Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Medi 2020.
Dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud sylwadau ehangach ynglŷn â'r maes polisi hwn, gan nad fy mholisi i fel Cwnsler Cyffredinol sydd yma. Ond rwy'n synnu'n fawr i glywed brwdfrydedd yr Aelod dros y dyfarniad, o gymryd mewn i ystyriaeth y ffordd gwnaeth y barnwr edrych ar statws y Gymraeg yn y ddeddfwriaeth a'i chymharu â statws y Saesneg yn y ddeddfwriaeth. Mae cwestiynau pwysig iawn yn y dull hynny; mae'n codi cwestiynau pwysig am driniaeth hafal y Gymraeg yn ein llysoedd ni yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n argymell i'r Aelod edrych ar y cwestiwn hwnnw, ynghyd â'r cwestiynau eraill ehangach mae hi wedi'u codi heddiw.