Menywod yr Effeithiwyd Arnynt gan Newid Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:24, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n rhannu siom yr Aelod â chanlyniad yr apêl; fel y dywed hi, efallai'n fwy o siom nag o syndod o ystyried cynnydd yn y mater. Mae'r menywod hyn yn fenywod sydd wedi wynebu gwahaniaethu, yn aml iawn, drwy gydol eu bywydau gwaith. Felly, bydd yn arbennig o siomedig i fod wedi cael y canlyniad hwnnw.

Fel y bydd hi'n gwybod, rwyf wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i allu ymyrryd, o bosibl, ac nid oes yr un ohonyn nhw, yn anffodus, wedi dod i'r amlwg. Ond yn ei chwestiwn, rwy'n credu ei bod hi'n iawn yn dweud, o ystyried nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yn dwyn ffrwyth fel y gallem fod wedi ei obeithio efallai, fod yna rai cynigion ymarferol y mae llawer o'r grwpiau hyn wedi'u cyflwyno er mwyn pontio i gyfres fwy cyfiawn o ganlyniadau. Rydym wedi gohebu'n gyson â Llywodraeth y DU, fel y mae'r Aelod yn gwybod. Rwy'n credu, yn anffodus, na chafwyd ateb i'n llythyr diweddaraf hyd yn oed. Ond, byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r sylwadau hynny fel bod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r menywod hyn, nid yn y llysoedd, ond wrth geisio datrys yr hyn sydd wedi bod ers peth amser, yn anghyfiawnder mawr.