Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 22 Medi 2020.
Diolch. Mae 86 y cant o'r rhai a gafodd eu harolygu yn y gogledd, 92 y cant yn Nyfed-Powys, a 97 y cant yng Ngwent yn credu bod trosedd sylweddol yn eu cymuned wledig. Canfyddiad astudiaeth a gynhaliwyd gan y Gynghrair Cefn Gwlad oedd nad oedd bron chwarter y troseddau wedi'u hysbysu i'r heddlu, ac roedd 56 y cant o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi rhoi gwybod am drosedd yn anfodlon â'r ymateb. Fel y dywedodd y Gynghrair Cefn Gwlad,
Mae plismona gwledig da yn golygu llawer mwy na nifer y swyddogion heddlu ar lawr gwlad... rhaid inni ffurfio partneriaethau effeithiol.
Nawr, er fy mod i'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â grŵp bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru, nid yw hyn yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol megis awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned llai yn ein hardaloedd gwledig. A wnewch chi gysylltu nawr â swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU, gyda'r nod o sefydlu tasglu troseddau gwledig cenedlaethol i Gymru, er mwyn cynnwys yr holl randdeiliaid a helpu i sicrhau bod angen dealltwriaeth well o anghenion ein cymunedau gwledig?