Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:27, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf i wedi gweld testun y gwelliant hwnnw. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw na ddylid trosglwyddo pwerau, doed a ddelo, o'r Senedd hon i San Steffan. Felly, mae'n gynnig syml iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld, ar y bleidlais ddechrau'r wythnos diwethaf, fod fy mhlaid i yn Senedd y DU a'i phlaid hi ac eraill yn y Siambr hon wedi gallu sefyll yn gadarn wrth ymwrthod â'r egwyddorion sydd wrth wraidd y Bil hwn. Fel y mae hi'n ymwybodol o'r trafodaethau a gafwyd o'r blaen, mae'r Bil hwn mewn llawer ffordd yn torri ar draws y setliad datganoli'n llwyr ac yn cloi'r newidiadau hynny mewn ffordd na fyddai'r Senedd hon yn gallu ei gwrthdroi. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i weithio ar sail drawsbleidiol yn y Senedd a mawr obeithio y bydd hynny'n parhau.