Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Medi 2020.
Cytunaf â'r Aelod ei fod yn bryder os nad yw pobl yn rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau gwledig. Wrth gwrs, dylai aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid deimlo y gallan nhw wneud hynny, ac fe ddylen nhw wneud hynny, a byddem ni'n eu hannog, yn wir, i wneud hynny. Soniodd hi yn ei chwestiwn am swyddogaeth grŵp bywyd gwyllt, troseddu a materion gwledig Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gwaith y grŵp hwnnw wedi cael ei werthfawrogi a'i ganmol yn eang iawn fel enghraifft, boed hynny'n ymwneud â secondio swyddogion yr heddlu i Cyfoeth Naturiol Cymru neu sefydlu unedau troseddau gwledig o fewn ein gwasanaethau heddlu, ledled Cymru. Rwy'n deall bod y rheini'n cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt fel enghreifftiau o arfer da iawn. Ond rwy'n rhannu'ch pryder ynghylch troseddu mewn unrhyw ran o Gymru, ac rwy'n falch o weld y gwaith partneriaeth sy'n digwydd rhwng y Llywodraeth yma yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu, a gwasanaethau brys eraill, i gefnogi cymunedau gwledig yn y mater hwn.