdeistref dros yr wythnos ddiwethaf yn enwedig i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r gyfraith a'r mesurau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu dilyn i ddiogelu ein gilydd rhag y coronafeirws. Mae'r gwiriadau hyn wedi arwain at gyflwyno hysbysiadau gwella mewn saith archfarchnad, a cheir cydymffurfiaeth â'r rheini bellach. Mae bar wedi’i gau ym Mhontypridd ar ôl i deledu cylch cyfyng ddal sawl achos o dorri’r rheolau, cafodd adeilad trwyddedig ei gau yn Nhonypandy a chyflwynwyd hysbysiadau gwella mewn bar arall ym Mhontypridd a barbwr yn Nhonypandy. Bu swyddogion y cyngor yn ymweld â 50 adeilad trwyddedig arall dros y penwythnos ac mae mwy o gamau gorfodi, naill ai ar ffurf hysbysiadau gwella neu orchmynion cau, yn debygol o ddilyn.

At ei gilydd, mae'r cynnydd cyflym hwn yn nifer yr achosion, gyda thystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf a'r dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio mewn llawer o safleoedd trwyddedig ar draws y fwrdeistref, yn golygu bod angen inni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn yr ardal i reoli, ac yn y pen draw, i leihau lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl. Gan fod achos y trosglwyddiad yn debyg i'r hyn a welsom yng Nghaerffili, bydd y cyfyngiadau'n debyg. Ond bydd camau hefyd yn cael eu cymryd i atal yr holl adeiladau trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf rhag agor yn hwyr. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweld achosion ledled y fwrdeistref, sy'n golygu bod yn rhaid i'r cyfyngiadau fod yn berthnasol i'r ardal gyfan.

O 6 o’r gloch ddydd Iau, yfory, ni chaniateir i bobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf fynd i mewn i neu allan o ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu addysg. Am y tro, dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cyfarfod. Ni fydd pobl yn gallu cyfarfod ag aelodau o'u haelwyd estynedig dan do na ffurfio aelwyd estynedig am y tro. Bydd rhaid i bob adeilad trwyddedig gau erbyn 11 o’r gloch yr hwyr, a bydd rhaid i bawb dros 11 oed, fel yng ngweddill y wlad, wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do. Byddwn yn cadw'r mesurau hyn dan adolygiad cyson, a chânt eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.

Yn yr wythnos ers i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ceir peth sail dros optimistiaeth ofalus. Rydym wedi gweld cwymp bach yn y gyfradd saith diwrnod o achosion newydd a'r gyfradd o brofion positif, er bod y rhain yn parhau i fod yn uchel. Mae'r heddlu wedi nodi lefelau uchel iawn o gydymffurfiaeth â'r cyfyngiadau, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n byw yn yr ardal am eu cymorth dros yr wythnos ddiwethaf ac am y gefnogaeth a welsom gan wasanaethau cyhoeddus ar draws bwrdeistref Caerffili. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn leihau’r coronafeirws, diogelu ein hunain a'n hanwyliaid a chadw Cymru'n ddiogel.