Cynhyrchion Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:33, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar hynny. Mae'r posibilrwydd na fydd anifeiliaid a chynhyrchion Prydain yn cael eu hychwanegu at restrau glanweithdra a sicrhau iechyd planhigion yr UE ar gyfer gwledydd y tu allan i'r UE yn achosi pryder mawr. Er enghraifft, allforiwyd 37,400 tunnell o gig defaid i Ffrainc, a 40,600 tunnell o gig eidion i Iwerddon y llynedd. Nawr, yn ôl Nick von Westenholz o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, dylai rhestru fod yn fater technegol syml. Yn yr un modd, mae prif weithredwr Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain wedi dweud mai'r cwestiwn ehangach yw pryd fydd statws trydydd gwlad yn cael ei roi. Yn ffodus, bydd Llywodraeth y DU yn gosod is-ddeddfwriaeth fis nesaf i egluro'r gweithdrefnau rhestru hyn, ac maen nhw wedi dweud: 'Rydym yn gweithredu'r un rheolau a byddwn ar ddiwedd y cyfnod pontio. Serch hynny, mae'n fanteisiol cymryd camau o flaen llaw.' Felly a fu'n rhaid i chi ddiwygio'r paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yng ngoleuni'r bygythiad hwn, a pha fanylion y gallwch chi eu darparu ynghylch y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pe na bai Cymru yn gallu gwerthu cynnyrch anifeiliaid i'r UE?