Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Medi 2020.
Dros yr haf y daeth y dyfarniad yma, yndê, gan y Barnwr Fraser, a llwyddiant i grŵp sy'n brwydo i gadw ysgolion yn nalgylch Pontypridd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd. Roedd penderfyniad diffygiol cyngor Rhondda Cynon Taf yn golygu y byddai peryg i gymuned ddifreintiedig gael ei heithrio o addysg Gymraeg, ac mae angen i'r cyngor rŵan weithio efo'r gymuned i ddod â chynnig amgen gerbron, ac mi fyddai hi'n warth o beth petai'r cyngor yn meddwl am apelio'r dyfarniad. Hoffwn i ofyn i chi am arwyddocâd ehangach y dyfarniad i addysg Gymraeg ac i statws yr iaith. Ydych chi'n cytuno efo fi bod dyfarniad cadarn y Barnwr Fraser yn ei gyfanrwydd yn gam mawr ymlaen o ran y disgwyliad gan lysoedd a'r awdurdodau cyhoeddus i roi sylw teilwng a phriodol i'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau, ac yn warchodaeth i gymunedau eraill?