Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 22 Medi 2020.
Mae'n amlwg bod y DU yn dymuno bwrw ymlaen a thorri cytundebau rhyngwladol yn fwriadol, ynghyd â chuddio gwir fwriad y Bil ar yr un pryd, sef ceisio cymryd yn ôl reolaeth dros y lle democrataidd hwn, ond gyda gallu newydd i frigdorri cyllideb Cymru ar gyfer blaenoriaethau'r Torïaid. Beth fyddai hyn yn ei olygu i'r rhaglen lywodraethu y mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon yn ddemocrataidd i'w chyflawni ar eu rhan? A fyddai ef yn cytuno â mi fod hyn yn gofyn am bryder o'r newydd ynghylch dosbarthu'r gronfa ffyniant gyffredin, ac y mae, yn ei hanfod, yn ymosodiad ar y ddemocratiaeth hon, datganoli a, Llywydd, yn ymosodiad ar y lle hwn?