Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Medi 2020.
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r cynllun rheoli coronafeirws, a gyhoeddwyd ym mis Awst, a chynllun diogelu'r gaeaf yr wythnos diwethaf ill dau wedi'u gwreiddio yn y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gellir gweld ymatebion wedi'u haddasu, er enghraifft, mewn triniaethau mwy effeithiol ar gyfer y clefyd ac mewn mesurau adsefydlu penodol i COVID.