Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Medi 2020.
Wel, mae'r cwestiwn hwn yn debyg iawn o ran sylwedd i'r cwestiwn cynt. Felly does gyda fi ddim lot fwy gallaf ei ddweud fel ymateb i hynny, ond rwy'n credu bod gwerth edrych yn fanwl ar sut gwnaeth y dyfarnwr edrych ar hafalrwydd y Gymraeg a'r Saesneg mewn deddfwriaeth. Mae cwestiwn pwysig yn codi yn y cyd-destun hwnnw i gyfreithwyr yn gyffredinol.