Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 22 Medi 2020.
O 6 o'r gloch ymlaen heno, daw cyfyngiadau newydd i reoli lledaeniad y feirws i rym ar gyfer pawb sy'n byw yn awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Fe fydd hyn yn golygu na chaniateir i bobl fynd i mewn i'r pedair ardal awdurdod lleol hyn na'u gadael heb reswm digonol, megis teithio i'r gwaith neu ar gyfer addysg. Dim ond yn yr awyr agored y gall pobl gwrdd â phobl sy'n byw ar aelwydydd eraill. Ni fyddan nhw'n gallu ffurfio cartrefi estynedig am y tro. Fe fydd yn rhaid i bob safle trwyddedig yn yr ardaloedd hyn gau am 11 p.m. Fe fydd yn rhaid i bawb dros 11 oed barhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, fel sy'n wir ledled Cymru. Rydym hefyd yn ymestyn y cyfyngiad trwyddedu 11 p.m. i ardal bwrdeistref sirol Caerffili.
Mae'r cyfyngiadau hyn yr un peth â'r rhai a gyflwynwyd yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf: o 6 o'r gloch heno, fe fydd yr un cyfyngiadau lleol yn weithredol ym mhob un o'r chwe ardal awdurdod lleol yn y de. Fe fydd hyn yn golygu y bydd cyfran fawr o boblogaeth y de yn byw dan gyfyngiadau lleol er mwyn helpu i reoli lledaeniad coronafeirws. Fe fyddwn ni'n cynnal cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu ledled rhanbarth ehangach y de i drafod y sefyllfa sy'n datblygu o ran coronafeirws, yn enwedig ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae'r cyfraddau'n is. Fe fyddwn ni'n trafod a oes angen mesurau pellach i ddiogelu'r boblogaeth ehangach wrth inni baratoi i weld myfyrwyr yn dechrau mewn prifysgolion neu'n dychwelyd iddyn nhw. Fe gynhelir cyfarfod tebyg yn y gogledd i ddwyn ynghyd arweinwyr yr awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a'r heddlu i drafod y sefyllfa os gwelwn y cyfraddau'n codi'n gyflym drwy'r rhanbarth.
Bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i gyflwyno'r cyfyngiadau hyn oherwydd ein bod wedi gweld cynnydd sydyn a chyflym mewn achosion yn yr ardaloedd hyn ers diwedd mis Awst. Mae llawer o debygrwydd rhwng yr achosion ym mhob un o'r chwe ardal hyn. Rydym wedi gweld cynnydd a lledaeniad yn yr achosion o goronafeirws sy'n gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol, yn cyfarfod dan do ar aelwydydd pobl eraill, a phobl yn dychwelyd adref wedi gwyliau dramor.
Yn Rhondda Cynon Taf, mae nifer yr achosion cadarnhaol a'u hamlder wedi parhau i gynyddu. Mae hyn i'w ddisgwyl ac mae'n dilyn y patrwm a welsom ym mwrdeistref Caerffili yn y dyddiau yn union ar ôl i gyfyngiadau gael eu cyflwyno. Rydym yn gweld llawer o glystyrau bach ledled ardal yr awdurdod lleol sydd, oherwydd diffyg cadw pellter cymdeithasol, wedi arwain at drosglwyddo'r feirws yn gymunedol. I ddechrau, roedd y rhan fwyaf o'r achosion mewn grwpiau oedran iau, ond bellach rydym yn gweld heintio ym mhob grŵp oedran, ac mae'n achos pryder arbennig fod gennym 34 o achosion o glefyd coronafeirws mewn pobl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bryder cynyddol i ni oherwydd y cynnydd sydyn mewn achosion mewn cyfnod byr iawn. Rydym wedi nodi nifer fach o glystyrau yn y fwrdeistref, ond rydym yn gofidio bod y patrwm hwn yn debyg i'r hyn a welsom eisoes yn Rhondda Cynon Taf. Fe fydd unedau profi symudol yn cael eu cyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.
Ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld achosion sy'n gysylltiedig â thafarndai a diffyg cadw pellter cymdeithasol, ond cafwyd achosion ymhlith staff cartrefi gofal hefyd yn ogystal ag yn ysgolion uwchradd yn yr ardal. Yng Nghasnewydd, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn achosion wedi yn gweld nifer fawr o achosion ar draws y ddinas sydd heb fod yn gysylltiedig â chlwstwr penodol nac yn dangos cysylltiadau ag achosion sy'n bodoli eisoes.
Ond mae yna rai gwahaniaethau hefyd. Ym Merthyr Tudful, mae cyfradd yr amlder yn uchel iawn ond ymddengys bod yr achosion yn canolbwyntio'n bennaf ar ddau glwstwr penodol. Mae un yn gysylltiedig â chyflogwr mawr a'r llall â thŷ tafarn. Fe nodwyd dau glwstwr newydd llai o faint hefyd. Fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu'n fanwl ym mhob un o'r ardaloedd hyn ac yn cael eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cynnal yr adolygiad ffurfiol cyntaf o'r cyfyngiadau ym mwrdeistref Caerffili. Rwy'n dawel obeithiol eu bod nhw'n cael effaith gadarnhaol ar yr achosion o goronafeirws yn yr ardal. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol dros ychydig ddyddiau yn y gyfradd o achosion. O fod â'r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda 119 achos fesul 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd hon wedi gostwng i 77.9 achos fesul pob 100,000 o bobl. Mae'n parhau i fod yn uchel, ond unwaith eto, mae'n dangos tystiolaeth sy'n dawel obeithiol bod y cyfyngiadau'n helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Fe hoffwn i ddiolch i drigolion a busnesau ym mwrdeistref Caerffili am eu cymorth, eu cydweithrediad a'u hamynedd. Mae'n dangos yr hyn y gallwn ni ei wneud trwy gydweithio â'n gilydd. Rwy'n gobeithio y gwelwn ni ostyngiadau tebyg yn y pum ardal awdurdod lleol arall yn y de sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau lleol, a thrwy weithio gyda'n gilydd, fe allwn ni gadw Cymru'n ddiogel.