Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 22 Medi 2020.
Tybed a allai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog amlinellu'r canlyniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol pe bai'r Siambr hon yn peidio â rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn gael ei ruthro ymlaen gan Lywodraeth y DU. Ac, a allai hefyd egluro pam y dylai hyn fod o bwys mawr i'r busnesau, y ffermwyr, y cynhyrchwyr bwyd, y myfyrwyr a'r etholwyr mewn etholaeth fel fy un i yn Aberogwr?