Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Medi 2020.
Mae’r Llywodraeth hon a minnau yn gwbl ymroddedig yn ein hymdrechion i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Dwi fy hun ddim wedi cael trafodaethau uniongyrchol â’r awdurdodau cyhoeddus na’r sector gyfreithiol, ond rwyf wedi cael trafodaethau gyda rheoleiddwyr sector y gyfraith ynglŷn ag addysg broffesiynol drwy'r Gymraeg, sydd wedi dwyn ffrwyth.