Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 16 Medi 2020.
Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr adroddiad hwn i'r Senedd a llongyfarch y pwyllgor. Byddwn yn dadlau bod hon yn enghraifft o'n Senedd ar ei gorau: tystiolaeth fanwl wedi'i chasglu a'i hystyried yn ofalus, ac argymhellion manwl a chryf, gyda llawer o feddwl y tu ôl iddynt. Fel Senedd ac fel cenedl, dylem fod yn ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith.
Yn anffodus, mae ymateb y Llywodraeth yn llai ysbrydoledig—gormod o 'rydym yn ei wneud eisoes', gormod o 'dderbyn mewn egwyddor', y gwyddom i gyd mai'r hyn y mae'n ei olygu yn y bôn yw 'gwyddom eich bod yn iawn ond nid ydym yn mynd i'w wneud', ac ar gyfer argymhellion 10 i 17, dim ymateb o gwbl hyd nes y gwneir gwaith ymchwil, er gwaethaf y gwaith ymchwil roedd y pwyllgor eisoes wedi'i wneud. Fel y mae John Griffiths eisoes wedi'i ddweud, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymateb mwy cadarnhaol yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu am dlodi drwy argyfwng COVID.
Rwyf am wneud sylwadau ar yr argymhellion hyn. Mae'r pwyllgor wedi edrych yn ofalus ar ddatganoli agweddau amrywiol ar y system fudd-daliadau ac wedi gwneud achos pwerus iawn dros wneud hynny, ac nid oes angen i mi ailadrodd y rheini; rwyf am siarad am yr egwyddor gyffredinol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod tlodi yn bla yn ein gwlad. Yn bersonol, rwy'n drist iawn ac yn ddig fy mod yn byw mewn gwlad lle mae traean o'n plant yn dlawd. Mae'n warth cenedlaethol. A gobeithio y gallwn i gyd gytuno mai'r ateb hirdymor yw i ni adeiladu economi lle mae gwaith yn talu, lle mae cyflogaeth o ansawdd da ar gael i bawb, a lle caiff ffyniant ei rannu ledled Cymru. Ond yn y tymor byr, bydd llawer o unigolion a theuluoedd angen budd-daliadau i allu ymdopi, a gwaethygu fydd y sefyllfa hon yn sgil argyfwng COVID, fel y clywsom eisoes.
Mae'r system fudd-daliadau bresennol—ac rwy'n canolbwyntio yma ar y budd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli, ond gellid dadlau ei fod yn wir am system fudd-daliadau Cymru hefyd—yn gymhleth, mae'n stigmateiddio, ac nid yw'n rhoi digon o incwm i unigolion a theuluoedd allu byw bywyd gweddus. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chodi pobl allan o dlodi, mae angen inni ddefnyddio'r system fudd-daliadau i'n helpu i wneud hynny. Ac nid wyf yn credu am funud, ac rwy'n amau nad yw'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yma ychwaith yn credu y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn San Steffan i wneud hynny, er eu bod yn mynd a dod. Yn sicr, nid yw fy etholwyr yn profi'r math o undod cymdeithasol ac ailddosbarthu y mae Mark Isherwood yn siarad amdano.
Felly, rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r Llywodraeth yn ceisio pwerau dros y budd-daliadau hyn ar fyrder. Gallaf ddeall rhai pryderon ariannol, mae honno'n agwedd gyfrifol, ond bydd Gweinidogion yn ymwybodol, er enghraifft, o'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru na chanfu unrhyw dystiolaeth y byddai datganoli rhywfaint o bŵer dros fudd-daliadau i Gymru, fel sydd eisoes wedi'i wneud i'r Alban, yn anghynaliadwy'n ariannol. Yn wir, yn dibynnu ar ba fodel a ddefnyddiwyd, dangosodd y gallai Trysorlys Cymru elwa'n sylweddol o ddatganoli pwerau lles.
Ddirprwy Lywydd, yn rhannol fel ymateb i COVID, mae syniadau newydd ac arloesol yn cylchredeg yng Nghymru ynglŷn â sut y gallem godi pobl allan o dlodi. Er enghraifft, byddai llawer yn y Siambr hon yn dadlau o blaid treialu incwm sylfaenol cyffredinol. Mae fy mhlaid yn argymell taliad plant i Gymru i roi diwedd ar dlodi absoliwt ymhlith plant yng Nghymru. Ond ni all y syniadau hyn weithio'n iawn, a mynd y tu hwnt i dreialon, oni bai bod y pŵer dros y system fudd-daliadau yma. Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno achos pwerus, angerddol gyda thystiolaeth dda, ac rydym wedi clywed hyn eto yn araith John Griffiths heddiw. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ar hynny yn awr. Fel y dywedodd John Griffiths, bydd yn cymryd amser. Pe baem yn dechrau'r broses i geisio datganoli'r budd-daliadau hyn, byddai'n cymryd amser iddynt ddod. Fel y dywedodd John, mae ein cyd-ddinasyddion tlotaf angen i'n Llywodraeth fod yn feiddgar.