Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Medi 2020.
Prif Weinidog, o 6 o'r gloch heno ymlaen bydd cyfyngiadau pellach yng Nghasnewydd ac mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd y cyfnod y mae hynny yn ei olygu yn dibynnu ar nifer yr achosion, ond a allwch chi ddweud unrhyw beth arall am ba mor hir y gallai'r mesurau hyn fod ar waith?
Mae nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol yn hunanynysu, gan niweidio eu haddysg ymhellach ar ôl colli amser ysgol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. A allai Llywodraeth Cymru felly, Prif Weinidog, flaenoriaethu profion i ddisgyblion a staff er mwyn lleihau'r amser a gollir yn yr ysgol, a hefyd sicrhau bod dysgu gartref yn gyson ac o'r ansawdd gorau ar draws ein holl ysgolion?