Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 16 Medi 2020.
Wel, drwy gydol ein hymchwiliad, pwysleisiais fod yn rhaid i'n hystyriaeth o opsiynau ar gyfer cyflawni budd-daliadau yn well yng Nghymru ganolbwyntio ar p'un a fyddai hyn o fudd cynhenid i bobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar safbwyntiau polisi byrhoedlog gwahanol Lywodraethau. Mae Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn mynd a dod, a bydd yr agenda bolisi rhwng y ddwy lywodraeth ac o'u mewn yn newid dros amser. Felly, rhaid inni ganolbwyntio ar p'un a fyddai cyflawni pethau ar lefel ddatganoledig am byth ynddo'i hun yn diwallu anghenion Cymru'n well ac yn mynd i'r afael â'r effaith ar feysydd polisi datganoledig, yn hytrach nag adlewyrchu'r wleidyddiaeth mewn perthynas â pholisïau presennol y DU a Llywodraeth Cymru.
Fel y dywed ein hadroddiad,
'[nid] yw datganoli yn gwella pethau’n awtomatig, pwynt a godwyd gan y mwyafrif o randdeiliaid gan gynnwys Oxfam Cymru, Sefydliad Bevan, academyddion o Brifysgol Bangor a’r Dirprwy Weinidog.'
Fel y nodwyd gennym hefyd, rhaid cydbwyso
'gwobr bosibl darparu gwasanaethau sy’n gweddu’n well i anghenion penodol Cymru'
â'r posibilrwydd o dorri'r undod cymdeithasol ledled y DU sy'n sail i'r egwyddor fod gan holl ddinasyddion y DU hawl cyfartal i'r wladwriaeth les a bod budd-daliadau a beichiau yn dibynnu ar angen ac nid ar ddaearyddiaeth.
Fel y dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig wrthym, mae'r model cyfredol
'sy’n gwasgaru gwariant nawdd cymdeithasol dros sylfaen ddemograffig fwy yn un sydd ar hyn o bryd yn fanteisiol i Gymru', ble, ac rwy'n dyfynnu,
'[y]n sgîl lefel uwch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yng Nghymru, dywedodd fod peth incwm i bob pwrpas yn cael ei drosglwyddo o Loegr i Gymru.'
Fel y dywedasant hefyd, nid yw rhagybio'n unig y bydd yn well am eich bod yn nes ato—nid wyf yn credu bod hynny o reidrwydd yn dilyn.
Tynnodd Sefydliad Bevan sylw at yr angen i wahaniaethu rhwng y budd-daliadau y gellid dadlau eu bod yn rhan o'r contract cymdeithasol, e.e. budd-daliadau sy'n seiliedig ar gyfraniadau yswiriant gwladol, a'r rhai sy'n daliadau ychwanegol amrywiol a gynlluniwyd i gefnogi pobl mewn amgylchiadau penodol, e.e. i reoli costau tai uwch. Dywedant y gellid lleihau tlodi pe bai'r cynlluniau datganoledig presennol, gan gynnwys y gronfa cymorth dewisol a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yn cael eu dwyn ynghyd mewn system fudd-daliadau gydlynol, effeithiol a theg i Gymru.
Yn yr Alban, pwysleisiwyd yr angen i gynnwys pobl â phrofiad byw wrth gynllunio'r system nawdd cymdeithasol newydd, yn ogystal â'r angen i wrthbwyso'r arbedion a gynhyrchir gan lai o apeliadau yn erbyn cost cynyddu'r nifer sy'n hawlio. O ran gweinyddu budd-daliadau'r DU, clywsom fod llai o sancsiynau credyd cynhwysol nag erioed o'r blaen. Er bod cyd-Geidwadwyr yn yr Alban wedi cefnogi datganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol, sef tua 16 y cant o wariant lles yn yr Alban, rhagwelir twll du ariannol o £1 biliwn er bod gan Lywodraeth yr Alban fwy o hyblygrwydd ariannol, ac mae'n dal i fod angen i'r penderfynwyr wneud penderfyniadau anodd ar lefel ddatganoledig. Dywedir wrthym hefyd fod maint yr Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu na fydd datganoli yn yr Alban yn gweithio heb ei fewnbwn effeithiol.
Fel y dywed ein hadroddiad, rydym yn pryderu nad yw'r prosesau asesu presennol yn rhoi'r ystyriaeth orau bob amser i'r anghenion neu'r heriau penodol sy'n wynebu pobl â rhai cyflyrau, mater rwyf wedi bod yn ei godi dro ar ôl tro gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a Capita mewn perthynas ag achosion etholwyr. A dyna pam fod angen ymgorffori profiad byw pobl wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r system fudd-daliadau. Yn groes i ddatganiad yr adroddiad fod angen archwilio pellach ar ddull yr Alban, lle mae'r sector preifat wedi'i dynnu allan o'r broses asesu, dylai'r ffocws felly fod ar y broses asesu yn hytrach na phwy sy'n ei chyflawni. P'un a yw asesiadau'n cael eu cynnal gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, byddant yn methu oni bai bod pobl sydd â phrofiad byw yn rhan o'r gwaith o'u cynllunio, eu cyflawni a'u monitro.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt, wedi'u cydgynhyrchu gyda phobl sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn a'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru, a'i bod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaeth gynaliadwy Oxfam, gan gydnabod bod gan bawb alluoedd ac asedau y gellir eu datblygu i'w helpu i wella eu bywydau. Mae angen troi geiriau'n weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddynt.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol, ac yn adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes mewn ymateb i'r argyfwng presennol. Fodd bynnag, ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol. Diolch.