Menywod yr Effeithiwyd Arnynt gan Newid Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:23, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Bydd ef yn gwybod fy mod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag ymgyrchwyr ar draws fy rhanbarth i, yn enwedig yn Llanelli a Sir Benfro, ar y mater hwn. Roedd y canlyniad yn amlwg yn siomedig, ond nid oedd yn syndod llwyr.

Tybed a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn ymddangos yn debygol bellach y daw'r ateb i hyn o benderfyniadau gwleidyddol yn hytrach nag o unrhyw ddyfarniad cyfreithiol. A fyddai hon yn adeg amserol i Lywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau unwaith eto i Lywodraeth y DU ar ran menywod Cymru a gafodd eu heffeithio gan hyn?

Mae'n ymddangos i mi, yn sgil argyfwng COVID, fod hyn yn arbennig o berthnasol. Wrth gwrs, mae gennym lawer o fenywod a fyddai wedi disgwyl gallu ymddeol ond sydd bellach yn gorfod aros yn y gwaith. Ac efallai y bydden nhw mewn sefyllfa, os byddai modd iddyn nhw ymddeol a chael yr hawl i'r pensiwn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, i allu ymddeol ychydig yn gynharach ac o bosibl ryddhau rhywfaint o waith i bobl iau, y bydd ei angen yn ddybryd.