Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:31, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai'r Bil, pe bai'n cael ei basio'n gyfraith, yn cyfyngu ar weithredoedd nid yn unig y Llywodraeth hon, ond Llywodraethau olynol yng Nghymru ac, yn wir, effeithiolrwydd y Senedd hon i wneud y math o newidiadau uchelgeisiol yn y gyfraith a diwygio yng Nghymru yr hoffai eu gwneud. Soniais yn fy nghwestiwn cynharach am y ffyrdd ymarferol iawn y mae hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr a dinasyddion ledled Cymru. Mae rhai o'r darpariaethau yn y Bil yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddai rhai yn atal y Senedd rhag pasio cyfreithiau na Gweinidogion rhag gwneud rheoliadau, ond fe fydden nhw, i bob pwrpas, yn golygu na fyddai modd eu gorfodi ar lawr gwlad yng Nghymru.  Nawr, mae'r rhain yn newidiadau sy'n creu risg ddifrifol o gyfyngu ar weithredoedd y Llywodraeth hon a Llywodraethau'r dyfodol i gyflawni addewidion maniffesto ac i fod yn uchelgeisiol ar ran pobl Cymru. Mae hi'n nodi'n benodol yr effaith ar y gronfa ffyniant  gyffredinol. Rwy'n credu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn eithaf agored ynglŷn â'r ffaith y byddai'r darpariaethau yn y Bil yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Llywodraeth y DU gamu heibio'r pwerau sydd i bob pwrpas wedi bod yn eiddo i Weinidogion Cymru i reoli'r rhaglenni olynol i raglenni'r UE yng Nghymru—yn amlwg yn cefnu ar yr ymrwymiad a gafodd ei wneud i beidio â gwrthdroi'r setliad datganoli a phwerau Llywodraeth Cymru o ran y rhaglenni olynol hynny.