1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Medi 2020.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu adferiad gwyrdd? OQ55576
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae adferiad gwyrdd wrth wraidd ein hymateb i bandemig y coronafeirws. Bydd yn gwella canlyniadau i Gymru, yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth ar gyfer y dyfodol, yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn mynd i'r afael â dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Prif Weinidog, mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar wir yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n perfformio'n dda a datblygu sgiliau i fynd i'r afael â'r cynhyrchiant isel hanesyddol yr ydym ni wedi ei ddioddef yng Nghymru, o gofio'r lefel isel iawn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ers y diwydiannu yn y 1970au a'r 1980au. Mae'n siomedig iawn darllen bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn benderfynol o ddefnyddio Bil y farchnad fewnol i danseilio ymrwymiadau Llywodraethau datganoledig i leihau'r hinsawdd. Sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar y sgiliau manwl sydd eu hangen i gyflawni ei huchelgeisiau trafnidiaeth a thai glân a gwyrdd—sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau lleihau carbon—pan fo'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o frigdorri'r arian y mae gan Gymru hawl iddo i adeiladu ffyrdd lliniaru diangen ac, mae arnaf ofn, gorchuddio cefn gwlad gyda datblygiadau adeiladu o ansawdd gwael i ddod yn hofelau'r dyfodol?
Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna. Roeddwn i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu comisiynu adroddiad annibynnol gan yr OECD gan ddefnyddio'r dystiolaeth ryngwladol orau i'n helpu ni gyda'r gwaith pwysig o gynllunio polisïau'r dyfodol a strwythurau'r dyfodol ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Mae'r adroddiad, yn sicr, yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu buddsoddi yn y bobl sydd gennym ni yma yng Nghymru, fel eu bod nhw'n barod i allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth pan fyddan nhw'n dod.
Mae'r Aelod, Llywydd, yn codi, rwy'n credu, posibilrwydd eithriadol. Pan welais i Fil y farchnad fewnol am y tro cyntaf, roedd hynny'n ddigon drwg pan roeddwn i'n meddwl mai'r hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud oedd cymryd yr holl arian a oedd wedi dod i Gymru o ffynonellau Ewropeaidd a'i chadw iddi hi ei hun, ac ailddosbarthu rhywfaint yn ôl syniadau a allai fod ganddyn nhw, yn hytrach na'r syniadau a allai fod gan bobl yng Nghymru am yr hyn sy'n angenrheidiol yma. Ond mae'r syniad y bydden nhw'n ceisio brigdorri cyllidebau sydd ar gael i'r Senedd hon, i'w defnyddio yn y ffordd yr ydym ni'n ei ddewis, er mwyn rhedeg cynlluniau eu hunain, rwy'n credu, yn syniad hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn yr oeddem ni'n credu yn wreiddiol y gallai fod ganddyn nhw mewn golwg. Byddai gwneud hynny yn gwneud y geiriau y mae Prif Weinidog y DU yn eu defnyddio am barchu datganoli, a bod yn ddatganolwr ei hun, yn chwerthinllyd. Gadewch i ni obeithio bod Gweinidog yn Llywodraeth y DU sy'n fodlon cofnodi'r ffaith nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud unrhyw beth o'r fath.