Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 22 Medi 2020.
Nid wyf yn ymwybodol bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o'r fath. Fodd bynnag, mae'r mater o restru'r DU ar gyfer mewnforion bwyd yr UE yn dangos pwysigrwydd y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn peryglu'r trafodaethau hynny, sy'n anghyfrifol dros ben ac yn peri risg wirioneddol i Gymru.