1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Medi 2020.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r broses ar gyfer dewis safleoedd i roi llety dros dro i ffoaduriaid sy'n aros i'w hachosion lloches gael eu clywed? OQ55568
Llywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am y broses y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mae'r Swyddfa Gartref bresennol yn gwneud dewisiadau o'r fath heb gyfeirio at awdurdodau democrataidd lleol na datganoledig.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rydym ni i gyd yn gwybod bod llif y bobl sy'n ceisio lloches yn cynyddu, ac rwy'n deall y bu angen i'r Swyddfa Gartref, gan wynebu dilyw, weithredu yn gyflym. Ond, yn fy marn i, mae camgymeriadau wedi eu gwneud, ac roedd cyfathrebiad gan y Swyddfa Gartref yn hwyr iawn yn y dydd ac yn wael iawn. Rwyf i wedi mynegi fy mhryderon mewn llythyr manwl iawn at yr Ysgrifennydd Cartref ac at aelodau'r Swyddfa Gartref. Rwy'n pryderu nad yw gorllewin Cymru yn addas iawn i fod yn ganolfan dderbyn i geiswyr lloches gael eu prosesu, a hynny'n syml am nad oes gennym ni'r seilwaith, y capasiti na'r gallu mwyach, neu ddim ar hyn o bryd, i brosesu pobl mewn ffordd sy'n briodol, ac yn dangos urddas a pharch tuag atyn nhw. Ac rydym ni eisiau'r cymorth hwnnw. Rwyf i wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am arian ar gyfer adnoddau dynol ychwanegol, ac rwy'n meddwl tybed, Prif Weinidog, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud.
Yn anffodus, gwelsom olygfeydd brawychus neithiwr yng ngwersyll Penalun o elfennau yn dod i mewn o'r tu allan—nid pobl Sir Benfro; mae pobl Sir Benfro yn wresog a chroesawgar, ac rydym ni eisiau gwneud ein gorau i'r bobl hyn, sydd eisoes wedi bod trwy gyfnod trawmatig iawn. Ond os edrychwch chi ar y fideo, sydd i'w weld ar wefan Herald Sir Benfro, cafwyd golygfeydd hollol frawychus, gyda phobl yn dod i mewn ar fysiau o'r tu allan gydag agendâu gwleidyddol annymunol iawn. Prif Weinidog, beth allwch chi ei wneud fel Llywodraeth Cymru naill ai i helpu i roi pwysau ar y Swyddfa Gartref i roi'r adnoddau ariannol a dynol sydd eu hangen ar ein gwasanaethau lleol i ddarparu'r cymorth cywir i'r bobl hyn, ac i gynorthwyo ein heddlu—ein hunedau plismona lleol sydd dan bwysau—i sicrhau na cheir anhrefn ac nad yw pobl dan fygythiad, ni waeth pa ochr i'r gwersyll hwnnw y maen nhw ynddo?
Wel, Llywydd, diolchaf i Angela Burns am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n rhannu llawer o'i phryderon. Nid yw gwersyll milwrol yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi dianc o wrthdaro a rhyfel mewn rhannau eraill o'r byd. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Cefais ateb ddydd Llun, felly roedd yn ateb cyflym iawn. Ond nid oedd oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref; roedd oddi wrth Weinidog iau yn yr adran. Yn fy llythyr, gofynnais yn benodol iawn am oedi o bythefnos yn y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches ym Mhenalun, er mwyn gallu cynllunio yn briodol a rhoi gwasanaethau priodol ar waith. Ac nid wyf i'n credu y gallai unrhyw un ddadlau bod hynny wedi ei wneud mewn ffordd foddhaol. Yn anffodus, gwrthododd yr ateb y cais hwnnw. Gofynnais yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref am sicrwydd penodol y byddai cyllid yn cael ei ddarparu i'r awdurdod lleol ac i'r bwrdd iechyd lleol. Rydym ni'n sôn am awdurdodau cymharol fach, gwledig nad yw'r capasiti ganddyn nhw i ymdopi, o'u hadnoddau eu hunain, â'r galwadau a fydd yn cael eu rhoi arnyn nhw nawr. Dyma'r ateb:
Ni fydd y Swyddfa Gartref yn darparu cyllid ychwanegol mewn cysylltiad ag unrhyw ran o'r llety a ddarperir ar gyfer ceiswyr lloches.
Felly, gwrthodiad cyffredinol llwyr i ddarparu unrhyw arian ychwanegol, naill ai i Gyngor Sir Penfro nac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ac aeth y llythyr ymlaen i ddweud bod gwaith ar gynllun cyfathrebu y cytunwyd arno ar y gweill. Wel, mewn gwirionedd, mae hynny'n nonsens, onid yw? 'Mae cynllun cyfathrebu ar y gweill', pan fo cannoedd o bobl eisoes yn protestio yn Ninbych-y-pysgod dros y penwythnos, a'r golygfeydd annymunol y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw ddoe. Ni roddodd y Swyddfa Gartref yr un llinell i dawelu meddyliau'r boblogaeth leol, i esbonio pam maen nhw'n gwneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud.
Nawr, hoffwn ategu yn llwyr yr hyn a ddywedodd Angela Burns—mae Cymru yn genedl noddfa. Pan fo pobl yn cyrraedd Cymru, nid trwy unrhyw benderfyniad ganddyn nhw eu hunain, yna rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n derbyn gofal da ac yn cael eu croesawu. Mae'r ffordd y mae'r Swyddfa Gartref wedi mynd ati i wneud ei phenderfyniad o ran Penalun yn gwneud hynny i gyd yn llawer anoddach nag yr oedd angen iddo fod. Ac er y byddwn ni'n cymryd rhan mewn unrhyw un o'r sgyrsiau ac unrhyw un o'r grwpiau a sefydlir i geisio gwella'r sefyllfa, mae angen gwella'r dull cyffredinol yn gyflym er mwyn osgoi ailadrodd y golygfeydd a welsom ni neithiwr, ac i wneud yn siŵr bod y bobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll hwnnw yn gallu derbyn gofal priodol, ac y gellir cyfleu pryderon—pryderon dilys—y gymuned leol honno sy'n haeddu cael sylw priodol, iddyn nhw, a'u tynnu i mewn i'r broses yn hytrach na gadael iddyn nhw ei gwylio o'r tu allan.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Prif Weinidog, yn ei ymateb i Angela Burns, am ailadrodd y pwynt bod Cymru yn genedl noddfa a'n bod ni eisiau croesawu pobl a'n bod ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw?
Cefais fy syfrdanu, Llywydd, gan yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud am ymateb y Swyddfa Gartref, ac mae'n eithaf anarferol i mi gael fy syfrdanu gan y ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn San Steffan yn ymddwyn. Ond mae hyn yn arbennig o ddifrifol. Mae'r rhain yn bobl agored iawn i niwed sydd wedi gweld a byw profiadau erchyll, ac mae'r ffaith eu bod nhw wedyn yn canfod eu hunain yn dioddef ymddygiad annymunol pan eu bod nhw'n cyrraedd yma yn dorcalonnus. Rwyf yn cytuno ag Angela Burns, ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud eisoes—nid oedd y bobl hynny a oedd yn achosi trafferth ym Mhenalun neithiwr yn nodweddiadol o gymuned Sir Benfro. Roedd y bobl a oedd yn dathlu ac yn croesawu ceiswyr lloches ar y traeth yn Ninbych-y-pysgod dros y penwythnos yn llawer mwy nodweddiadol o gymuned Sir Benfro, ac roedd yn dda iawn eu gweld nhw yno.
Rwy'n llwyr sylweddoli nad cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw darparu ar gyfer ein cymdogion newydd ym Mhenalun, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi, ac mae wedi dweud ei hun, y bydd pwysau ar wasanaethau lleol. Yn wyneb yr hyn sy'n ymddangos yn safbwynt gwbl galongaled gan Lywodraeth y DU ar hyn, a oes unrhyw beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i drafod gyda darparwyr gwasanaethau lleol pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw, gan dderbyn yn llwyr mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref ddylai fod ei ddarparu? Ond os nad yw hynny'n bosibl, a fydd y Prif Weinidog yn gallu gweithio gyda gwasanaethau lleol i geisio lleddfu rhai o'r ofnau a'r pryderon sydd gan bobl leol am bwysau ar wasanaethau, a gwneud yn siŵr bod croeso i'r ceiswyr lloches hyn yma yn ein gwlad ni?
Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y pwyntiau yna. Bydd, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, a'r gwasanaeth heddlu lleol yn y gwaith anodd y mae angen iddyn nhw ei wneud nawr. A phan allwn ni fwstro cymorth ar eu rhan, pan allwn ni wneud achos ar eu rhan, yna wrth gwrs byddwn yn awyddus iawn i wneud hynny. Ein dealltwriaeth o gynllun y Swyddfa Gartref yw y bydd y bobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll yn cael eu gwasgaru, ymhen amser, i'r pedair prif ardal wasgaru ledled Cymru—y byddan nhw'n byw yng Nghaerdydd, yng Nghasnewydd, yn Abertawe ac yn Wrecsam. Felly, mae ein dymuniad i'w croesawu i Gymru yn ymrwymiad hirdymor er les a llesiant y bobl hynny, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gellir cyflawni hynny yn briodol. Rwy'n credu mai un o nodweddion mwyaf annymunol yr holl ddigwyddiad yw bod y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref wedi ymdrin ag ef wedi arwain at Ddinbych-y-pysgod yn dod yn darged i grwpiau adain dde eithafol o bob rhan o'r Deyrnas Unedig sydd wedi clywed am hyn ac sy'n credu bod hwn yn achos y gallan nhw ymgysylltu ag ef a chamfanteisio arno. Nid oes croeso i'r bobl hynny yng Nghymru, a gobeithiaf y byddwn ni mewn sefyllfa yn fuan i wneud yn siŵr bod yr heddlu yn cymryd y camau sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr na allan nhw gynhyrfu teimladau lleol a'u bod nhw'n deall nad yw eu presenoldeb yng Nghymru yn un a groesewir gennym ni.
Neil Hamilton. nid yw eich meicroffon ymlaen, Neil Hamilton; nid yw eich meicroffon ymlaen.
Diolch, Llywydd. Onid y gwir am y mater yw nad oes yr un o'r bobl sy'n mynd i gael eu cartrefu ym Mhenalun yn debygol o fod yn gymwys i gael lloches yn y wlad hon, gan eu bod nhw wedi dod o wlad ddiogel, yn Ffrainc, oherwydd eu bod nhw i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cyrraedd ar gychod bach ar lannau Caint? Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes gan 81 y cant o'r rhai sydd wedi cyrraedd yn 2020 ar lannau Caint, unrhyw hawl credadwy i loches, er mai dim ond 2 y cant sydd wedi cael eu symud mewn gwirionedd. Felly, onid achos y broblem sydd gennym ni heddiw, yn gyntaf oll, yw anallu ar ran Llywodraeth Prydain, gan eu bod nhw wedi colli rheolaeth dros ein ffiniau yn llwyr, ond, yn ail, anghyfrifoldeb ar ran Llywodraeth Cymru am ei darn o orbwysleisio rhinweddau drwy alw Cymru yn 'genedl noddfa'? Oherwydd, yn y pen draw, os yw cysylltiadau hiliol yn mynd i gael eu cynnal yn y wlad hon, mae'n rhaid i hynny fod ar sail ymfudo wedi'i reoli a cheisiadau dilys am loches, ac nid rhai ffug.
Wel, Llywydd, clywn adleisiau o hanes maith yr Aelod o gefnogi apartheid De Affrica yn y sylwadau y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma. Mae dweud bod uchelgais Cymru i fod yn genedl noddfa yn anghyfrifol yn anghredadwy. Rwy'n synnu clywed hynny, hyd yn oed ganddo ef, ac nid oes ganddo unrhyw wybodaeth o gwbl o ble y mae pobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll hwn yn dod—nid oes gan yr un ohonom ni. Mae bron pob un ohonyn nhw heb gyrraedd eto. Felly, fel erioed, ei honiadau ffug, ei ymgais i fanteisio ar sefyllfa i gyfleu neges sy'n wleidyddol gyfleus iddo yr ydym ni wedi eu clywed y prynhawn yma. Mae hynny'n warthus.