Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 22 Medi 2020.
Wel, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, mewn sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer amrywiaeth o fygythiadau o ganlyniad i gynnal trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi rhestru droeon y niwed y bydd y llwybr presennol yn ei achosi i allforwyr bwyd Cymru, ac rwy'n falch o'i chlywed yn rhestru yn ei chwestiwn y risgiau sy'n real iawn i'r ffermwyr a'r cynhyrchwyr bwyd hynny ledled Cymru. Dywedodd hefyd yn ei chwestiwn fod hwn yn fater technegol syml. A chytunaf â hynny. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddatganiad wedi bod ar ran yr UE na fydd hyn yn digwydd. Ond mae yna angen dealladwy i fod yn glir ynghylch pa safonau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu rhoi ar waith. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gyflwyno'r rheini, yn bennaf oherwydd, dan yr amgylchiadau presennol, siawns nad oes modd derbyn fel ffaith ei sicrwydd ynghylch safonau uchel yn y dyfodol.