Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 16 Medi 2020.
Ar ôl aros cyhyd am ymateb o sylwedd i’r argymhellion, roedd hi'n siomedig felly na ddarparodd Llywodraeth Cymru yr ymateb manwl roeddem yn ei ddisgwyl. Fe wnaethant nodi, yn erbyn cefndir COVID a'r ansicrwydd ynghylch y newidiadau brys i'r system fudd-daliadau, nad nawr yw'r amser i ystyried newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol. Serch hynny, mae'r pandemig wedi amlygu natur ansicr sefyllfa ariannol gormod o lawer o bobl—ansicrwydd nad yw’n unrhyw fai arnynt hwy, ond sy'n deillio o'r ffaith nad ydynt yn ennill digon o arian i dalu am bethau sylfaenol. Mae'r llwybr traddodiadol allan o dlodi—gwaith—wedi’i rwystro. Cyn y pandemig, roedd dros hanner y bobl a oedd yn byw mewn tlodi mewn aelwydydd lle roedd o leiaf un unigolyn yn gweithio. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru: os nad heddiw, pa bryd y byddant yn edrych ar hyn mewn ffordd gynhwysfawr ac yn ystyried galw am y pwerau angenrheidiol fel bod gan Gymru reolaeth dros y budd-daliadau y gellir eu darparu a'u gosod orau yn y fan hon?
Gallwn eisoes ddysgu llawer o brofiad yr Alban. Yn amlwg, ni fyddai'n hawdd a byddai'n dod â risgiau yn ei sgil, ond fel y dywedodd rhai o'r rhanddeiliaid wrthym, ceir risg sylweddol wrth aros gyda'r sefyllfa sydd ohoni hefyd. Credwn y gallai manteision datganoli rhai budd-daliadau fod mor sylweddol, a gallent wneud cymaint i helpu i gynorthwyo pobl yng Nghymru i godi allan o dlodi, fel ei bod yn werth bod yn feiddgar a cheisio'r pwerau perthnasol. Mae'n werth nodi hefyd y bydd datganoli yn cymryd amser a dylem osgoi unrhyw oedi pellach cyn dechrau'r siwrnai hon.
Gan symud ymlaen at effaith y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, bu cynnydd o 71 y cant yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n derbyn credyd cynhwysol, ac mae cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 52,000 o daliadau brys coronafeirws ers mis Mawrth. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg tuag at geisiadau i’r gronfa cymorth dewisol, gan alluogi mwy o bobl i gael mynediad at y cronfeydd brys hynny.
Yn ystod ein gwaith yn edrych ar effaith y pandemig, clywsom am yr angen am newidiadau pellach sy'n gwneud mwy i gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru. Mae'r argymhellion a wnaethom yn yr adroddiad hwn bron i flwyddyn yn ôl wedi dod yn bwysicach fyth bellach. Edrychodd ein hargymhellion ar y ddau newid y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol yn ogystal â lle gallai fod angen datganoli pellach. Fel y soniais, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â'r argymhellion diweddarach hynny yn ein hadroddiad.
Ond symudaf ymlaen yn awr at newidiadau y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol. Mewn perthynas ag argymhellion 1 i 9, gwelwyd cynnydd mwy cadarnhaol. Fodd bynnag, mae yna rai meysydd yr hoffwn gael rhagor o eglurder yn eu cylch, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain yn awr. Yn argymhelliad 1, rydym yn galw am sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru sy'n cwmpasu'r holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Rwy'n falch fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Yn eu hymateb, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at eu hadolygiad trawslywodraethol o raglenni a gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Yn ymateb diweddaraf y Llywodraeth, dywedant fod yr adolygiad bron â bod wedi'i gwblhau. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa bryd y mae’n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi, ac a all roi blas inni hefyd o sut y bydd hyn yn helpu i wella cydlyniad a’r gwaith o integreiddio budd-daliadau Llywodraeth Cymru?
Argymhelliad 3—galwad am i'r gronfa cymorth dewisol fod ar gael yn ystod y cyfnod aros pum wythnos am daliad credyd cynhwysol, a galwad am i’r meini prawf a'r broses ymgeisio egluro hyn yn glir. Rwy’n falch fod yr argymhelliad hwn wedi’i roi ar waith, ond fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar COVID a chydraddoldebau, a gyhoeddwyd dros yr haf, rydym yn parhau i bryderu nad yw pawb a allai fod yn gymwys i gael yr arian hwn yn ymwybodol y gallant wneud cais amdano. Mae pryderon ynglŷn ag ymwybyddiaeth wedi cael eu lleisio ers 2015. Yn ein hadroddiad ar COVID, gwnaethom argymell y dylid ailfrandio'r gronfa cymorth dewisol, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw yn yr wythnos i ddod.
Yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn, mae'r Dirprwy Weinidog yn nodi ei bod hi, ynghyd â'r Prif Weinidog, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cyfnod o bum wythnos cyn cael credyd cynhwysol, gan alw am droi blaendaliadau sydd ar gael ar hyn o bryd fel benthyciadau ad-daladwy yn grantiau nad oes angen eu had-dalu. A all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a gafwyd unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU ar ba gamau pellach y gellir eu rhoi ar waith?
Un o'r themâu allweddol a glywsom, yn y gwaith hwn a'n gwaith dilynol ar COVID-19, oedd fod gormod o bobl nad ydynt yn hawlio cymorth y maent yn gymwys i'w gael. Felly, gwnaethom argymell camau gweithredu i wella'r nifer sy'n hawlio'r holl fudd-daliadau, boed yn rhai datganoledig neu rai heb eu datganoli. Rydym yn galw, fan lleiaf, am ymgyrch gyhoeddus eang a phellgyrhaeddol i godi ymwybyddiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd y gronfa gynghori sengl sy'n darparu cyngor ar fudd-daliadau ac yn cynyddu'r nifer sy'n hawlio. Maent hefyd yn tynnu sylw at y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar nifer y bobl hŷn nad ydynt yn hawlio budd-daliadau y maent yn gymwys i'w cael. Rydym yn croesawu hyn, ond rydym yn dal i gredu bod mwy o weithredu yn hanfodol. Mae'r angen am ymgyrch o'r fath wedi cynyddu ers i ni adrodd gyntaf. Gwnaethom ailadrodd yr argymhelliad hwn yn ein hadroddiad ar COVID. Galwodd Sefydliad Bevan hefyd am ymgyrch o’r fath yn eu hadroddiad diweddar ar COVID a thlodi. A yw'r Dirprwy Weinidog bellach yn derbyn y galwadau hyn, ac a wnaiff hi ymrwymo i ymgyrch o'r fath i godi ymwybyddiaeth?
Cyn i mi gloi, hoffwn ofyn hefyd am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog ar y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i gryfhau llais Cymru mewn penderfyniadau ar fudd-daliadau heb eu datganoli. Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob rhan o'r Senedd ac ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.