Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 16 Medi 2020.
Mae'n bleser gennyf ddilyn y siaradwr diwethaf a hefyd fy Nghadeirydd ar y pwyllgor, John Griffiths. Rwy'n codi'n syml iawn i gefnogi'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r adroddiad a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion, oherwydd credaf fod yr adroddiad yn gytbwys iawn mewn gwirionedd. Nid yw'n rhyfygus nac yn ideolegol nac yn ffocysu'n ormodol ar bwynt terfyn penodol. Gwrandawodd yn ofalus iawn ar y dystiolaeth a ddaeth o'n blaenau. Mae'n adlewyrchu'n fawr natur drawsbleidiol y pwyllgor a safbwyntiau gwleidyddol a phersonol gwahanol y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor—rhaid imi ddweud, safbwyntiau personol a gwleidyddol gwahanol iawn y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor. Nid yw'n galw am ddatganoli pob un o'r budd-daliadau'n gyfan gwbl, ac yn sicr nid ar unwaith. Mae'n edrych am ffyrdd ymarferol o ddatganoli elfennau arwyddocaol ond wedi'u targedu o fudd-daliadau, yn ogystal â datganoli cryn dipyn yn fwy o'r gwaith o weinyddu budd-daliadau. A pham? Yn unswydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru.
Wyddoch chi, o safbwynt personol, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ar sail fy mrand i o sosialaeth, rwyf am weld y system fudd-daliadau yn cefnogi pobl yn Abertawe a Southport a Stockport ac ym mhobman arall yn gyfartal, ac mae'n rhaid inni gydnabod—ac rwy'n gwyro oddi wrth y pwyllgor ar un ystyr; fy safbwynt i yw ein bod, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cael cyfundrefn gosbol. Gwelais dystiolaeth ohoni yn fy etholaeth fy hun. I mi, mae hynny'n ddi-os. Ond ni allem ddweud yn yr un modd na fyddai gan ryw Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol, duw a'n helpo, Mary, a John ar y monitor yn y fan acw, ymagwedd ddiniwed tuag at y system fudd-daliadau a nawdd cymdeithasol—efallai y bydd Llywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol yn ei wneud, ond o leiaf byddai gennym y mecanweithiau yma ac yn nes at y bobl fel y gallem ddadlau, 'Pam eich bod yn gwneud yr hyn rydych yn ei wneud?' yn hytrach na Gweinidogion pell yn Whitehall a mandariniaid Whitehall sy'n dweud 'Dyma'r ffordd y mae'n mynd i fod, a gallwch dincran o amgylch yr ymylon ond dyna fyddwch chi'n ei gael.' Felly, byddwn yn dadlau wrth y Gweinidog mai dull ymarferol a geir yn hyn, gan gydnabod y dystiolaeth a glywsom yn gyson dro ar ôl tro. Daeth pobl ger ein bron fel pwyllgor ac nid oeddent yn dadlau, mewn gwirionedd, dros ddatganoli'n gyfan gwbl, nid oeddent yn dadlau ar sail ideolegol; roeddent yn bobl a oedd yn wynebu realiti caled y bobl y maent yn ceisio'u cefnogi, a oedd mewn gwaith yn ogystal ag yn ddi-waith ac yn derbyn budd-daliadau, a sut y gallem roi system ar waith yn well yng Nghymru a fyddai er eu lles mewn gwirionedd.
Ym mis Mai 2020, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o'n blaenau yma, Hannah, wrth y pwyllgor, 'Oherwydd cyfnod ansicr y pandemig, nid yw'n ymddangos mai nawr yw'r adeg orau, o ran yr adnoddau sydd ar gael ac argaeledd tystiolaeth, i ystyried newidiadau hirdymor llawn i nawdd cymdeithasol.' Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â hynny ar y pandemig o'n blaenau a'r adnoddau, yn sicr; nid oes gennyf gydymdeimlad â'r elfen sy'n sôn am y dystiolaeth, oherwydd fe wnaethom lawer o waith ar y pwyllgor y credaf y byddai'n helpu'r Llywodraeth i wneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud i fireinio'r dystiolaeth, ac i fwrw ymlaen ag ef. Gyda llaw, nid wyf yn tanbrisio'r hyn a gawn yn ôl gan Lywodraeth y DU ar hyn, ond fe ddylem ofyn. Dylem gael safbwynt a'i roi yno, a dod yn ôl yn y Senedd nesaf a rhoi'r safbwynt hwnnw eto nes inni gael Llywodraeth yn Llundain a fydd yn gwrando.
Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai'n ailedrych ar y mater pwysig hwn eto pan fydd Llywodraeth Cymru wedi gallu ailystyried yn llawn unrhyw newidiadau a wnaed i system nawdd cymdeithasol y DU a sut y mae system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi gallu ymateb i heriau'r argyfwng byd-eang yng Nghymru, a chael cyfle i adolygu unrhyw dystiolaeth ar sut y mae'r gwahanol fodelau sy'n gweithredu ar gyfer trefniadau nawdd cymdeithasol datganoledig mewn gwledydd datganoledig eraill wedi mynd i'r afael â'r argyfwng. Rwy'n cydnabod bod y glaswellt yn tyfu'n uwch ac yn uwch wrth imi fynd drwy hynny, a dyna fyddwn i'n ei ofyn i'r Gweinidog i gefnogi'r Cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor a luniodd argymhellion a chasgliadau clir iawn ar hyn. Ceir cyfyngiadau ar adnoddau ar hyn o bryd yn ddi-os, ac nid COVID yn unig, ond yr hyn y mae proses ymadael â'r UE wedi bod yn ei wneud i'n gwasanaeth sifil, ac yn y blaen; rwy'n deall hynny. Ond mae gwir angen inni symud ymlaen ar hyn yn awr, ac fel y dywedaf unwaith eto wrth gloi, nid am resymau ideolegol ond o ran y mesurau ymarferol a fydd yn gwella bywydau llawer o fy etholwyr a phobl ledled Cymru, dylem fod yn gwneud y penderfyniadau hyn yn nes at adref, yn nes at adref yng Nghymru.