Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Medi 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae adferiad gwyrdd wrth wraidd ein hymateb i bandemig y coronafeirws. Bydd yn gwella canlyniadau i Gymru, yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth ar gyfer y dyfodol, yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn mynd i'r afael â dirywiad mewn bioamrywiaeth.