Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:26, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac rwyf yn cytuno ag ef. Cwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf i fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gydag eraill yn Senedd y DU er mwyn diogelu democratiaeth Cymru rhag y cipio pŵer hwn sy'n rhan annatod o'r Bil Marchnad Fewnol, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, ac rwy'n croesawu hynny. Bydd gweithio mewn ffordd draws-ddeddfwrfa yn hanfodol yn y cyfnod sydd i ddod, felly heddiw bydd ASau Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliant a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid i'r Senedd hon roi ei chydsyniad cyn bod y darpariaethau yn y Bil, sydd â'r nod o drosglwyddo pwerau datganoledig yn ôl i San Steffan—cyn i hynny ddod i rym. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwnnw, ac os felly, a wnewch chi berswadio eich cyd-Aelodau Llafur Cymru yn San Steffan i'w gefnogi y prynhawn yma?