– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 16 Medi 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyfyngiadau coronafeirws lleol ym mwrdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf sy'n effeithio ar rannau o dde Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru yn gyffredinol ac mewn pedair ardal awdurdod lleol yn benodol: yng Nghaerffili, ym Merthyr Tudful, yn Rhondda Cynon Taf ac yng Nghasnewydd. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei achosi i raddau helaeth gan bobl sy'n dychwelyd o wyliau ar gyfandir Ewrop, lle rydym hefyd wedi gweld cyfraddau uwch o’r coronafeirws yn ystod y misoedd diwethaf, yn cael eu heintio â’r coronafeirws, ac yn allweddol, wrth i bobl ddechrau cymdeithasu mwy, gwelwn lai o ymlyniad wrth fesurau cadw pellter cymdeithasol. Yn anffodus, wrth i bobl gymdeithasu mwy, maent wedi anghofio cadw eu pellter oddi wrth ei gilydd, gan ei gwneud yn haws i’r coronafeirws ledaenu o un unigolyn i'r llall. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn partïon tai a phobl yn ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd dros yr haf.
Cyhoeddais gynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru y mis diwethaf. Mae'n nodi'r ystod o gamau y byddem yn eu cymryd i ymateb i achosion lleol a mannau problemus o ran y coronafeirws, pe baent yn digwydd. Rwy'n falch o adrodd unwaith eto fod ein timau olrhain cysylltiadau wedi gweithio'n eithriadol o dda dros yr wythnosau diwethaf i olrhain cysylltiadau mwy na 90 y cant o bobl sydd wedi cael prawf positif a'u cysylltiadau agos. O'r wybodaeth hon, rydym wedi gallu nodi clystyrau yn y pedwar awdurdod lleol sy’n peri pryder, a gyda phrofion cymunedol ychwanegol, rydym wedi nodi pryd y dechreuodd y trosglwyddiad cymunedol mewn dau o'r awdurdodau hynny.
Fe gyrhaeddwyd y sefyllfa honno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili yr wythnos diwethaf, ac yn anffodus, bu’n rhaid i mi gyhoeddi heddiw ein bod hefyd wedi cyrraedd y sefyllfa honno lle mae angen i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Lywydd, mae gweddill fy natganiad yn canolbwyntio ar y rhesymau pam ein bod yn cymryd camau yn Rhondda Cynon Taf, ond hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ym mhob ardal lle gwelwn gynnydd yn nifer yr achosion, ac rydym yn adolygu'r sefyllfa'n ddyddiol mewn perthynas â'r angen am fesurau ychwanegol.
Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd y prynhawn yma, yn dangos bod cyfartaledd treigl saith diwrnod cyfradd yr achosion newydd yn 82.1 ym mhob 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y cyfartaledd treigl saith diwrnod ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 68.4 ddoe. Y gyfradd prawf positif a gyhoeddwyd ddoe oedd 4.3 y cant; mae wedi codi i 5.1 y cant yn y data a gyhoeddwyd heddiw. Dyna'r gyfradd bositif uchaf yng Nghymru.
Mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi gallu olrhain oddeutu hanner yr achosion rydym yn eu gweld yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Nid yw'r gweddill yn gysylltiedig â'r clystyrau hynny, ac maent yn awgrymu ein bod bellach yn gweld tystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol. Ceir nifer o glystyrau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae dau ohonynt yn sylweddol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yn ardal y Rhondda isaf a'r llall gyda thaith clwb i rasys Doncaster, gan alw mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd. Yn union fel ym mwrdeistref Caerffili, rydym wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion dros gyfnod byr. Mae'r rhain yn gysylltiedig yn bennaf â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol ac yn cyfarfod yng nghartrefi ei gilydd. Rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sy’n gysylltiedig, fel rwy'n dweud, â phobl sy'n dychwelyd o wyliau dramor.
Mae'r awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhagweithiol wrth ymweld â safleoedd ledled y fwrdeistref dros yr wythnos ddiwethaf yn enwedig i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r gyfraith a'r mesurau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu dilyn i ddiogelu ein gilydd rhag y coronafeirws. Mae'r gwiriadau hyn wedi arwain at gyflwyno hysbysiadau gwella mewn saith archfarchnad, a cheir cydymffurfiaeth â'r rheini bellach. Mae bar wedi’i gau ym Mhontypridd ar ôl i deledu cylch cyfyng ddal sawl achos o dorri’r rheolau, cafodd adeilad trwyddedig ei gau yn Nhonypandy a chyflwynwyd hysbysiadau gwella mewn bar arall ym Mhontypridd a barbwr yn Nhonypandy. Bu swyddogion y cyngor yn ymweld â 50 adeilad trwyddedig arall dros y penwythnos ac mae mwy o gamau gorfodi, naill ai ar ffurf hysbysiadau gwella neu orchmynion cau, yn debygol o ddilyn.
At ei gilydd, mae'r cynnydd cyflym hwn yn nifer yr achosion, gyda thystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf a'r dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio mewn llawer o safleoedd trwyddedig ar draws y fwrdeistref, yn golygu bod angen inni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn yr ardal i reoli, ac yn y pen draw, i leihau lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl. Gan fod achos y trosglwyddiad yn debyg i'r hyn a welsom yng Nghaerffili, bydd y cyfyngiadau'n debyg. Ond bydd camau hefyd yn cael eu cymryd i atal yr holl adeiladau trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf rhag agor yn hwyr. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweld achosion ledled y fwrdeistref, sy'n golygu bod yn rhaid i'r cyfyngiadau fod yn berthnasol i'r ardal gyfan.
O 6 o’r gloch ddydd Iau, yfory, ni chaniateir i bobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf fynd i mewn i neu allan o ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu addysg. Am y tro, dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cyfarfod. Ni fydd pobl yn gallu cyfarfod ag aelodau o'u haelwyd estynedig dan do na ffurfio aelwyd estynedig am y tro. Bydd rhaid i bob adeilad trwyddedig gau erbyn 11 o’r gloch yr hwyr, a bydd rhaid i bawb dros 11 oed, fel yng ngweddill y wlad, wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do. Byddwn yn cadw'r mesurau hyn dan adolygiad cyson, a chânt eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.
Yn yr wythnos ers i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ceir peth sail dros optimistiaeth ofalus. Rydym wedi gweld cwymp bach yn y gyfradd saith diwrnod o achosion newydd a'r gyfradd o brofion positif, er bod y rhain yn parhau i fod yn uchel. Mae'r heddlu wedi nodi lefelau uchel iawn o gydymffurfiaeth â'r cyfyngiadau, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n byw yn yr ardal am eu cymorth dros yr wythnos ddiwethaf ac am y gefnogaeth a welsom gan wasanaethau cyhoeddus ar draws bwrdeistref Caerffili. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn leihau’r coronafeirws, diogelu ein hunain a'n hanwyliaid a chadw Cymru'n ddiogel.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Credaf ei fod yn amrywiad bach ar y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach yn y dydd, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen y datganiad manwl rydych newydd ei roi i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yn y sylwadau yn y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach a'r un a roesoch i’r Siambr, rwy'n sylwi na ddefnyddiwyd y term ‘cyfyngiadau symud’ o gwbl, ac eto, os edrychwch ar unrhyw un o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu'r cyfryngau’r prif ffrwd, y term sy’n sgrechian arnoch yw bod RhCT o dan ‘gyfyngiadau symud’. Tybiaf fod hwn yn newid bwriadol o ran iaith gan y Gweinidog a'i swyddogion, gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu'r term 'cyfyngiadau symud', yn amlwg, â'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gafwyd ym mis Mawrth, ac yn amlwg, nid yw'r mesurau rheoli newydd hyn yn agos at fod mor llym â'r rhai a gyflwynwyd gyda’r cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro pam yn union nad yw'r term 'cyfyngiadau symud' wedi'i ddefnyddio gennych chi, ac os yw'n derm y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio’i osgoi, pa gysylltiadau a gawsoch chi gyda'r cyfryngau ac eraill i geisio geirio'r iaith fel bod pobl yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau newydd hyn yn gallu cael gwybodaeth o'r radd flaenaf ac yn gallu cydymffurfio â'r hyn rydych yn ei ofyn ganddynt. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, yn amlwg, mae'n ymwneud â chyfrifoldeb personol a phobl yn ymateb i'r gofynion—nid yw'r feirws wedi diflannu, ac mae yna bethau sydd angen iddynt eu gwneud.
A gyda'r wybodaeth o'r radd flaenaf honno y mae angen ei chyfleu, mae’n siomedig na chafodd yr Aelodau lleol wybod am y cyhoeddiad hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn amlwg, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad neithiwr i gynnal cynhadledd i'r wasg, felly rwy’n cymryd bod y cyhoeddiad hwn wedi'i ystyried gan Lywodraeth Cymru ymhell ymlaen llaw, a chredaf y byddai wedi bod o gymorth mawr pe bai’r Aelodau lleol wedi cael gwybod, neu os cafodd rhai Aelodau lleol wybod, pam ddim pob Aelod lleol? A allech gadarnhau pwy yn union a gafodd wybod cyn y cyhoeddiad hwn yn y gynhadledd i'r wasg am 12.30 p.m.? Mae fy swyddfa wedi derbyn dau gais syml ers y cyhoeddiad: mae dynes sy'n mwynhau gwyliau yn Ninbych-y-pysgod, er enghraifft, gyda'i theulu bellach yn pendroni a oes angen iddi fod yn ôl yn Aberdâr cyn 6 o'r gloch nos yfory. Wel, yn amlwg, ni chredaf fod hynny'n wir gan mai cyfyngiadau lleol yw'r rhain. Roedd cais arall a gafwyd yn ymwneud â gwersi gyrru a phrofion gyrru, gan eu bod yn defnyddio canolfan brofi Merthyr Tudful—a fyddent yn gallu cael y prawf ym Merthyr Tudful gan eu bod yn byw yn Aberdâr. Mae’r rheini’n ddau beth syml iawn y byddwn i, fel Aelod lleol, yn sicr o fod wedi elwa o ryw fath o gyfarwyddyd yn eu cylch gan swyddogion fel y gallwn fod wedi gofyn am sesiwn friffio fanylach a deall hyn fel y gallwn gyfleu gwybodaeth briodol a chadarn i’r etholwyr, fel nad yw pobl yn torri’r rheolau am eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir. Tybed a ellid darparu cyfarwyddyd o'r fath i’r Aelodau lleol yn y dyddiau nesaf, fel y gallant gynorthwyo eu hetholwyr, yn amlwg.
Hoffwn hefyd geisio deall—yn eich datganiad, dywedwch y bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu yn ystod y pythefnos nesaf. Beth fydd y trothwy y byddwch yn edrych amdano er mwyn ysgafnu baich rhai o'r cyfyngiadau hyn a chychwyn y broses o lacio'r cyfyngiadau yn ardal RhCT er mwyn dychwelyd, efallai, at yr hyn y mae rhannau eraill o Gymru yn cydymffurfio ag ef ar hyn o bryd? Gyda'r cyfyngiadau hyn yn dod i rym am 6 o'r gloch nos yfory, credaf ei bod yn bwysig i bobl ddeall beth rydym yn anelu ato dros y pythefnos nesaf a beth yw'r niferoedd y byddwch chi fel Gweinidog a'ch swyddogion yn edrych arnynt i sicrhau y bydd hynny’n digwydd.
Fy nghais olaf i chi yw hwn: yn Lloegr, mae gwybodaeth yn amlwg yn bŵer i allu gwneud y penderfyniadau hyn, ac yn Lloegr, caiff ei chyhoeddi ar sail awdurdod lleol yn wythnosol, ac ar lefel ward yn enwedig, mae'r wybodaeth honno ar gael yn yr ardaloedd cyngor. Rydych yn mynd allan yma heddiw i ardal y Bae ac rydych yn gweld pobl yn mwynhau'r haul haf bach Mihangel ar hyn o bryd, ac ni fyddech yn dweud bod yna unrhyw bryderon yn y byd, ond ychydig filltiroedd yn unig o'r fan hon, mae dwy ardal dan gyfyngiadau llym oherwydd yr achosion o’r coronafeirws. Oni fyddai’n ddefnydd da o wybodaeth i sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael, fel y mae Lloegr yn ei wneud, fesul ward fel y gall pobl ddeall lefel yr haint sy'n lledaenu yn eu cymuned a gallant sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gynorthwyo eu cymuned i drechu’r feirws hwn? Os gellir gwneud hynny yn Lloegr, pam na ellir ei wneud yng Nghymru? Rwy'n gobeithio y rhowch ymateb cadarnhaol i ni.
Diolch am eich cwestiynau. O ran y pwynt cychwynnol ynglŷn â’r derminoleg a ddefnyddir, rydym yn defnyddio'r derminoleg sydd wedi'i nodi yng nghynllun rheoli’r coronafeirws. Rwy'n derbyn yn llwyr mai'r disgrifiad yw cyfyngiadau lleol, yn union y fel a ddigwyddodd yng Nghaerffili, ac ni chredaf ei bod yn gwneud llawer o synnwyr i'r Llywodraeth geisio ymladd brwydr i berswadio'r cyhoedd neu'r cyfryngau i beidio â disgrifio hyn yn y ffordd y maent yn ei wneud eisoes—yn y ffordd y cawsant eu disgrifio yn yr Alban ac yn Lloegr. Cyfeirir at yr holl gyfyngiadau hyn gan y cyhoedd yn gyffredinol fel ‘cyfyngiadau lleol'. Rwy'n defnyddio'r iaith rydym wedi'i defnyddio yn ein cynllun rheoli coronafeirws, ac nid ydynt yr un peth â'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gawsom, ond mae hynny oherwydd ein bod yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau a welwn ac a wynebwn. Mae mesurau pellach yn bosibl, wrth gwrs, ac mae gwahanol fesurau’n bosibl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Os yw patrwm yr haint a'r rheswm pam fod achosion yn codi mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol i'r rhai yng Nghaerffili neu RhCT, mae'n ddigon posibl y cawn fesurau gwahanol, pe bai—a dim ond ‘pe bai’—angen cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn rhannau eraill o Gymru.
Credaf fod y wybodaeth ynglŷn â’r cyfyngiadau’n eithaf clir. Yn y bôn, yr un mesurau yw'r rhain â’r rhai a gyflwynwyd yng Nghaerffili, ynghyd â chyfyngiad ar oriau agor adeiladau trwyddedig. Ac mae hynny oherwydd tystiolaeth yn RhCT fod tafarndai'n ganolbwynt penodol o ran y ffordd y mae heintiau wedi'u lledaenu, ond hefyd oherwydd tystiolaeth fwy arwyddocaol o ystod o adeiladau trwyddedig nad ydynt wedi bod yn dilyn y rheolau. Mae'n ddewis bwriadol i beidio â chau pob adeilad trwyddedig ac atal pob un ohonynt rhag agor o gwbl, a hynny am fod amryw o safleoedd yn dilyn y rheolau, ac os yw pobl yn yfed mewn adeilad trwyddedig, gwyddom eu bod yn fwy tebygol o gael eu monitro ac o ymddwyn yn wahanol, ond os ydym yn annog pobl i wneud y gweithgaredd hwnnw y tu allan i dafarndai, mae pobl yn debygol o barhau i yfed gartref ac yn fwy tebygol o wahodd pobl i'w cartrefi, nid yn unig yn groes i’r cyfyngiadau newydd rydym wedi'u rhoi ar waith, ond gwyddom mai cyswllt mewn anheddau preifat sydd wedi arwain yn gyson at yr ail-ledaeniad mwyaf o'r coronafeirws.
O ran y penderfyniad, ychydig iawn o amser a gafwyd i wneud y penderfyniad. Ni wnaed y penderfyniad terfynol tan oddeutu 12.20 p.m. heddiw, ac roeddwn yn y gynhadledd i'r wasg am 12.30 p.m. Roeddwn yn disgwyl rhoi neges ychydig yn wahanol yn y gynhadledd i'r wasg ar drafod rhai o'r heriau gyda chynnal profion y buom yn treulio llawer o amser arnynt ddoe yn y Siambr hon. Yn y diwedd, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniad ynghylch cyfyngiadau lleol, ac ni chredaf y byddai wedi bod yn briodol i fod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw 10 munud cyn y gynhadledd i'r wasg, rhoi cynhadledd i'r wasg cwbl wahanol, a gwneud datganiad gwahanol yn fuan wedyn. A gwneuthum yn siŵr fod datganiad yn cael ei gylchredeg i'r Aelodau cyn y gynhadledd, er bod hynny wedi digwydd yn llythrennol funud neu ddwy cyn i mi godi yn y gynhadledd i'r wasg, a dywedasom yn glir ein bod wedi cysylltu â swyddfa'r Llywydd i sicrhau fy mod yn gallu mynychu heddiw i roi’r datganiad llafar hwn ac ateb cwestiynau’n uniongyrchol.
O ran y canllawiau, fe welwch chi, fel rwy'n dweud, gan fod y canllawiau sy'n berthnasol i Gaerffili—maent yn ganllawiau tebyg iawn ar gyfer RhCT, fel rwy'n dweud, gyda'r pwynt ychwanegol am adeiladau trwyddedig. Yng nghynllun rheoli’r coronafeirws, mae gennym ymrwymiad i adolygu bob pythefnos, felly mae'n rhaid inni adolygu'r mesurau rydym wedi'u cyflwyno heddiw o fewn pythefnos, ond ceir adolygiad dyddiol o'r sefyllfa ym mhob awdurdod lleol. Felly, unwaith eto, os oes gennym wybodaeth am yr angen i gyflwyno gwahanol fesurau, efallai y byddwn yn gwneud hynny cyn yr adolygiad pythefnos, ond rwy'n disgwyl y bydd yn cymryd ychydig yn hwy i weld cwymp cyson yn nifer yr achosion newydd, ac yn wir, yn y gyfradd sy'n cael prawf positif o ran y mesurau y byddwn yn edrych amdanynt cyn inni geisio lleihau neu ddiddymu’r mesurau sydd ar waith.
Ond yn allweddol, byddwn hefyd yn cael gwybodaeth leol drwy ein system brofi, olrhain a diogelu ar drosglwyddiad cymunedol. Oherwydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, ac fel y dywedasom ar sawl achlysur yn y gorffennol, pan welsom nifer arwyddocaol o achosion o'r blaen ar Ynys Môn ac yn Wrecsam, a nifer arwyddocaol yn ffatri Kepak ym Merthyr Tudful, roeddem yn deall pwy oedd y clystyrau hynny. Gallem olrhain pobl, ac roedd gennym hyder nad oeddem yn gweld trosglwyddiad cymunedol, felly nid oedd angen inni roi mesurau ar waith ar gyfer y gymuned gyfan. Rydym yn deall yma ein bod yn gweld trosglwyddiad cymunedol, ac ni allwn gael y cyfyngiadau mwy clyfar y mae’r system brofi, olrhain a diogelu yn caniatáu inni eu cyflwyno.
Dyna'r rhesymau sy'n sail i'r penderfyniadau rydym wedi'u gwneud heddiw, ac wrth gwrs, byddaf yn edrych ar bwynt olaf yr Aelod ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth ar lefel ward yn fwy rheolaidd. Ond fel y gŵyr pob Aelod, rydym yn cyhoeddi ffigurau dyddiol a diweddariadau dyddiol ar y sefyllfa ar draws pob ardal awdurdod lleol.
Rwy'n siomedig ond nid wyf yn synnu bod Rhondda Cynon Taf yn cael eu gosod dan gyfyngiadau. Cawsom ein rhybuddio y byddai hyn yn digwydd pe bai'r cyfraddau trosglwyddo’n cynyddu, ac maent wedi cynyddu, ac mae nifer o ddigwyddiadau a lleoliadau wedi'u nodi yn y datganiad. Ond rwyf am ganolbwyntio ar y capasiti profi yma yn y Rhondda. Roedd y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfyngiad o 60 prawf coronafeirws y dydd yn y ganolfan brofi a sefydlwyd yn y Rhondda yn gwbl warthus. Nid yw cyfyngu nifer y profion pan fydd y feirws yn lledaenu yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Gwyddom o wledydd sydd wedi ymdopi’n well yn ystod y pandemig hwn fod olrhain ac ynysu’n allweddol er mwyn atal y lledaeniad. Felly, hoffwn wybod pa gapasiti profi ychwanegol y gallwn ddisgwyl ei weld yn y Rhondda yr wythnos hon, gan fod ei angen arnom nawr. Ni allwn aros am wythnos neu ddwy i Lywodraeth y DU gael trefn ar bethau. Hoffwn wybod hefyd pam fod y Llywodraeth Lafur hon yn rhoi cymaint o ffydd yn y Llywodraeth Dorïaidd i wneud y peth iawn. Gŵyr pob un ohonom fod hynny'n beryglus. Mae rhyddid pobl yn mynd i gael ei gyfyngu nawr, a hoffwn wybod sut y gallwn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl allu ynysu os mai dyna sydd angen iddynt ei wneud. Mae llawer o bobl yn dal i wegian yn sgil effaith ariannol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, a nawr mae'n rhaid iddynt wynebu hyn hefyd. Felly, sut y gellir ei gwneud yn haws i bobl allu ynysu heb golli incwm, ac a fyddwch yn gallu sicrhau bod rhywfaint o gymorth ariannol ar gael i'r rheini yr effeithir ar eu hincwm a'u busnesau?
A fy nghwestiwn olaf yw'r rhesymeg ynglŷn â chadw tafarndai a chlybiau ar agor. Os ydych yn gwybod bod y lledaeniad wedi digwydd o ganlyniad i drosglwyddiad mewn tafarndai a chlybiau—ydy, mae'n wych fod cyngor Rhondda Cynon Taf yn archwilio tafarndai a chlybiau a sefydliadau eraill ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau, ond yn sicr, nid yw cadw tafarndai a chlybiau ar agor pan fo'r lledaeniad yn digwydd mewn tafarndai a chlybiau yn gwneud llawer o synnwyr i lawer o bobl. Felly, a allwch roi amlinelliad pellach o’ch rhesymeg dros gadw tafarndai a chlybiau ar agor, gan na allaf weld cymaint â hynny o bobl yn prynu alcohol ar ôl 11 o'r gloch? Felly, ymddengys mai mesur cyfyngedig yw hwnnw i fynd i’r afael â'r pwynt penodol hwnnw.
Diolch am y cwestiynau. Rwyf wedi nodi, yn eithaf manwl, dros y penwythnos a ddoe, yr heriau a'r rhwystredigaethau gwirioneddol a ddaeth o benderfyniad ar lefel swyddogol o fewn Llywodraeth y DU i gyfyngu profion labordai goleudy i ganolfannau i 60 y dydd yng Nghymru, yng Ngogledd Iwerddon, a chyfyngiadau tebyg yn yr Alban hefyd. Dyna pam y cefais sgyrsiau cyflym gyda Gweinidogion iechyd eraill yn y gwledydd eraill, a dyna pam, am 11:30 fore Sadwrn, y cefais sgwrs â Matt Hancock. Rydym wedi gweld gwelliant yn hynny o beth, ond yn bendant mae angen dysgu o hynny, ac mae angen dysgu o fewn rhaglen y DU ynglŷn â gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bob gwlad yn y DU. Ond fe wnaethant hynny ar sail edrych ar ddata Lloegr yn unig, a dyna pam y bu'n rhaid iddynt adfer y safbwynt ac ailgyflwyno cyfleusterau profi na ddylid bod wedi cael gwared arnynt. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol—rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU, fel y mae Gweinidogion iechyd eraill yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wir wedi'i wneud.
Mae angen inni fod mewn sefyllfa lle mae pob un o'r gwledydd yn eu tro, os na all rhaglen y DU barhau i ddarparu nifer y samplau bob dydd, yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r adnoddau hynny. Oherwydd rydym yn gweld ardaloedd lle ceir mwy o achosion, lle mae'n bwysicach i bobl yn yr ardaloedd hynny gael prawf. Gwyddom hefyd y bydd yn cymryd nifer o wythnosau i ddatrys yr heriau hynny ar lefel y DU. Dyna pam—. A byddaf yn mynd i'r afael â'ch pwynt am brofion pellach hefyd. Ond o ran rhaglen y DU, wrth gwrs, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan, ac maent yn dibynnu'n sylweddol ar raglen y DU. Ni fyddwn yn derbyn swm canlyniadol ar ei gyfer os byddwn yn tynnu'n ôl o'r rhaglen honno; mae'n rhaglen rwy'n cymryd rhan ynddi ac mae gennym fynediad at y profion y mae'n eu darparu. A hyd at oddeutu tair wythnos yn ôl, roedd y perfformiad yn eithaf da. Mae angen inni weld y rhaglen yn dychwelyd i'r lefel honno gyda'r offer newydd y deallaf y bydd yn cael ei fuddsoddi. Ond mae'n rhoi pob un ohonom mewn sefyllfa anodd iawn wrth inni geisio cynnal rhaglen brofi effeithiol ynghyd â'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu da iawn sydd gennym yma yng Nghymru.
Yn Rhondda Cynon Taf, byddwn yn cynnal y safle symudol ym Cwmclydach—bydd hwnnw'n cael ei ymestyn i ddydd Llun fan lleiaf. Rydym hefyd yn bwriadu cael uned profi symudol arall yn ardal Abercynon; gobeithio y bydd hwnnw ar gael yfory. Rwyf wedi cyhoeddi heddiw y bydd gennym bum uned profi symudol ychwanegol. Byddwn yn cynnal eu profion drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid labordai goleudy, a byddant yn cael eu rhannu i ddechrau rhwng ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg, lle mae'r lefelau uchaf o angen a galw. Ac rydym hefyd yn edrych, dros y—. Erbyn diwedd yr wythnos nesaf, rwy'n disgwyl y byddwn mewn sefyllfa lle bydd gennym lonydd ychwanegol yn yr holl ganolfannau profi drwy ffenest y car. Unwaith eto, bydd y lonydd ychwanegol hynny'n cynnig cyfleoedd i bobl gael prawf a chael y canlyniadau hynny wedi'u dadansoddi yn ein labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, dyna'r camau rhagweithiol rydym eisoes yn eu cymryd i lenwi rhywfaint ar y bwlch sy'n cael ei greu hyd nes y bydd y rhaglen labordai goleudy'n gwella o'r hyn ydyw, lle nad yw'n gallu ymdopi â chapasiti ei labordai.
O ran cefnogaeth i hunanynysu, mae hwn yn fater rwyf wedi'i godi sawl gwaith, nid yn unig yn gyhoeddus, ond mewn sgwrs â Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Gweinidogion iechyd eraill hefyd. Os nad ydym yn cynorthwyo pobl i wneud y peth iawn, mae dewis rhwng aros gartref ar gyflog salwch statudol, o bosibl, a methu fforddio talu eich biliau, neu beryglu eich iechyd eich hun ac iechyd pobl eraill er mwyn gallu talu eich biliau yn sefyllfa annymunol i roi pobl ynddi. Gwn fod treialon yn digwydd i gefnogi pobl sy'n hunanynysu yn Lloegr, ac unwaith eto rwyf wedi dadlau'r achos dros gwblhau'r treialon hynny'n gyflym, a darparu rhaglen lawn ar gyfer y DU. Nid oes lle yn y gyllideb i wledydd unigol wneud hynny eu hunain—mae angen iddi fod yn rhaglen gyson ledled y DU yn fy marn i. A phe bai Llywodraeth y DU yn dewis gwneud hynny, byddwn yn croesawu hynny fel cam cadarnhaol ymlaen o ran galluogi pobl yn ymarferol i gydymffurfio â'r cyngor a roddir iddynt drwy ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu.
O ran agor tafarndai, mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, atebais rai o'r heriau mewn perthynas â dadleoli gweithgaredd a chael golwg ar sut a lle mae pobl yn yfed, yn hytrach na pheri iddynt wneud hynny yng nghartrefi pobl. Rydym wedi gweld tystiolaeth ddiweddar sy'n dangos bod gwerthiant alcohol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, ac mae angen inni gydnabod, ym mhob un o'r dewisiadau a wnawn, fod angen cydbwyso niwed. Ond credwn y bydd y mesur hwn yn ein galluogi i gynnal safleoedd trwyddedig fel nad yw busnesau'n colli eu cyfle i wneud busnes, nad yw pobl yn colli eu swyddi a'n bod yn gallu cadw llygad ar ymddygiad. Yna byddwn eisiau gallu deall sut y mae pobl yn cymysgu, yn hytrach na'u bod yn gyndyn i ddweud wrthym eu bod wedi bod yn gweld pobl eraill yn erbyn y rheolau—mae perygl gwirioneddol y byddwn yn peri i hyn fynd yn danddaearol.
Y pwynt arall, serch hynny, ac mae'n bwysig ei wneud, yw nad ymateb cymesur i'r gyfraith yn unig sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried hyn, ond mae'n ein galluogi i gymryd camau pellach. Felly, os nad ydym yn gweld y gwelliant yn y ffordd y mae'r busnesau hynny'n ymddwyn, ond yn yr un modd yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn mynd iddynt ac yn ymddwyn, cawn gyfle i roi camau a mesurau pellach ar waith. Ac nid yw hyn yn annhebyg i fesurau a gymerwyd yn Aberdeen yn yr Alban a mesurau y deallwn eu bod yn cael eu hystyried, os nad eu gweithredu, ledled Lloegr hefyd. Mae pob penderfyniad yn galw am gydbwyso, ond credaf mai dyma'r set gywir o fesurau i'w cyflwyno yn awr. Edrychaf ymlaen at weld y cyhoedd yn ymateb yn gadarnhaol iddynt.
Diolch am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac am yr holl gamau sy'n cael eu cymryd i geisio diogelu lles trigolion Rhondda Cynon Taf. Fel y gallwch ddychmygu, rwyf wedi cael llawer o gwestiynau mewn amser byr gan drigolion Cwm Cynon, felly rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ofyn rhai o'r rheini'n uniongyrchol i chi.
Yn gyntaf, mewn perthynas â gwyliau wedi'u harchebu, gwn na fydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu teithio at y dibenion hyn yn awr, ac yn achos trigolion Caerffili cyn hynny, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y prif gwmnïau teithio yn nodi'r disgwyliad y byddent yn ad-dalu cwsmeriaid neu'n caniatáu iddynt newid eu gwyliau i ddyddiad diweddarach. A wnewch chi ymrwymo i ail-anfon y llythyr hwn gan gyfeirio at drigolion Rhondda Cynon Taf a rhannu'r ohebiaeth hon â chynrychiolwyr yr ardal fel y gallwn, yn ein tro, ei rhannu â'n hetholwyr a allai fod angen prawf o'r fath er mwyn gwneud eu hachos? Yn ogystal, pa gymorth y gallwch ei gynnig i'r rheini sydd wedi archebu gwyliau yn y DU ac i gwmnïau teithio lleol, megis Edwards Coaches, y gallai eu busnesau gael eu heffeithio'n wael?
Yn ail, o ran y rhai sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, rwy'n ymwybodol nad yw canllawiau blaenorol Caerffili wedi argymell unrhyw newidiadau ar gyfer y grŵp penodol hwn yn ychwanegol at y cyngor a'r rheoliadau sydd wedi'u gosod ar gyfer preswylwyr eraill. Ac eto, yn y dyddiau diwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf—yn eithaf synhwyrol, yn fy marn i—wedi cynghori pobl yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol i weithio gartref lle bynnag y bo modd, oherwydd y cynnydd yn yr achosion o'r coronafeirws yma. A allwch chi gadarnhau, felly, y dystiolaeth y byddwch yn ei chynnig i bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol yn hyn o beth?
Ac yn drydydd, ac yn olaf, hoffwn ofyn am gymorth i fusnesau lleol. Mae'r cyfyngiadau newydd hyn, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a welsom yn y gwanwyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru annog trigolion lleol i barhau i siopa'n lleol yn ddiogel ac i gefnogi busnesau lleol, tra'n diogelu eu hiechyd eu hunain hefyd?
Diolch am y cwestiynau gan yr Aelod. Ar eich pwynt cyntaf, yn ymwneud â gwyliau, rwy'n cydnabod bod Hefin David wedi bod yn sôn ddoe, ond mewn gohebiaeth, ac mewn trafodaeth â mi hefyd, am ei drigolion yn etholaeth Caerffili, ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod ynglŷn ag ysgrifennu at rannau o'r diwydiant gwyliau eto. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â hwy, eu hyswirwyr, i gadarnhau unwaith eto y cyfyngiadau sydd bellach ar waith a'r ffaith na fydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu mynd ar wyliau—byddai gwneud hynny'n torri'r gyfraith—ac i fynd ar drywydd ymateb ar y mater hwn ac yn wir yr ymateb rydym yn ei ddisgwyl mewn perthynas â Chaerffili. Ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod i rannu'r ohebiaeth honno ag Aelodau etholaethol a rhanbarthol fel y gallwch weld y llythyr rydym wedi'i ysgrifennu ac unrhyw ymateb a gawn wedyn.
Rwy'n credu bod pwynt ehangach am y diwydiant teithio a'r niwed i'w enw da y bydd angen ei ystyried. Mae pwynt yno nid yn unig am y cwmnïau gwyliau tramor ond y rhai o fewn y DU hefyd. Nid oes a wnelo hyn yn unig â chydymdeimlad â phobl y cyfyngwyd ar eu gallu i fynd ar wyliau. Pe bai pobl yn torri'r gyfraith ac yn mynd ar wyliau beth bynnag, maent mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo cymunedol yn digwydd, ac nid wyf yn credu y byddai cwmnïau gwyliau'n croesawu sefyllfa lle mae rhywun wedi torri'r gyfraith i fynd ar wyliau ac o bosibl wedi cyflwyno coronafeirws i ran o'u gweithgarwch gwyliau. Mae o fudd i gwmnïau gwyliau wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i hynny olygu sicrhau bod ad-daliadau ar gael ac nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa annifyr ac yn yr un modd, nad yw pobl eraill sy'n mynd ar wyliau yn teimlo dan fygythiad gan y bobl sy'n eistedd wrth eu hymyl o ran trafnidiaeth.
Mae yna bwynt ynglŷn â sut rydym yn cefnogi pobl, ac mae pwynt anodd iawn yma, oherwydd, yn y cyfyngiadau sydd wedi'u cyflwyno'n lleol yn Lloegr, nid ydym wedi gweld llif ychwanegol o adnoddau'n mynd tuag at gefnogi busnesau. Nawr, rydym wedi gweld hynny yng Nghaerlŷr ac ardaloedd eraill hefyd, ac unwaith eto, credaf y byddai hyn yn elwa o ymateb cydgysylltiedig yn y DU, lle gallwn eistedd i lawr a deall yr ymateb cyllidebol sydd ar gael, a ph'un a oes cynllun DU gyfan o bosibl ar gyfer busnesau lle rydym yn gosod cyfyngiadau newydd arnynt. Mae ein sefyllfa gyllidebol yng Nghymru yn golygu nad ydym mewn sefyllfa lle mae gennym lawer o arian dros ben i allu ei roi i fusnesau i'w cefnogi pan fydd angen inni roi camau iechyd cyhoeddus ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ehangach. Dyna pam rwyf fi a'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ein bod eisiau gweld proses COBRA yn ailddechrau o ddifrif, i gael sgyrsiau rheolaidd, a rhannu penderfyniadau gobeithio, ond yn yr un modd, o fewn ein cyfrifoldebau unigol ein hunain, ffordd well o gyfathrebu, ym mhob rhan o Gymru a'r DU, y dewisiadau sy'n cael eu gwneud a'r hyn sy'n sail iddynt.
O ran gwarchod, cynghorir y wlad gyfan i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i bobl ar y rhestr warchod, nid pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn unig. Y cyngor gan ein prif swyddog meddygol—cawsom drafodaeth fwriadol am y boblogaeth sy'n gwarchod, ac er nad ydym yn cael ein cynghori i ailgyflwyno'r trefniadau gwarchod llawn ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cyswllt uniongyrchol â phobl a oedd gynt yn cael eu gwarchod i'w hatgoffa o'r sefyllfa roeddent ynddi, y sefyllfa bresennol, ac i'w hatgoffa yn arbennig y dylent ddilyn y rheolau hyn yn llym er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws, oherwydd eu bod mewn llawer mwy o berygl o niwed.
A phan ddaw'n fater o aros yn lleol, mae gennym gyfyngiadau teithio lleol, ond mae hefyd yn gyfle i bobl gefnogi eu busnesau lleol. Ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn cydymffurfio â'r rheolau ein hunain fel cwsmeriaid, ond hefyd sut y mae busnesau eu hunain yn ei gwneud yn glir eu bod yn darparu amgylchedd mor ddiogel â phosibl i'w cwsmeriaid er mwyn iddynt allu parhau i ddod yn ôl, boed ar-lein neu'n gorfforol. A gobeithio y bydd pobl o ddifrif ynglŷn â'r neges hon, nid yn unig o safbwynt gorfodaeth, ond er mwyn gofalu am ein staff ac edrych ar ôl y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.
Diolch i chi am y datganiad. Hoffwn ychwanegu at rai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud a gofyn am sicrwydd ynglŷn â nifer o wahanol bethau. Yn gyntaf, ar gyfathrebu, a allech chi egluro sut y bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, yn cynyddu lefel y cyfathrebu yn lleol yn Rhondda Cynon Taf, yn yr achos hwn, ac mewn ardaloedd eraill yr effeithiwyd arnynt, oherwydd mae'n amlwg fod y negeseuon yn dal i gael eu colli? Chwe mis i mewn i'r pandemig, mae rhai negeseuon sylfaenol yn dal i gael eu colli.
Elfen arall o gyfathrebu y byddwn yn awyddus i'w gweld yw rhoi gwybod i bobl pryd yn union y dylent fynd i gael eu profi, oherwydd mae pobl yn bod yn rhy ofalus. Ac mae hynny'n beth da; rydym eisiau i bobl sydd efallai angen prawf i wneud yn siŵr eu bod yn cael un. Ond os oes ffordd well o gyfathrebu, er mwyn annog pobl a allai fod â symptomau ond nad ydynt yn symptomau COVID mewn gwirionedd i beidio ag aros am brawf, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd. Rwyf wedi'i chael hi'n anodd ar brydiau i ddiffinio peswch newydd, parhaus ac yn y blaen. Felly, byddai cyfathrebu ar hynny'n dda.
Gorfodaeth—hoffwn gael sicrwydd ynglŷn â gorfodaeth. Sut rydych yn sicrhau bod y tafarndai lle mae pobl yn dal i gael ymgynnull yn cael eu plismona'n briodol, fod gan awdurdodau lleol bwerau ac adnoddau i'w plismona er mwyn sicrhau bod pobl yn gorfod cadw at y rheolau?
Mae cyfyngu ar gyswllt yn rhywbeth arall yr hoffwn gael sicrwydd yn ei gylch. Pa bryd y byddwch yn dweud nad yw cadw tafarn ar agor tan 11.00 p.m. yn dderbyniol, a bod rhaid i chi gael gwared ar fwy o gyfleoedd i bobl gymysgu? Oherwydd mae tystiolaeth wedi dangos, onid yw, y gall y lleoedd hynny fod yn beryglus. Ac wrth gwrs, os oes rhaid i chi gau lleoedd, rydym angen sicrwydd ynglŷn â chymorth i'r busnesau hynny.
Ac yn olaf, ar brofi, a gawn ni fwy o sicrwydd ynglŷn â sut y byddwn yn gwybod ein bod angen—y capasiti y mae'n rhaid inni ei gael o fewn ein cymunedau mewn labordai goleudy a'r systemau sy'n cael eu rhedeg gan y DU? Oherwydd dywedodd SAGE Annibynnol fisoedd yn ôl:
Mae taer angen cynllunio ar gyfer symud profion o'r labordai goleudy a sicrhau 'normaleiddio' capasiti cynyddol o'r fath yn fwy integredig ar draws ein labordai PHE/GIG presennol.
Fe wnaethoch chi fel Llywodraeth y gwrthwyneb. Rwy'n teimlo ein bod yn talu'r pris am hynny yn awr. Rydym angen sicrwydd y byddwn yn cael y profion rydym eu hangen dros gyfnod y gaeaf.
Diolch. Efallai yr af i'r afael â'r pwynt olaf yn gyntaf. Fe fyddwch yn cofio i ni gael anhawster a heriau gwirioneddol ar ddechrau'r pandemig o ran cynyddu ein hadnoddau profi ein hunain yn sylweddol. Roeddem wedi archebu offer ond bu oedi ac nid oedd modd ei ddosbarthu i Gymru. Roedd hynny oherwydd cyfyngiadau a gyflwynwyd mewn gwledydd eraill. Yna, bu'n rhaid i ni wynebu heriau pan gyrhaeddodd yr offer hefyd—un darn yn arbennig a gymerodd sawl wythnos i setlo a gweithredu'n iawn. Felly, dyna pam fod rhywfaint o anhawster o ran cynyddu ein hadnoddau profi ein hunain a'r bobl sydd eu hangen i sicrhau bod y profion hynny'n cael eu prosesu'n iawn, ynghyd â phryder ynghylch yr anawsterau y mae labordai goleudy yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Oherwydd er bod Matt Hancock wedi dweud y bydd yn rhaid i ni aros nifer o wythnosau—hyd at oddeutu tair wythnos, mae'n gobeithio—cyn y bydd labordai goleudy mewn sefyllfa well gyda llawer mwy o gapasiti, ac yn gallu ateb y galw y maent yn ei wynebu, gwyddom ei bod yn bosibl i ddigwyddiadau eraill ymyrryd, a dyna pam ein bod eisoes yn newid ein capasiti.
Nid ydym yn aros tair wythnos a dweud, 'Mae'n rhaid i ni fod yn amyneddgar'; rydym mewn gwirionedd yn cynyddu ein capasiti ein hunain sydd ar gael i'r cyhoedd drwy labordai GIG Cymru. A dyna, yn rhannol, yw'r rheswm pam ein bod wedi cynyddu ein capasiti ein hunain i sicrhau bod dewis arall yn lle profion sydd ar gael i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi cynyddu'r capasiti hwnnw'n barod ar gyfer yr hydref a'r gaeaf, pan fyddwn yn disgwyl y bydd gennym fwy o bobl yn dod i'n hysbytai, mwy o bobl yn chwilio am ofal iechyd, a bydd angen inni gael cyfleusterau profi ar gael, a bydd yn caniatáu i ni, fel rydym yn ei wneud, ddefnyddio profion mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion. Felly, rydym yn gwneud yn union yr hyn roeddem yn meddwl y byddai angen inni ei wneud, ond mae'n gynharach ac mewn ffordd wahanol oherwydd yr heriau y mae rhaglen y DU yn eu hwynebu.
Nid yw'n ymwneud â ffydd ddall; mae'n ymwneud â realiti ymarferol o ran lle mae'r adnoddau. Rhaglen y DU yw hi ac mewn gwirionedd, ychydig fisoedd yn ôl, y feirniadaeth gyffredinol roeddwn yn ei chael oedd nad oeddem yn cymryd rhan pan oedd gwledydd eraill yn cymryd rhan. Gwnaethom ddatrys y problemau data ac fe weithiodd y rhaglen labordai goleudy yn yn eithaf da dros y misoedd diwethaf. Mae angen inni ymdrin yn awr â'r her rydym i gyd yn cydnabod ei bod yn digwydd a'r pryder y mae hynny'n ei achosi i etholwyr.
O ran gorfodi, hoffwn ganmol swyddogion iechyd yr amgylchedd ym mhob awdurdod lleol, ni waeth pwy sy'n arwain y cyngor hwnnw. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi bod yn rhan enfawr o'r hyn rydym yn ei wneud ac rwy'n awyddus iawn i dalu teyrnged iddynt. Maent i gyd yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i archwilio safleoedd, rhoi camau gorfodi ar waith a chadw'r cyhoedd yn ddiogel. Nid ydym yn bwriadu cyflwyno swyddogion COVID fel yr awgrymodd Llywodraeth y DU eu bod yn bwriadu ei wneud. Rydym yn gobeithio gweld mwy o bobl yn cael eu recriwtio i gynorthwyo swyddogion iechyd yr amgylchedd drwy brosesau recriwtio priodol ac mae awdurdodau lleol eisoes yn edrych ar sut y maent yn bwriadu gwneud hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn bod yn glir ein bod eisiau eu gweld yn cydweithredu â'i gilydd. Oherwydd mewn gwirionedd, o ystyried y cynnydd parhaus yn nifer yr achosion yng Nghaerffili, maent wedi bod angen cymorth gan eraill, ac mae'n ymwneud â sut y mae cynghorau'n gweithio gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau, yn hollbwysig, nad yw 22 awdurdod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr un adnoddau cyfyngedig.
Er hynny, hoffwn dalu teyrnged, nid yn unig i swyddogion iechyd yr amgylchedd, ond i arweinwyr yr awdurdodau lleol penodol rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy. Gallaf ddweud, ar ddechrau hyn, gyda'r digwyddiad cyntaf yn Ynys Môn, fod arweinydd Plaid Cymru yno'n gyfrifol iawn ac roeddwn yn credu ei bod wedi gwneud gwaith da iawn yn arwain ei chyngor drwy'r digwyddiad mawr cyntaf hwnnw. Ac rydym yn gweld hynny yn awr gyda Philippa Marsden yng Nghaerffili ac Andrew Morgan yn Rhondda Cynon Taf. Ac mae'r berthynas honno, lle rydym yn siarad yn rheolaidd â hwy, yn bwysig iawn. Maent yn cyfathrebu'n unedig hefyd, fel bod pobl ar lawr gwlad, gyda'u cyfrifoldebau lleol mewn llywodraeth leol, yn cyflawni'r rheini gyda chefnogaeth, ac mewn ffordd sy'n gyson â Llywodraeth Cymru. Ac mae hynny hefyd yn ymwneud â symlrwydd ein neges.
Mae ein neges wedi bod yn gyson iawn yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae heriau'n codi gyda gwahanol negeseuon a'r ffordd y mae'r cyfryngau'n cyfleu'r rheini, a gwahanol negeseuon yn enwedig dros ein ffin, lle mae llawer o bobl yn cael eu cyfryngau. Felly, rydym wedi bod yn ailgyhoeddi negeseuon, nid yn unig drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ond drwy ddefnyddio cyfryngau Cymru hefyd, ac mae Gweinidogion wedi cael proffil uchel iawn nid yn unig yn y cyfryngau yng Nghymru, ond ar draws cyfryngau'r DU hefyd. Byddwn yn parhau i wneud hynny i geisio ymdrin â phryderon pobl mewn perthynas â'r neges, sut i gael prawf a phryd i gael prawf.
Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli'r gallu i flasu neu arogli. Dyna pryd y dylech fynd i gael prawf, ac os oes angen prawf arnoch, peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd. Peidiwch â mynd i ysbyty, peidiwch ag ymweld â'ch meddyg teulu, peidiwch â mynd i fferyllfa—dyna'n union lle nad ydym eisiau i chi fod. Os gallwch, archebwch eich prawf o adref os gwelwch yn dda, neu os oes angen i chi fynd i ganolfan alw i mewn, gwnewch yn siŵr nad ydych yn torri rheolau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith gydag aelodau eraill o'r cyhoedd.
Weinidog, yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi pwysigrwydd y gwaith y mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ei wneud yn monitro a gorfodi archfarchnadoedd a thafarndai ac yn y blaen? Mae wedi bod yn bwysig. Ond rwy'n credu hefyd fod y gymuned rwy'n byw ynddi ac yn ei chynrychioli wedi sylweddoli bod achosion wedi bod yn cynyddu ac y byddai angen cymryd camau pellach.
Mae nifer o gwestiynau wedi'u hateb, ond rwyf eisoes wedi cael cannoedd o negeseuon am wybodaeth ac yn y blaen drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae hynny'n ddealladwy yn y ffordd y mae cyfathrebu wedi bod yn datblygu yn ein hetholaethau. Mae dau bwynt yno. Un pwynt sydd wedi'i godi yw'r henoed ac rydym yn pryderu'n fawr yn eu cylch wrth gwrs ac ni fyddant yn gallu cwrdd â'u swigod cefnogaeth yn yr un modd. Rwy'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i'r math o gymorth a chyngor y mae angen eu rhoi i'r henoed yn y sefyllfa honno. Gwyddom hefyd, gydag ysgolion yn ailagor—ac rydym eisiau i'n hysgolion aros ar agor—fod llawer o neiniau a theidiau'n mynd â'u hwyrion a'u hwyresau i'r ysgol, a gallai fod problemau yno o ran eu gallu i barhau i wneud hynny ai peidio. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech daflu goleuni ar y cwestiwn penodol hwnnw.
Ac yna un pwynt olaf. Rydych wedi cyfeirio at drosglwyddiad cymunedol. Wrth gwrs, mae llawer o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud, 'Wel, mae gennym glystyrau yma ac acw, pam na wnawn ni gau'r ardaloedd lle mae'r clystyrau hynny'n bodoli?' Credaf y byddai'n ddefnyddiol, Weinidog, pe gallech egluro heddiw beth yw'r broblem o ran trosglwyddiad cymunedol, pam nad yw'n realistig nac yn ymarferol o ran rheoli'r lledaeniad presennol i gau ardaloedd bach neu ardaloedd cyfyngedig yn unig, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar hyn yn fwy eang o ran cyflymder a lledaeniad y trosglwyddiad.
Ac yna un pwynt olaf. Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn gwneud llawer o waith yn datblygu technoleg ar gyfer profion cyflym. Rwy'n meddwl tybed a oes gennych unrhyw wybodaeth neu ddiweddariad ynglŷn â sut y mae hwnnw'n mynd rhagddo, oherwydd os yw'n gwneud cynnydd, mae'n amlwg ei fod yn cynnig cyfleoedd aruthrol.
Diolch am y cwestiynau. Ar y pwynt olaf yn gyntaf, mae datblygiad posibl Prifysgol De Cymru yn dal i fod mewn treialon. Deallwn eu bod yn edrych yn gadarnhaol. Mae'n un o nifer o brofion pwynt gofal posibl lle gallwch brofi pobl yn gyflym. Mae gennym eisoes ddyfais o'r fath y mae gennym ni a'r Alban yn arbennig ddiddordeb ynddi, a dylai honno, unwaith eto, ddarparu prawf mewn llai nag 20 munud. Felly, yn hollbwysig, dylai'r prawf hwnnw ein galluogi i fynd i'r afael â rhai mathau o'r ffliw hefyd, sy'n arbennig o ddefnyddiol yn ystod tymor y ffliw hyd yn oed os nad oes COVID ar bobl. Os oes ffliw arnynt, mae'n glefyd heintus a dylem gofio bod 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU yn colli eu bywydau yn ystod tymor ffliw cyffredin. Felly, mae bygythiadau gwirioneddol, ac os oes angen i chi gael brechiad ffliw gan y GIG, rydych mewn grŵp agored i niwed mewn perthynas â COVID hefyd. Felly, wrth inni gael rhagor o wybodaeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod hwnnw ar gael, nid yn unig i'r Aelod etholaeth, ond i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd.
Ar eich pwynt ynglŷn â gorfodaeth, unwaith eto, y pwynt am swyddogion iechyd yr amgylchedd a'r gwaith y maent wedi'i wneud a'r ffordd y maent wedi gweithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau—mae rhai partneriaethau ar draws gwahanol awdurdodau lleol—mae eu hymrwymiad yn arwyddocaol iawn ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran y cydgysylltiad rhwng cyfrifoldebau awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd hefyd. Mae ein gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol yn bendant wedi gweithio fel tîm. Felly, bydd y gweithgarwch gorfodi hwnnw—y gwiriadau—yn parhau, ond y man cychwyn yw sicrhau bod busnesau eu hunain yn dilyn y rheolau a bod cwsmeriaid yn dilyn y rheolau hefyd.
Daw'r rheolau i rym am 6 o'r gloch yfory, ond fel y gwelsom yng Nghaerffili, mae ymddygiad yn dechrau newid cyn gynted ag y gwneir y cyhoeddiad, ac rydym eisiau i bobl ymddwyn fel hyn i ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a'u cymuned. Dyna yw pwynt a diben hyn: ceisio achub bywydau. Mae canllawiau Caerffili yn ddefnyddiol i bobl Rhondda Cynon Taf oherwydd ein bod wedi ateb amryw o gwestiynau. Bydd cwestiynau tebyg iawn i'r rhai a ofynnwyd yng Nghaerffili. Yn ogystal â chanllawiau Caerffili, mae'n ymwneud â chyfyngu ar yr oriau gwerthu mewn safleoedd trwyddedig.
Ar ysgolion ac unigolion â chyfrifoldebau gofalu, hyd yn oed yng nghanol y cyfyngiadau symud cenedlaethol, roedd yn esgus rhesymol i rywun ymweld â pherson arall yn eu cartref os oes gennych gyfrifoldebau gofalu amdanynt. Mae hynny'n dal yn wir yn awr. Ond nid ydym yn gweld y trefniadau aelwydydd estynedig yn goroesi o yfory ymlaen yn Rhondda Cynon Taf oherwydd y dystiolaeth ynglŷn â throsglwyddo cymunedol a heriau pobl yn cymysgu dan do heb gadw pellter cymdeithasol.
Daw hynny'n ôl at y pwynt olaf sy'n rhaid i mi fynd i'r afael ag ef, eich pwynt am drosglwyddiad cymunedol neu glystyrau. Os ystyriwch y materion a welsom, er enghraifft, mewn amrywiaeth o ardaloedd, boed yn broblem bresennol General Dynamics, lle mae llawer o'r gweithlu ym Merthyr Tudful, ond mae rhai gweithwyr yn teithio o ymhellach i ffwrdd, neu'r broblem flaenorol a welsom—gwelaf yr Aelod dros Flaenau Gwent yn yr ystafell—yn Zorba, lle roedd gweithlu mawr, ond roeddem yn deall pwy oeddent a lle roeddent yn byw. Roedd y cyflogwr a'r undebau llafur—lle roeddent i'w cael—yn cydweithredu'n dda ac yn annog pobl i gael eu profi a'u profi'n gyflym, felly pan welsom fod llawer o brofion yn cael eu cynnal yn gyflym iawn, golygai fod y cyfraddau achosion yn rhai o ardaloedd yr awdurdod wedi codi'n sylweddol, ond roeddem yn deall beth oedd hynny. I bob pwrpas, roedd hwnnw'n glwstwr hunangynhwysol o bobl a oedd â chysylltiadau rhagweladwy â'i gilydd.
Yr hyn a welwn yn Rhondda Cynon Taf yw bod posibl rhagweld tua hanner yr achosion yn yr ardaloedd hynny a deall sut y trosglwyddir y feirws. Rydym yn gweld tua hanner yr achosion, ond mewn ardaloedd lle nad ydym yn deall lle mae'r achos cyntaf na sut y maent yn cysylltu â'i gilydd, dyna pryd y gwelwn drosglwyddiad cymunedol yng nghyswllt arferol pobl â phobl sy'n dilyn y rheolau yn hytrach na'r digwyddiadau unigol, er enghraifft, yn y clwb a aeth i rasys Doncaster ar fws yn ystod y dydd, gan fynd i mewn ac allan o dafarndai a dod yn ôl hefyd. Mae'r digwyddiad unigol hwnnw wedi digwydd ochr yn ochr â lledaeniad cymunedol ehangach a dyna'r perygl gwirioneddol a allai ein rhoi ni i gyd yn ôl yn y sefyllfa roeddem ynddi ym mis Mawrth eleni, ychydig cyn dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol, a dyna rydym yn awyddus iawn i'w osgoi a pham rydym yn apelio ar bobl i ddilyn y rheolau, nid yn unig yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, ond y rheolau sy'n berthnasol yng ngweddill y wlad hefyd.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ymuno â'r Gweinidog ac eraill sydd wedi canmol gwaith swyddogion rheng flaen ar lawr gwlad mewn gwahanol adrannau yn Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Andrew Morgan, ac asiantaethau eraill hefyd? Maent wedi gwneud gwaith rhagorol nid yn unig yn yr oriau a'r dyddiau diwethaf, ond dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf hefyd mewn gwirionedd. Hefyd, ei alwad ar Lywodraeth y DU i ymestyn cymorth nid yn unig i weithwyr, yn bwysig, ond hefyd i fusnesau yr effeithir arnynt gan rwystrau lleol a chyfyngiadau lleol hefyd, neu fel arall mae'r pwysau economaidd ac ariannol yno i blygu'r rheolau, mynd yn ôl; nid ydym eisiau i hynny ddigwydd, ond mae yna realiti ar lawr gwlad. Rwyf innau hefyd wedi cael nifer o gwestiynau yn dod i mewn yn fyw i mi ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud, a tybed a gaf fi ofyn y rhain i'r Gweinidog.
Yn gyntaf oll, mewn ardaloedd fel Gilfach Goch a Llanharan ac ardaloedd eraill, sydd ar ffin Rhondda Cynon Taf ond o fewn etholaeth Ogwr, lle nad ydym wedi cau tafarndai a chlybiau, lle nad oes gennym ddata eto sy'n dangos bod clwstwr lleol dwys o achosion o'r feirws yno, mae pobl yn gofyn a ellir mabwysiadu dull mwy hyperleol o ymdrin â hyn dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf neu a oes yn rhaid mynd yn ôl ardal y fwrdeistref sirol. A oes rhesymau pam mai dull sy'n gweithredu ar draws y fwrdeistref sirol yw'r dull a ffafrir? Ai'n syml at ddibenion gorfodi y gwneir hyn, ar gyfer monitro? Nid wyf yn gwybod, ond mae pobl yno'n dweud, 'Wel, pam ein bod ni'n cael ein cosbi pan nad oes gennym nifer o achosion yma, pan fo'n tafarndai a'n clybiau'n ymddwyn yn dda?' ac yn y blaen.
Yn ail, ardaloedd ffiniol ychydig y tu allan, megis Evanstown a Gilfach Goch, sydd yn llythrennol ar yr un ochr i'r stryd, gyda theulu a chymdogion sy'n cymudo ar draws at ddibenion gwarchod plant ac sydd ag aelwydydd estynedig rhwng dwy fwrdeistref sirol yn wynebu ei gilydd ar ddwy ochr i stryd, pa gyngor y dylem fod yn ei roi i'r rhai yn Evanstown nad yw'r cyfyngiadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt, ond a fydd yn effeithio arnynt pan fyddant yn sylweddoli bore yfory na fydd eu gwarchodwyr plant neu eu neiniau a'u teidiau neu beth bynnag, wel, na fyddant yn gallu ymweld â hwy? Pa gyngor y dylem fod yn ei roi?
Ac yn olaf, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi eisoes, ond cysylltodd un pâr a oedd wedi aildrefnu eu priodas o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud yn gynharach yn y flwyddyn, o fis Mai i fis Hydref, i leoliad gwahanol yn y Bont-faen. Maent wedi archebu lle, mae ganddynt nifer cyfyngedig o westeion yn dod, maent yn byw yn Llanharan, ac maent yn gofyn yn awr a yw hyn yn golygu na all eu priodas ddigwydd am yr eildro. Rwy'n tybio nad yw'r newyddion yn dda, ond os felly yng ngoleuni'r hyn roedd Vikki yn ei ddweud, a allai Llywodraeth Cymru ymestyn y llythyr hwnnw iddo allu mynd nid yn unig at drefnwyr gwyliau a chwmnïau teithio, ond hefyd at leoliadau priodas ac eraill i sicrhau eu bod yn dangos y cydymdeimlad mwyaf posibl at bobl y mae hyn yn effeithio arnynt?
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am ddweud eto fod peth cysondeb yn yr hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud a phwyntiau i'r gwrthwyneb hefyd. Felly, gan feddwl am yr hyn a ddywedodd Leanne Wood, 'Pam nad ydym yn cau'r holl dafarndai yn awr?', mae yna wrthbwynt yn yr ystyr fod yna dafarndai sy'n gyfrifol, nad ydynt eisiau gweld unrhyw gyfyngiadau, ac mae ein sefyllfa yn fesur o gyfyngiad ar gyfer pob safle trwyddedig oherwydd y dystiolaeth sydd gennym. Rydym wedi dewis peidio â chau pob safle oherwydd ein bod yn cydnabod bod rhai'n ymddwyn yn gyfrifol, ac fel y dywedais, nid ydym eisiau symud yr holl weithgaredd hwnnw i gartrefi pobl lle mae mwy fyth o berygl o drosglwyddiad.
Felly, fel y dywedais, mae'n gydbwysedd, ac mae gwneud penderfyniadau hyperleol yn creu her o ran faint o negeseuon gwahanol y mae pobl yn gallu eu derbyn a dal i'w dilyn oherwydd mae llawer o bobl yn dweud, 'Rhowch reolau syml a chanllawiau syml i ni eu dilyn a'u deall.' Mae'n sail i beth o'r rhwystredigaeth sydd gan aelodau'r cyhoedd am wahanol negeseuon rhwng gwahanol Lywodraethau. Rydym yn ceisio gwneud y peth iawn i Gymru a gwneud penderfyniadau cenedlaethol a deall penderfyniadau lleol, ac mewn unrhyw ardal lle mae gennych ffin o amgylch y penderfyniadau rydych yn eu gwneud, bydd yna groesi drosodd ac angen i ddeall. Nawr, mae'r ymylon garw hynny o amgylch y penderfyniadau a wnawn yn anochel, ond nid oes dewis perffaith, fel y gwyddoch a chithau'n gyn Weinidog; ni fyddwch byth yn cael gwneud dewis perffaith mewn Llywodraeth. Ond o fewn hyn, mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau a fydd, at ei gilydd, yn cadw pobl yn ddiogel, ac yn osgoi cymaint o niwed â phosibl.
Felly, o ran yr her ynglŷn â'r ffin, mae gwahaniaeth rhwng ymweld at ddibenion cymdeithasol a phobl sydd â chyfrifoldebau gofalu gwirioneddol. I rai pobl, maent yn gyfrifoldebau gofalu go iawn ac i eraill, nid dyna ydynt. Nawr, mae hynny'n tarfu ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, ac rwy'n cydnabod hynny, ond os na wnawn hyn, rydym yn debygol o weld coronafeirws yn lledaenu ymhellach, nid yn unig o fewn Rhondda Cynon Taf, ond ar draws y ffin eithaf mandyllog honno yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau arferol. Rydym i gyd yn cydnabod y niwed a ddigwyddodd cyn ac yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf.
Wedyn, ar eich pwynt ynglŷn ag effaith cyfyngiadau symud, rwy'n dyfalu bod her yma i Drysorlys y DU feddwl am effaith cyfyngiadau lleol, lle rydych yn rhoi terfyn ar lawer o weithgarwch ac rydych bron yn sicr yn gweld gostyngiad yn y derbyniadau treth a gweithgarwch economaidd, ac ar yr un pryd, y gost y mae angen i chi fynd iddi er mwyn cynnal y gweithgarwch hwnnw, a beth fydd yn digwydd os nad ydym yn cefnogi busnesau a'r heriau o ganlyniad i fethiant y busnesau hynny os na chânt eu cefnogi, ac yn yr un modd, yr heriau llawer ehangach os na chaiff pobl eu cefnogi i ynysu fel y dylent ei wneud. Os bydd pobl yn mynd allan, mae'n gwneud cyfyngiadau lleol a chyfyngiadau symud cenedlaethol—nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU—yn fwy tebygol, gyda phris ariannol llawer uwch i'w dalu, yn ogystal â phris y byddwn i gyd yn ei weld yn cael ei dalu o ran iechyd a lles pobl.
Ar eich pwynt ynglŷn â lleoliadau priodas, rwy'n credu bod y pwynt wedi'i wneud yn dda. Mae arnaf ofn nad yw'r newyddion yn dda i'ch etholwyr, ond byddaf yn ystyried y pwynt ynglŷn â sut rydym ni o fewn y Llywodraeth yn ysgrifennu at y lleoliadau hynny a'r cwmnïau hynny, oherwydd rwy'n cydnabod ei fod yn ddigwyddiad mawr mewn bywyd, bydd yna bobl sy'n bryderus iawn yn ei gylch, ac mae ystyr iddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ystyried eich sylwadau.
Diolch i'r Gweinidog.