Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 22 Medi 2020.
Dwi wedi sôn eisoes am arwyddocâd dyfarniad arbennig y Barnwr Fraser yn achos ysgolion Pontypridd, ac mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan gyfeillion y Gymraeg ym myd y gyfraith. Fe soniodd Michael Imperato, mewn trafodaeth yn ddiweddar am y dyfarniad, am ripple effect yr achos hwnnw. A allwch chi gadarnhau sut y byddwch chi fel Llywodraeth yn mynd ati i hysbysu cyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau am y cynseiliau sy'n codi i'r dyfodol o'r dyfarniad, fel na welwn ni ddim Ysgol Felindre arall ac fel na fydd rhieni Pont Sion Norton yn gorfod mynd i gyfraith i sicrhau eu hawl i addysg Gymraeg o fewn cyrraedd rhesymol i'w cymuned?