– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 22 Medi 2020.
Fe wnawn ni ailgychwyn gydag eitem 4 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf ar Coronafeirws (COVID-19). Rwy'n galw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos yn ôl, fe wnes i ddatganiad i'r Senedd i roi gwybod i'r Aelodau am y sefyllfa sy'n datblygu yn Rhondda Cynon Taf a'r angen i gyflwyno cyfyngiadau lleol i reoli lledaeniad coronafeirws a diogelu iechyd pobl. Heddiw, rwy'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus. Byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn pedair ardal arall yn y de oherwydd y cynnydd cyflym a fu yn nifer yr achosion o goronafeirws.
O 6 o'r gloch ymlaen heno, daw cyfyngiadau newydd i reoli lledaeniad y feirws i rym ar gyfer pawb sy'n byw yn awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Fe fydd hyn yn golygu na chaniateir i bobl fynd i mewn i'r pedair ardal awdurdod lleol hyn na'u gadael heb reswm digonol, megis teithio i'r gwaith neu ar gyfer addysg. Dim ond yn yr awyr agored y gall pobl gwrdd â phobl sy'n byw ar aelwydydd eraill. Ni fyddan nhw'n gallu ffurfio cartrefi estynedig am y tro. Fe fydd yn rhaid i bob safle trwyddedig yn yr ardaloedd hyn gau am 11 p.m. Fe fydd yn rhaid i bawb dros 11 oed barhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, fel sy'n wir ledled Cymru. Rydym hefyd yn ymestyn y cyfyngiad trwyddedu 11 p.m. i ardal bwrdeistref sirol Caerffili.
Mae'r cyfyngiadau hyn yr un peth â'r rhai a gyflwynwyd yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf: o 6 o'r gloch heno, fe fydd yr un cyfyngiadau lleol yn weithredol ym mhob un o'r chwe ardal awdurdod lleol yn y de. Fe fydd hyn yn golygu y bydd cyfran fawr o boblogaeth y de yn byw dan gyfyngiadau lleol er mwyn helpu i reoli lledaeniad coronafeirws. Fe fyddwn ni'n cynnal cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu ledled rhanbarth ehangach y de i drafod y sefyllfa sy'n datblygu o ran coronafeirws, yn enwedig ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae'r cyfraddau'n is. Fe fyddwn ni'n trafod a oes angen mesurau pellach i ddiogelu'r boblogaeth ehangach wrth inni baratoi i weld myfyrwyr yn dechrau mewn prifysgolion neu'n dychwelyd iddyn nhw. Fe gynhelir cyfarfod tebyg yn y gogledd i ddwyn ynghyd arweinwyr yr awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a'r heddlu i drafod y sefyllfa os gwelwn y cyfraddau'n codi'n gyflym drwy'r rhanbarth.
Bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i gyflwyno'r cyfyngiadau hyn oherwydd ein bod wedi gweld cynnydd sydyn a chyflym mewn achosion yn yr ardaloedd hyn ers diwedd mis Awst. Mae llawer o debygrwydd rhwng yr achosion ym mhob un o'r chwe ardal hyn. Rydym wedi gweld cynnydd a lledaeniad yn yr achosion o goronafeirws sy'n gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol, yn cyfarfod dan do ar aelwydydd pobl eraill, a phobl yn dychwelyd adref wedi gwyliau dramor.
Yn Rhondda Cynon Taf, mae nifer yr achosion cadarnhaol a'u hamlder wedi parhau i gynyddu. Mae hyn i'w ddisgwyl ac mae'n dilyn y patrwm a welsom ym mwrdeistref Caerffili yn y dyddiau yn union ar ôl i gyfyngiadau gael eu cyflwyno. Rydym yn gweld llawer o glystyrau bach ledled ardal yr awdurdod lleol sydd, oherwydd diffyg cadw pellter cymdeithasol, wedi arwain at drosglwyddo'r feirws yn gymunedol. I ddechrau, roedd y rhan fwyaf o'r achosion mewn grwpiau oedran iau, ond bellach rydym yn gweld heintio ym mhob grŵp oedran, ac mae'n achos pryder arbennig fod gennym 34 o achosion o glefyd coronafeirws mewn pobl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bryder cynyddol i ni oherwydd y cynnydd sydyn mewn achosion mewn cyfnod byr iawn. Rydym wedi nodi nifer fach o glystyrau yn y fwrdeistref, ond rydym yn gofidio bod y patrwm hwn yn debyg i'r hyn a welsom eisoes yn Rhondda Cynon Taf. Fe fydd unedau profi symudol yn cael eu cyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.
Ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld achosion sy'n gysylltiedig â thafarndai a diffyg cadw pellter cymdeithasol, ond cafwyd achosion ymhlith staff cartrefi gofal hefyd yn ogystal ag yn ysgolion uwchradd yn yr ardal. Yng Nghasnewydd, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn achosion wedi yn gweld nifer fawr o achosion ar draws y ddinas sydd heb fod yn gysylltiedig â chlwstwr penodol nac yn dangos cysylltiadau ag achosion sy'n bodoli eisoes.
Ond mae yna rai gwahaniaethau hefyd. Ym Merthyr Tudful, mae cyfradd yr amlder yn uchel iawn ond ymddengys bod yr achosion yn canolbwyntio'n bennaf ar ddau glwstwr penodol. Mae un yn gysylltiedig â chyflogwr mawr a'r llall â thŷ tafarn. Fe nodwyd dau glwstwr newydd llai o faint hefyd. Fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu'n fanwl ym mhob un o'r ardaloedd hyn ac yn cael eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cynnal yr adolygiad ffurfiol cyntaf o'r cyfyngiadau ym mwrdeistref Caerffili. Rwy'n dawel obeithiol eu bod nhw'n cael effaith gadarnhaol ar yr achosion o goronafeirws yn yr ardal. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol dros ychydig ddyddiau yn y gyfradd o achosion. O fod â'r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda 119 achos fesul 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd hon wedi gostwng i 77.9 achos fesul pob 100,000 o bobl. Mae'n parhau i fod yn uchel, ond unwaith eto, mae'n dangos tystiolaeth sy'n dawel obeithiol bod y cyfyngiadau'n helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Fe hoffwn i ddiolch i drigolion a busnesau ym mwrdeistref Caerffili am eu cymorth, eu cydweithrediad a'u hamynedd. Mae'n dangos yr hyn y gallwn ni ei wneud trwy gydweithio â'n gilydd. Rwy'n gobeithio y gwelwn ni ostyngiadau tebyg yn y pum ardal awdurdod lleol arall yn y de sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau lleol, a thrwy weithio gyda'n gilydd, fe allwn ni gadw Cymru'n ddiogel.
Diolch. Andrew R.T. Davies. Mae angen i chi ddiffodd y mudydd, Mr Davies, os gwelwch chi'n dda. Dyna chi.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, er nad yw'n dweud mwy wrthym na wnaeth y wasg eisoes, rwy'n ofni.
A wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, beth yw nod terfynol y mesurau hyn? Rwy'n tybio mai trechu'r feirws yw hyn ac, yn y pen draw, rwystro ein gwasanaeth iechyd a gweithrediadau cyhoeddus eraill rhag cael eu gorlethu. Ond, i lawer o bobl, o edrych ar y mesurau newydd, onid hyn yw'r normal newydd nawr, ac y byddwn ni, bob hyn a hyn, yn gorfod rhyngweithio â rhyw fath o gyfnod clo nes y bydd brechlyn ar gael? Oherwydd bydd llawer o bobl yn ceisio deall sut y bydd pethau arnom ni drwy fisoedd nesaf y gaeaf o'n blaenau. A wnewch chi hefyd gadarnhau bod y mesurau lleol hyn a roddwch ar waith yno er mwyn osgoi cyfnod clo cenedlaethol, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno bod rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif, o gofio'r costau economaidd a chymdeithasol a fyddai'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru?
Yn eich datganiad rydych yn sôn am fesurau ychwanegol—ac rwy'n credu mai'r geiriau a ddefnyddir gennych yw—wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i'r brifysgol, diogelu poblogaethau lleol. Fe fyddwn i'n falch o gael deall pa fesurau yr ydych chi'n ystyried eu rhoi ar waith i ddiogelu, yn eich geiriau chi, boblogaethau lleol rhag myfyrwyr yn dychwelyd i gymunedau sy'n croesawu poblogaethau mawr o fyfyrwyr.
A wnewch chi gadarnhau hefyd bod y GIG, er gwaethaf y mesurau lleol hyn, yn agored i fusnes i raddau helaeth iawn? Fe dynnais i sylw ddoe at y ffaith y gwelwyd gostyngiad o 60 y cant yn nhriniaethau'r GIG ers y cyfnod clo ym mis Mawrth, ac er ein bod ni, diolch am hynny, wedi gweld cynnydd araf iawn i'r gweithdrefnau drwy fisoedd yr haf, er gwaethaf y mesurau lleol hyn, rwy'n cymryd y bydd y GIG yn parhau i fod ar agor i fusnes, i raddau helaeth iawn.
Ac yn olaf, o ystyried eich sylwadau chi neithiwr, a sylwadau'r Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a wnewch chi ddatgan yn bendant na fyddwch chi'n cefnogi brechu gorfodol mewn unrhyw amgylchiadau? Mae'n rhaid i mi ddweud, pan welais i eich cyfweliad chi neithiwr, ei bod wedi anfon ias i lawr asgwrn fy nghefn, i feddwl y gallai Gweinidog a etholwyd yn ddemocrataidd, mewn gwlad ddemocrataidd, wneud datganiad o'r math hwn na fyddai'n diystyru mesur o'r fath. Fe fyddaf i, fel rhywun sy'n credu'n gryf yng ngallu brechu i reoli afiechydon a dileu salwch yn ein cymuned ni, yn hyrwyddo brechu i'r eithaf. Ond nid wyf i o'r farn mai swyddogaeth y wladwriaeth yw rhoi deddfwriaeth ar waith a fyddai, yn y pen draw, yn rhoi sêl bendith ar frechu gorfodol mewn unrhyw lun neu fodd. Ac rwy'n nodi eich bod wedi rhoi rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol y prynhawn yma. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ie, diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Y nod terfynol, o ran y cyfyngiadau a gyflwynwyd, yw lleihau a rhwystro'r feirws ac osgoi niwed. Ac fe fyddwch wedi gweld prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU a Phrif Swyddog Meddygol Lloegr yn nodi ddoe, oni fydd mesurau yn cael eu cymryd i atal lledaeniad y feirws, y gallwn ddisgwyl gweld, erbyn canol mis Hydref, ar gyfraddau twf cyfredol ledled y DU, 50,000 o achosion y dydd, gyda chynnydd cysylltiedig yn nifer yr achosion mewn ysbytai y byddai hynny'n ei achosi, yn ogystal, yn anffodus, â'r cynnydd yn nifer y marwolaethau.
Felly, diben y mesurau yr ydym ni'n eu cyflwyno nawr yw ceisio osgoi'r niwed hwnnw. Cyfrifoldeb Llywodraethau ledled y DU, ein gwasanaeth iechyd, yw paratoi ar gyfer y cynnydd posibl mewn achosion, ond, yn yr un modd, mae'r cyfrifoldeb personol a rannwn ni i gyd a'n swyddogaeth ni fel arweinwyr, nid yn unig o fewn ein pleidiau gwleidyddol penodol ni, ond yn ein cymunedau ni, am y math o ymddygiad y mae angen i bob un ohonom ei ailystyried o ran sut i gyfyngu ar ein cysylltiadau, sut rydym yn deall ac yn dilyn y rheolau, ac, yn benodol, y rheolau sy'n ymwneud â chyswllt aelwydydd.
Rwy'n credu mai un o'r pethau anoddaf y bu'n rhaid i ni eu gwneud yw newid y trefniadau ynglŷn ag aelwydydd estynedig a symud tuag at aelwydydd unigol yn yr ardaloedd hynny sydd â chyfyngiadau lleol. Y rheswm am hynny yw mai cyswllt rhwng aelwydydd yw'r prif ysgogiad. Ac felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall y dylech gael grŵp wedi'i gyfyngu i bedair aelwyd, a'r un bedair aelwyd. Nid yw'n golygu eich bod i gyd yn dewis pedair aelwyd arall. Pedair aelwyd, mewn rhannau eraill o Gymru, i gael cyswllt dan do, gan gynnwys pan ydych yn mynd allan i dafarn neu fwyty gyda'ch gilydd—i fod gyda'r bobl hynny'n unig wrth archebu eich lle. Os na fydd hynny'n digwydd, yna fe fyddwn ni'n debygol iawn o weld cynnydd pellach yn lledaeniad y feirws, gyda'r holl niwed a ddaw yn sgil hynny.
Ac rydym yn gwneud hyn i osgoi niwed ac osgoi cyfnod clo cenedlaethol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi mai ymadrodd yw hwn, ond mae'r ymadrodd 'i osgoi cyfnod clo cenedlaethol ar bob cyfrif', wel, ni all fod yn addas, oherwydd, o bosibl, 'pob cyfrif' yw'r cynnydd cyflym a sylweddol mewn achosion a niwed yr ydym ni'n ceisio ei osgoi. Rydym wedi bod yn glir iawn, serch hynny, mai cyfnod clo cenedlaethol yw'r dewis olaf ar gyfer osgoi'r raddfa sylweddol honno o niwed. Dyna fel y mae hi o hyd yn y Llywodraeth hon, ac, yn wir, mewn llywodraethau eraill ledled y DU. Ac rydym ni eisoes wedi codi ein stondin: fe fyddwn ni'n cymryd camau eraill, a chau ysgolion yw'r pwynt olaf, cyn i ni gymryd unrhyw gamau eraill. Y peth olaf un yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw cau ysgolion, am resymau y mae'r Aelodau'n eu deall.
Fe fydd y normal newydd yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yr ydym ni'n dilyn y canllawiau hynny ar gadw pellter cymdeithasol ac wrth leihau ein cysylltiadau ni, a pheidio â bod â llawer iawn o gyswllt â grwpiau sylweddol o bobl amrywiol dan do. Dyna pam mae gennym ni reolau ynglŷn ag aelwydydd estynedig ar waith. Os gwnawn ni hynny, yna mae'n bosibl y gallwn ni ddal trwy'r gaeaf heb orfod cymryd camau mwy sylweddol eto. Rydych chi wedi gweld y Prif Weinidog yn cyhoeddi, drwy'r cyfryngau ac yna yn ei ddatganiad heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, fesurau cenedlaethol sylweddol sy'n cael eu cymryd ledled Lloegr. Rydym ninnau'n cyfarfod i drafod yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yng Nghymru, a chyn gynted ag y gallwn ni, fel y nododd Prif Weinidog Cymru'n gynharach, fe fyddwn yn dod i'r fan hon. Ac mae hynny'n wir yn dibynnu ar yr hyn a benderfynir yn y trafodaethau sy'n dal i ddigwydd tra rwyf i yn y Siambr, a phan fyddaf y gadael yn nes ymlaen i ymuno â'r trafodaethau hynny.
O ran y prifysgolion, rwy'n falch iawn o ddweud bod yr heriau sy'n gysylltiedig â'r maint sylweddol o gymysgu sy'n digwydd fel arfer ar ddechrau blwyddyn prifysgol—wel, hoffwn ganmol prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru a'u haelodau nhw am y dull cyfrifol iawn y maen nhw'n ei ddefnyddio ar lefel arweinyddiaeth. Fe fydd gan y Gweinidog Addysg fwy i'w ddweud yr wythnos hon am y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn trefi a dinasoedd prifysgol.
O ran lleihau gofal dewisol, rwyf wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'r ffaith fod yna ostyngiad wedi bod mewn gofal dewisol drwy gydol y pandemig—a ysgogwyd yn rhannol gan y mesurau y bu angen i ni eu cymryd i roi terfyn ar weithgarwch dewisol ar un pwynt yn bennaf, ac a ysgogwyd yn rhannol gan amharodrwydd pobl i ddod i mewn i ysbyty ar gyfer eu triniaethau, ac a ysgogwyd yn rhannol erbyn hyn gan y sefyllfa wirioneddol, gyda mwy o bobl mewn angen oherwydd bod ein gallu ni i brosesu yn arafu. Mae hyn yn gorfod wynebu gwasanaeth na all weld yr un nifer o bobl ar yr un pryd ag y gwnaethai o'r blaen oherwydd gofynion diogelwch COVID, gan gynnwys gofynion cyfarpar amddiffynnol personol sylweddol ar gyfer ein staff ni. Felly, fe fydd honno'n her wirioneddol yma yng Nghymru a ledled gweddill y DU.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar gyfer brechu gorfodol; nid ydym yn bwriadu ceisio pwerau deddfu sylfaenol i wneud hynny. Bob blwyddyn, rydym yn cael trafodaeth am y brechlyn ffliw, ac arferai eich rhagflaenydd chi fel llefarydd iechyd yr wrthblaid, bob blwyddyn, ofyn i mi a fyddem ni'n mandadu bod staff yn ein gwasanaeth iechyd ni'n cael y brechlyn ffliw. Bob blwyddyn, fe fyddem ni'n penderfynu peidio gwneud hynny, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd hefyd. Ac fe ddywedais i neithiwr mai gorfodaeth fyddai'r cam mwyaf eithafol a mwyaf annhebygol, ac nid ydym ni'n bwriadu gwneud hynny. Nid dyna yw ein bwriadu ni.
Felly, ein cynllun ar gyfer brechu, os a phan gawn ni frechlyn COVID, yw gwneud hynny gan esbonio'r manteision a'u deall, ac rwy'n credu y bydd llawer iawn o'r cyhoedd yn cydsynio i gael y brechlyn. Ac nid wyf i o'r farn i mi beidio â bod yn eglur nad yw hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. A dyna safbwynt clir a diamwys y Llywodraeth yn hyn o beth, yn fy marn i.
Diolch, Weinidog, am y datganiad yna. Cyn imi ofyn cwpwl o gwestiynau am y datganiad ei hun, mae gen i gwpwl o sylwadau am yr atebion y clywsom ni yn y fan yna. Mi fydd pobl wedi dychryn yn clywed y gallai ysgolion gau eto—fel cam olaf, fel y dywedoch chi. Dwi'n sicr, fel un, yn edrych ymlaen am ddatganiad clir iawn gan y Llywodraeth—y Gweinidog Addysg, nid y chi—y bydd addysg yn parhau y tro yma yn ddiamwys os ydy ysgolion yn gorfod cau, a dyna beth fydd rhieni, dwi'n meddwl, yn disgwyl ei glywed.
Dwi'n croesawu hefyd eich eglurhad chi ynglŷn â brechiadau gorfodol—dydy o ddim yn gynllun, meddai chi. Dyma pam fod dewis geiriau mor ofalus gan ein harweinwyr ni ar yr adeg hon—. Rydych chi'n dal i ddweud, 'Dydyn ni ddim yn cynllunio gwneud hyn.' Mae eisiau bod yn glir iawn na fydd y Llywodraeth yn gwneud hyn, oherwydd dyma'r math o beth sydd yn mynd i godi amheuon mawr ym meddyliau etholwyr ledled Cymru, yn hytrach na'u cael nhw i ddilyn a bod yn dymuno dilyn cyngor a chyfarwyddyd y Llywodraeth.
Ychydig o gwestiynau. Dwi'n croesawu ehangiad y cyfyngiadau—mae'n amlwg bod y patrwm yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Rydym ni'n sicr yn croesawu dilyn y patrwm yma o gyfyngiadau lleol. Un peth rydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, ydy gofyn i bobl aros o fewn eu hardaloedd eu hunain. Mae yna anomali yn fan hyn ar draws Prydain. A gaf ofyn i chi: ydy o'n fwriad i siarad efo'r Llywodraeth yn Lloegr, awdurdodau lleol yn Lloegr, i ofyn iddyn nhw wneud yr un fath? Achos, ar hyn o bryd, er bod pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn eu ardaloedd eu hunain, os ydyn nhw'n ardaloedd o risg, ardaloedd o dan gyfyngiadau, does dim byd i atal pobl rhag teithio i Gymru o ardaloedd eraill. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sydd angen ei drafod ar y lefel uchaf rhwng Llywodraethau.
Ydy'r Gweinidog yn credu bod angen y plan B yn barod? Er enghraifft, mae yna, i fi, lefydd amlwg lle dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell. Does yna ddim cyfyngiad, ar wahân i gau am 11 y nos, ar dafarndai, gymaint ag a fyddai pobl, dwi'n meddwl, yn dymuno ei weld. Rydym ni y tu ôl i Loegr yn sicr ar hyn erbyn hyn. Ydych chi yn ystyried mynd gam ymhellach a gofyn i bobl gau yn gynharach fel cam lleiaf, dim ond agor y tu allan, cau tafarndai a bwytai hyd yn oed, os, a dim ond os, yr ydych chi'n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw?
I gloi, dwi angen, unwaith eto, tynnu sylw at y broblem yn fan hyn. Rydym ni'n cefnogi'r cyfyngiadau ychwanegol, yn gofyn os ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell, ond mae'n rhaid mynd i'r afael â'r broblem efo profi. Rydych chi wedi rhoi datganiad allan heddiw yn dweud y bydd hi'n wythnosau nes y bydd lighthouse labs wedi cael ei ddatrys. Dydy hynny ddim yn digon da. Rydych chi'n dweud bod yna 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos yng Nghymru rŵan, yn cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â hynny. Fedrwch chi egluro o ble yn union mae'r 28,000 o brofion yr wythnos yma yn dod, a phryd byddwn ni'n gweld eu heffaith nhw yng Nghymru?
Ac o ran y datganiad gan y Prif Weinidog heno, plis a wnewch chi dynnu fo ymlaen fel ein bod ni'n gallu cael hwn yn y Senedd y prynhawn yma? Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y sylwadau. Nid wyf yn credu fy mod i wedi newid safbwynt y Llywodraeth ar gau ysgolion o gwbl. Rwyf wedi bod yn eglur iawn mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ysgolion ar agor cyn belled ag y bo modd, ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu ysgolion uwchlaw sectorau eraill. Felly, fe wnawn ni gau rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, neu'n wir yr economi, er mwyn diogelu'r gallu ar gyfer ein hysgolion ni. Mae yna effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Ceir tystiolaeth eu bod nhw'n llai agored i niwed, ac yn llai tebygol o fod yn heintus i oedolion, ac, yn yr un modd, ceir tystiolaeth dda nad yw pob plentyn wedi ffynnu o gael eu haddysgu o bell. Dyma wirionedd sy'n cael effaith yn y tymor hwy ar ragolygon plant a phobl ifanc. Felly, nid yw safbwynt y Llywodraeth wedi newid o gwbl yn hyn o beth.
Ac ni allaf fod yn gliriach na hynny: nid oes cynllun o gwbl ar gyfer brechu gorfodol. Nid wyf yn dymuno codi sgwarnog fel hyn. Mae gennym waith sylweddol i'w wneud eleni yn cynllunio ar gyfer yr ymgyrch brechu rhag y ffliw. Mae angen inni berswadio pobl i fanteisio ar eu hawl i gael pigiad rhag y ffliw, i'w hamddiffyn nhw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas, a bydd hyn yn digwydd hefyd pryd bynnag y cawn ni frechlyn COVID. Rydym eisoes yn cynllunio sut i gyflawni hynny, ac nid yw gorfodaeth yn rhan o gynlluniau'r Llywodraeth hon.
O ran teithio lleol, gyda'r cyfyngiadau a gyflwynwyd eisoes mewn chwe ardal yn y de, mae gennym ni, wrth gwrs, gyfyngiadau eisoes sy'n atal teithio i'r ardaloedd hynny. Felly, os ewch chi'n ôl i'r sefyllfa a gawsom o'r blaen yn ystod y cyfnod pan gafwyd yr achosion cyntaf gyda'r neges i aros yn lleol, gwyddom fod hysbysiadau cosb wedi cael eu rhoi i bobl a oedd yn teithio o'r tu allan i'r ardal. Ac efallai y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw eto, ond nid cyn belled. Ac, mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni ganolbwyntio'n bennaf ar gael pob un ohonom i gyfyngu ar ein cysylltiadau, a bod yn eglur ynghylch yr hyn a ddywed y rheolau am y ffordd yr ydym ni'n cadw pellter cymdeithasol, a'r ffordd yr ydym ni'n dilyn y rheolau penodol ar gymysgu â phobl eraill dan do.
Gyda llawer iawn o symud o gwmpas yn digwydd yn y DU wrth i'r prifysgolion ailagor, rhan o'r her yw y bydd pobl yn symud o un rhan o'r wlad i'r llall, o ardal lle ceir mwy o achosion i ardal lle ceir llai, ac i'r gwrthwyneb hefyd. Fe wyddom ni, fel y gwelsom yn Rhondda Cynon Taf, mewn lleoliadau cymunedol, nad yw'r feirws yn aros o fewn un grŵp oedran arbennig, ac felly ceir pryder ynghylch sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweld niwed yn digwydd, mewn lefelau cymharol is, i boblogaeth y myfyrwyr, ond ni ddylem ddisgwyl y bydd hynny'n aros yn gyfan gwbl o fewn un bloc yn y boblogaeth.
O ran yr heriau sy'n ymwneud ag adeiladau trwyddedig, rydym eisoes yn ystyried beth y dylid ei wneud; mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn fwriadol. Rydym eisoes wedi cael dadl ynglŷn ag oriau cau cynharach a'r cyfyngiadau sydd gennym ni am 11 o'r gloch, ac rydym yn ystyried a ddylid symud i 10 o'r gloch. Mae rhywbeth i'w ddweud am gysondeb yn hyn o beth a allai helpu gyda'r neges, a rhan o'r cyfarfod a oedd i'w groesawu yn COBRA heddiw oedd y gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y byddai o gymorth cael trafodaeth rhwng pedair Llywodraeth y DU, o ran trafod a chytuno ar benderfyniadau lle bynnag y bo modd gwneud hynny, ond fe fyddai hefyd o gymorth o ran cyfathrebu. Roedd yna gydnabyddiaeth rannol, o leiaf, nad oedd peidio â chael cyfarfodydd pedair gwlad wedi bod o gymorth o ran eglurder yn y cyfathrebu. Mae hynny'n bwysig i bobl sy'n awyddus i ddilyn y rheolau a chydnabod ei bod yn bwysig ymddwyn yn unol â'r canllawiau. Felly, nid dim ond ystyried mater 10 o'r gloch a wnawn, rydym hefyd yn ystyried a ddylai hynny ddigwydd o ran gweini wrth fyrddau. Mae cyfyngiadau eraill yn bosibl cyn inni orfod cau i lawr. Fel y soniais o'r blaen, mae'n bosibilrwydd, ond nid yn gynllun, y gellid gwneud yr hyn a wnaeth Iwerddon, lle maen nhw wedi cadw'r tafarndai ar agor, ond dim ond os ydyn nhw'n cynnig bwyd hefyd. Felly mae yna sawl ffordd wahanol i'w throedio cyn cyrraedd y pwynt o gau'r tafarndai yn llwyr, oherwydd pe byddem yn gwneud hynny gallwn fod yn siŵr iawn y bydd rhywfaint o'r yfed yn symud i aelwydydd pobl, sef lle mae'r fectorau mwyaf arwyddocaol o ledaenu'r feirws wedi digwydd.
Fe godwyd materion yn ymwneud â phrofi yng nghyfarfod COBRA y bore yma. Yn y cyflwyniad gyda Dido Harding, y cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru ato, roedd yna gydnabyddiaeth unwaith eto fod angen gwella'r sefyllfa, gyda'r heriau hysbys iawn nid yn unig o ran niferoedd y profion, ond o ran cyflymder cwblhau'r profion hynny hefyd. Mae gennym ni yma yng Nghymru wasanaeth olrhain cyswllt da iawn—sy'n hynod effeithiol, yn sylweddol well na'r gwasanaeth yn Lloegr. Ond os yw pobl, yn rheolaidd, yn gorfod aros am dri diwrnod am eu profion, yna ceir her o ran a yw'r bobl hynny, a'u cysylltiadau nhw, eisoes yn cymysgu o fewn y gymuned. Felly mae honno'n rhan o'r her yr ydym ni'n awyddus i ymdrin â hi.
Ac o ran defnyddio'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n ei ryddhau i'r system, rydym yn mynd i gael lonydd ychwanegol a mwy o brofion ym mhob canolfan profi trwy ffenest y car. Rydym yn creu nifer ychwanegol o unedau profi symudol hefyd. Ar hyn o bryd, fe fyddan nhw'n cael eu rhoi yn yr ardaloedd lle mae'r nifer fwyaf o achosion—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ond fe fyddwn ni'n parhau i geisio deall pa mor hir y mae disgwyl inni orfod aros i'r rhaglen labordai goleudy fod yn ei hôl ar y trywydd iawn. Ac efallai y bydd angen inni gymryd camau pellach i newid mwy o'n profion ni, i sicrhau eu bod yn fwy dibynadwy a chadarn, i'r capasiti yr ydym ni wedi cymryd yr amser a'r adnoddau i'w adeiladu yma yng Nghymru, yn ogystal â'r £32 miliwn a gyhoeddais i o'r blaen i atgyfnerthu ein seilwaith profi ni yma yng Nghymru drwy'r hydref a'r gaeaf.
Diolch. Cyn inni fynd ymhellach, rydym hanner ffordd drwy'r amser a neilltuwyd ar gyfer y datganiad hwn ac rydym wedi cael dwy gyfres o gwestiynau. Mae gennyf tua 10 siaradwr, felly os cawn ni gyfraniadau sy'n fwy cryno, fe fyddai hynny o ddefnydd mawr. David Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Gweinidog, rhaid i bob un ohonom gydnabod bod angen dilyn, i ryw raddau, yr hyn y mae Llywodraeth y DU ac, yn wir, lawer trwy'r byd yn ei wneud o ran COVID-19. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni'r gwleidyddion i holi ynglŷn â'r camau llym hyn, ac maen nhw'n llym iawn, oherwydd fe fydd yna ganlyniadau pellgyrhaeddol i bron pob unigolyn sy'n byw yng Nghymru. Mae'n rhaid inni ofyn a yw'r ffigurau'n cyfiawnhau'r camau hyn.
Ar hyn o bryd, mae COVID-19 yn gyfrifol am, ar gyfartaledd, 11 o'r 1,687 o farwolaethau sy'n digwydd ym Mhrydain bob dydd. Gellir cymharu hyn â'r ffaith, yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 4 Medi, fod 124 o bobl wedi marw bob dydd o achos ffliw endemig a niwmonia. Clefyd y galon, sef y clefyd sy'n lladd y mwyaf o bobl ym Mhrydain, oedd achos 460 marwolaeth bob dydd y llynedd, tra bod canser yn lladd 450 o bobl bob dydd ar gyfartaledd. Rydym i gyd wedi cael gwybod nad yw pobl yn ceisio triniaeth ar gyfer y clefydau hyn gan fod arnyn nhw ofn dal y feirws yn ein hysbytai. Ac o ystyried y dystiolaeth gynyddol bod yr ystadegau ar farwolaethau o ganlyniad uniongyrchol i glefyd coronafeirws yn ddiffygiol iawn, a yw'r Llywodraeth yn gallu cyfiawnhau cyfnod clo i'r boblogaeth gyfan oherwydd ymddygiad nifer fach iawn o bobl, fel y mynegodd y Prif Weinidog ei hun yn gynharach yn y Cyfarfod Llawn hwn? Onid y camau cywir, Gweinidog, fyddai cosbi'r rhai sy'n torri'r rheoliadau, ac nid ceisio carcharu'r rheini ohonom sy'n ufuddhau i'r gyfraith?
Roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw hefyd at rai o'r anghysonderau sy'n rhan annatod o'r camau gweithredu presennol. Rydym yn gweld caniatâd yn cael ei roi i ffeiriau teithiol, ond mae digwyddiadau marchogaeth sydd wedi'u trefnu'n briodol yn cael eu hatal, ac ni all pobl deithio allan o ardaloedd dan glo ond caniateir i lawer iawn o bobl wneud hynny ar gyfer prosesau gwaith, fel y'u gelwir. Siawns nad yw strategaethau clo o'r fath, nad ydynt yn dal dŵr o bell ffordd, ddim ond yn achosi dryswch i'r rheini ohonom sy'n cadw at y rheoliadau, pan welir effeithiolrwydd cyfyngedig o ran rheoli'r feirws.
Diolch am y gyfres o sylwadau, ac fe geisiaf i ymateb i'r pwyntiau sydd â chwestiynau ynghlwm wrthyn nhw. Mae'r Senedd, wrth gwrs, yn pleidleisio ar y rheoliadau a'r cyfyngiadau sylweddol a gyflwynwyd a'r ymyriadau ar ryddid pobl, ac rwy'n cydnabod hynny; nid yw'n benderfyniad hawdd na syml. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud serch hynny yw osgoi niwed, nid aros nes y bydd niwed sylweddol wedi cael ei achosi. Yn y don gyntaf, o'n cymharu ni â Lloegr, rydym ni wedi gweld llawer llai o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Felly, mae hynny'n gadarnhaol, ac eto i gyd rydym ni'n parhau i weld fod yna fwy na 2,500 o bobl wedi colli eu bywydau i goronafeirws. Mae hynny er gwaethaf y mesurau sylweddol a wnaed gennym. Gallwn fod yn hyderus y buasai llawer iawn mwy o farwolaethau, mae arnaf ofn, oni bai am y mesurau hyn, a dyna pam mae angen inni weithredu.
O ran yr her ynghylch a ddylem ni ddefnyddio'r wialen fedw ar gyfer y bobl hynny nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau, mewn gwirionedd, angen dwyn perswâd sydd arnom ni, i annog a chefnogi pobl i ddilyn y rheolau. Ac, yn arbennig felly, dyna pam mae'r mesurau ariannol i gefnogi hunanynysu mor bwysig. Fe fyddai cael eglurder cyflym ynghylch y symiau canlyniadol ar gyfer hynny i'w groesawu'n fawr ym mhob un o'r pedair gwlad, ac roedd yn bwynt a godwyd yng nghyfarfod COBRA heddiw, sef bod angen eglurder ar gyfer Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ynglŷn â'r arian a fydd ar gael i helpu pobl sy'n hunanynysu. Oherwydd os ydych yn cael tâl salwch statudol, a bod angen ichi hunanynysu am 14 diwrnod, efallai y byddwch chi'n gweld na allwch fwydo eich teulu na thalu eich biliau. Nid yw honno'n sefyllfa y dymunwn roi pobl ynddi, felly fe allai achosi i bobl beidio â mynd am y prawf yn y lle cyntaf. Felly, cyn gynted ag y cawn ni eglurder am y cyllid, fe fyddwn ni'n hapus i ddod yn ôl gyda chynllun i sicrhau bod hynny ar waith.
Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am y datganiad a chroesawu'n fawr y ffaith bod y trafodaethau pedair gwlad wedi dechrau, ond hoffwn ofyn iddo a yw'n siŵr ac yn hyderus y bydd yna gyfarfodydd rheolaidd a dibynadwy yn digwydd nawr, ac nid unwaith yn unig? Ac a gaf i ddiolch iddo hefyd am yr ymgysylltu hynod ddwys a gafodd, nid yn unig ag Aelodau'r Senedd, ond ag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled y de hefyd? Pe bai pobl ond yn gwybod hanner yr hyn oedd yn digwydd ar lefel yr ymgysylltu a'r cynllunio a'r cydgysylltu, rwy'n credu y bydden nhw'n rhyfeddu, ac rwy'n amau'n fawr a yw hyn yn digwydd i'r un graddau, mae'n rhaid imi ddweud, yn Lloegr.
A gaf i ofyn iddo ddweud wrthym ni—? Fe soniodd y bydd uned brofi symudol yn cael ei chyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr nawr, ryw bryd yn ystod yr wythnos hon o bosibl. A wnaiff roi ychydig mwy o fanylion i ni am hynny? A diolch i chi am hynny, oherwydd rydych yn gwybod fod hwnnw'n fater a gododd arweinydd yr awdurdod lleol, Huw David, a minnau gyda chi. Felly, dyna waith cyflym iawn ar hynny. Ac a gaf i ofyn ichi gadw meddwl agored yn y trafodaethau gydag arweinwyr cynghorau ynghylch mynd ymhellach gyda'r tafarndai, fel yr ydych chi newydd ei ddweud—mewn tafarndai a chlybiau? Rwy'n credu bod yna ffyrdd sy'n werth ymchwilio iddyn nhw, nid dim ond lleihau oriau gweithredol tafarndai, ond mewn gwirionedd wrth eistedd i lawr am wasanaeth a'r gorchuddion wyneb. Ac fe welwn ni yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r rhain wedi bod yn gweithio, ac mae'n golygu rhywfaint o ddisgyblaeth. Oherwydd, Gweinidog, y ddau beth nad ydyn nhw'n mynd gyda'i gilydd yw meddwdod ac oriau hwyr, a chadw pellter cymdeithasol.
Rwy'n croesawu'r sylw. Rwy'n diolch i'r Aelod am ei ymgysylltiad adeiladol ef, nid yn unig yn y lle hwn, ond y tu allan hefyd. Rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad ag arweinwyr yr awdurdodau lleol ac rwy'n disgwyl ymuno mewn galwad gyda 10 o arweinyddion gwahanol awdurdodau lleol ar ôl i'r sesiwn hwn ddod i ben.
O ran yr ymgysylltu rhwng y pedair gwlad, rydym wedi gwneud y pwynt unwaith eto'r bore yma bod cael trefn reolaidd a dibynadwy i'n hymgysylltiad ni er budd pawb. Gan ein bod ni'n nesáu at gyfnod arall, lle mae coronafeirws yn cynyddu, fe ddaw gwerth cysondeb ein neges ni'n fwy amlwg byth. Rydym ni o'r farn y byddai hyn wedi bod o gymorth drwy'r haf hefyd. Ond rydym mewn gwell sefyllfa nawr, rydym yn croesawu'r ffaith i gyfarfod COBRA gael ei gynnal ac rwy'n awyddus i weld mwy o gyfarfodydd rheolaidd, ac felly nid oes angen inni bendroni tybed beth fydd yn digwydd na chlywed pethau'n cael eu briffio i'r papurau newydd cyn i ni gael trafodaethau yn eu cylch. Mae er ein lles ni i gyd i sicrhau bod hynny'n digwydd yn rheolaidd.
Fe ddof i'n ôl atoch yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda'r manylion a gadarnhawyd. Rwy'n aros nid yn unig i'r safle fod yn barod ond i'r holl drefniadau fod ar waith, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod Aelodau'r etholaeth a'r rhanbarth yn ymwybodol pryd y bydd safle profi Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ac ymhle y bydd hynny. Mae'n ymwneud â chael profion lleol ar gyfer pobl leol. Rhan o'r her rhaglen y DU y bore yma oedd eu bod nhw wedi ceisio cyflwyno datrysiad i sicrhau na allwch archebu prawf sy'n fwy na 50 milltir i ffwrdd o'ch cartref. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny'n golygu 50 milltir o daith, ac nid fel yr hed y frân, oherwydd, fel y gwelsom ni, mae pobl sy'n byw yn Weston-super-Mare wedi cael eu cyfeirio at ganolfannau profi yn ne Cymru ac nid yw hynny'n fuddiol o gwbl.
O ran cyfyngiadau ar dafarndai, rwy'n ystyried y pwynt yr ydych chi'n ei godi, ac fe soniais i'n gynharach am weini wrth y bwrdd ac amser cau o 10 o'r gloch, ac rydym ni'n adolygu'r dystiolaeth ar orchuddion wyneb hefyd. Ond dim ond rhybudd ynglŷn â hynny: mae'n amlwg na allwch yfed na bwyta pan fyddwch yn gwisgo mwgwd, ac mae'r her o dynnu'r gorchudd wyneb a'i roi yn ôl ymlaen yn rhan o'r pryder. Mae'r weithred hon yn digwydd ar yr adegau pan allwch chi fod yn rhyddhau peth o'r feirws mewn gwirionedd, felly mae angen ystyried a yw'r dystiolaeth yn cefnogi bod hynny'n fwy tebygol o ledaenu coronafeirws yn hytrach na bod o fudd. Ond mae'r adolygiad hwnnw wrthi'n cael ei gynnal.
Diolch am eich ymateb i Huw Irranca-Davies ynglŷn â chanolfan brofi symudol i Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf i am ofyn dim ond hyn i chi, o gofio bod y rheoliadau hyn yn debygol o ddod ger ein bron yr wythnos nesaf ac na fyddan nhw'n cael eu hadolygu wedyn am dair wythnos arall o'r wythnos hon ymlaen, am ba hyd yr ydych chi'n disgwyl i'r cyfnodau clo barhau? A oes gennych amserlen mewn golwg, neu a yw hyn yn seiliedig i raddau helaeth iawn, wel, ar y rhif R i bob pwrpas? Diolch.
Yn y cynllun i reoli coronafeirws, rydym wedi nodi—ac rwy'n credu mai hwn yw'r gofyniad cyfreithiol hefyd—y byddwn ni'n adolygu'r cyfyngiadau unigol hyn bob 14 diwrnod i ddechrau, ond yn eu hadolygu nhw bob wythnos wedyn. Mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar y darlun dyddiol o'r hyn sy'n digwydd. Felly, fe edrychwn ni ar y cyfraddau bob dydd a'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthym am y tueddiadau. Ac, oherwydd yr heriau o gael canlyniadau profion yn mynd drwodd, mae hynny'n golygu bod ein ffigurau ni'n newid wrth inni fwrw golwg yn ôl i ddeall faint o achosion cadarnhaol sydd wedi digwydd ar unrhyw ddiwrnod.
Felly, er enghraifft, yn ôl y ffigurau sydd gennym dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, gwyddom y byddwn yn cael rhagor o'r rhain wedi'u llenwi yn ystod y dyddiau nesaf. Mae bwlch o hyd at dri i bedwar diwrnod, fel arfer, yn y profion labordy goleudy ar y foment. Nawr, dyna ran o fan dall sydd gennym yng nghanol yr hyn y gallwn ni ei wneud. Mae gennym lawer mwy o wybodaeth na'r hyn oedd gennym ym mis Chwefror neu fis Mawrth neu fis Ebrill, gyda rhaglen brofi sy'n llawer mwy, ond mae'r bwlch amser yn peri rhywfaint o anhawster o ran ba mor ddibynadwy yw'r tueddiadau. Dyna pam mae'r duedd dros saith diwrnod yn bwysig i ni, a'r data dros y 48 i 72 awr ddiwethaf hefyd.
Felly, rydym yn edrych ar hynny'n rheolaidd, a'm huchelgais i yw, pan fyddwn yn deall ein bod wedi llwyddo i reoli coronafeirws yn yr ardaloedd hynny unwaith eto, mae angen inni feddwl drachefn am lacio rhai o'r cyfyngiadau, ond gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei rheoli ac mewn ffordd y gallwn ni gadw ati drwy'r hydref a'r gaeaf. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn flaenorol, mae'r rhain yn gyfyngiadau sylweddol ar ryddid pobl sydd, ar unrhyw adeg arall—a hyd yn oed ar yr adeg hon—ymhell y tu hwnt i'r cyffredin. Nid wyf yn dymuno eu gweld ar waith am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Carwyn Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich—
Nage, mae'n ddrwg gennyf. Carwyn Jones. Mae'n ddrwg gennyf, Caroline.
Mae'n ddrwg gennyf i.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wn i fod Caroline a minnau wedi cael yr un broblem adeg yr etholiad diwethaf, pan oedd pobl yn ein drysu â'n gilydd, yn sicr ar bapur.
Tri pheth sydd gennyf i, Gweinidog. Yn gyntaf, fe wnaethoch chi sôn eisoes am yr arwyddbyst—pwyntiau'r adolygiad, fel petae—yn y broses. A wnewch chi roi ryw syniad inni o'r hyn y byddwch chi'n chwilio amdano mewn 14 diwrnod, pan fyddwch chi'n penderfynu a ddylid ymestyn y cyfyngiadau hyn yn y dull hwn ai peidio, er mwyn cael syniad o ba arwyddion yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw i benderfynu a ddylid cadw'r cyfyngiadau, neu a ddylid eu tynhau nhw neu, yn wir, eu llacio nhw?
Yn ail, rwy'n pryderu, wrth i dafarndai a bariau gau ar ôl 11 p.m., y bydd yn demtasiwn i rai pobl, yn enwedig pobl ifanc, fynd ymlaen i bartïon mewn tai. Nawr, fe wyddom ni, wrth gwrs, fod partïon mewn tai yn risg arbennig gan ein bod ni'n gweld pobl yn cymysgu'n agos iawn at ei gilydd. Mae alcohol yn rhan o hyn, ac felly fe wyddom fod cadw pellter cymdeithasol yn tueddu i fynd ar chwâl. Pa negeseuon yr ydych chi'n eu paratoi i'w rhoi ynglŷn â pheryglon partïon mewn tai yn disodli tafarndai yn hyn o beth?
Yn drydydd, dim ond apêl i sicrhau, pan gaiff cyhoeddiad ei wneud, bod y canllawiau ar gael cyn gynted â phosibl. Roedd fy nghyd-Aelod i, yr Aelod dros Ogwr, a minnau yn ffodus yn yr ystyr ein bod ni, pan wnaeth etholwyr ymholiadau, yn gallu eu cyfeirio nhw at ganllawiau Rhondda Cynon Taf. Ond, dim ond apêl i sicrhau bod y canllawiau ar gael cyn gynted â phosibl, fel bod y rhai ohonom ni yr effeithir arnyn nhw fel Aelodau yn gallu darparu'r lefel briodol o gyngor i'r etholwyr.
Diolch i chi am y cwestiynau. Ynglŷn â'ch pwynt olaf, rwy'n cydnabod bod angen darparu eglurder, a hynny cyn gynted ag sy'n bosibl, ynglŷn ag ystyr y cyfyngiadau i bobl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i ddilyn y rheolau, ac felly mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni'n eu helpu nhw i wneud felly. Mae'n rhaid cydbwyso hynny â chyflymder y broses o wneud penderfyniadau sy'n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel. Ond, pwynt da yw hwn, ac yn yr achos hwn, mae wedi bod o gymorth mai'r un cyfyngiadau yn y bôn sydd eisoes ar waith yn Rhondda Cynon Taf sydd ar draws y chwe awdurdod lleol perthnasol yn y de erbyn hyn.
O ran yr her o safbwynt partïon mewn tai, mae hwn yn berygl gwirioneddol ac yn bryder gwirioneddol. Dyma ran o'r rhesymeg dros gadw tafarndai a'r fasnach letygarwch ar agor. Mae'n amgylchedd lle gall pobl yfed gyda'i gilydd, lle maen nhw'n mwynhau gwneud hynny gyda'i gilydd, ond hefyd, mae'n amgylchedd a gaiff ei reoleiddio ac mae'n bosibl cadw golwg arno. Rydyn ni'n pryderu mwy am y cyswllt dan do yng nghartrefi preifat pobl. Hwnnw fu'r maes pennaf o ran lledaeniad a chyfraddau heintio yn codi. Felly, yr hyn nad ydym yn bendant yn dymuno ei weld yw cynnydd mewn partïon mewn tai. Os ydych chi'n credu eich bod yn fwy diogel yn yfed yn eich cartref gyda chwech neu saith o ffrindiau sydd ddim yn byw gyda chi, mewn gwirionedd, rydych chi mewn llawer mwy o berygl na'ch bod chi mewn tafarn lle mae'n rhaid cadw pellter cymdeithasol. Felly, ceir her wirioneddol yn yr hyn a wnawn a'r negeseuon ynghylch lletygarwch, pam mae'n cael ei gadw ar agor, a'r her o gyfnewid hwnnw'n syml am yfed a phrynu alcohol o siop. Rydym yn edrych ar siopau sy'n gwerthu alcohol yn faes posibl ar gyfer cyfyngiadau, ynghyd â Llywodraethau eraill yn y DU.
O ran yr hyn sydd angen ei weld ar gyfer dileu'r cyfyngiadau lleol presennol, fe fyddwn ni'n edrych yn benodol ar ostyngiad yng nghyfradd yn achosion ac ar dueddiadau yn mynd i'r cyfeiriad iawn, gan weld gostyngiad cyson yn y rhain er mwyn iddynt fod yn is na'n lefelau gweithredu ni. Rydym hefyd yn mynd i fod yn edrych ar y cyfraddau cadarnhaol, a nifer y bobl ym mhob cant sy'n cael prawf cadarnhaol. Fe fydd hynny'n dweud llawer wrthym am gyflwr trosglwyddiad cymunedol. Ac fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar yr wybodaeth a gawn gan ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu am glystyrau newydd, a oes gennym ni glystyrau heb esboniad—mae hwnnw'n arwydd arall bod trosglwyddiad cymunedol yn digwydd—ond tystiolaeth hefyd o gymysgu a sut mae pobl yn cael coronafeirws yn y lle cyntaf. Felly, bydd amrywiaeth o fesurau a fydd yn cynnwys mesurau data mwy caled a gwybodaeth fwy meddal ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ymddygiad yn y gymuned.
Ond os byddwn yn gwneud unrhyw ddewisiadau ynghylch gostwng lefel yn is, fe fydd yn rhaid inni egluro pam rydym yn gwneud hynny a beth mae hynny'n ei olygu wedyn. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw pobl yn colli golwg ar y ddisgyblaeth gyffredin y mae angen inni ei hailddarganfod o ran parchu ac ymarfer cadw pellter cymdeithasol yn arbennig.
Gweinidog, mae trigolion yn fy rhanbarth i ym Mlaenau Gwent, yng Nghaerffili, ym Merthyr ac yng Nghasnewydd yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn. Rwy'n nodi eich ateb ychydig funudau yn ôl ynglŷn â sut y byddwch chi'n adolygu'r cyfyngiadau yn ddyddiol, ac rwy'n croesawu hynny. Gan fod cynifer o awdurdodau cyfagos yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn, fe hoffwn i ofyn a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i ystyried ailgyflwyno'r rheol pum milltir, dywedwch, yn hytrach na disgwyl i bobl sy'n byw ar y ffin rhwng ardaloedd yr awdurdodau allu teithio ar hyd a lled ardal eu hawdurdod eu hunain ond nid, er enghraifft, ymweld ag aelodau o'r teulu yn yr awyr agored sy'n byw dwy filltir i ffwrdd oherwydd eu bod y tu hwnt i'r ffin rhwng awdurdodau.
Ac yn olaf, fe hoffwn i ofyn am gyfathrebiadau eich Llywodraeth chi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod gan y Prif Weinidog blaenorol—. Mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn ei ofyn yn ymwneud â'r ffaith bod eich Llywodraeth chi wedi cyfathrebu'r rheolau y mae angen i bobl eu dilyn nhw. O gofio bod cynifer o bobl yng Nghymru, yn anffodus, yn cael eu newyddion gan ddarlledwyr o Loegr, neu ddarlledwyr a leolir yn y DU, sut ydych chi'n awgrymu eu bod nhw'n cael gwybod am y rheolau sy'n weithredol yn eu hardal benodol nhw eu hunain? A fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw ddarganfod hynny drostyn nhw eu hunain, neu a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried eu hysbysu nhw drwy ryw fath o gyfathrebu uniongyrchol?
[Anhyglyw.]—her ynghylch cyfyngiadau teithio. Fe gawsom ni drafodaeth hir a bywiog, fe gofiwch chi, yn y Siambr hon pan oeddem ni'n cyfarfod o bellter am y canllawiau pum milltir o ran teithio lleol. Nawr, fe groesawyd y neges 'aros yn lleol' honno'n gyffredin mewn sawl man, gan gynnwys mewn ardaloedd lle ceir llawer llai o achosion o goronafeirws. Ceir yr un gyfradd o bryder ynghylch rhwystro coronafeirws rhag dod i mewn i ardal na chafodd ei heffeithio i raddau helaeth.
Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n cyfyngiadau presennol, oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod trosglwyddo cymunedol yn digwydd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, yw ceisio ynysu'r feirws unwaith eto yn yr ardal honno, er mwyn diogelu ardaloedd o'i hamgylch hi hefyd. Ond mae hyn yn cyd-fynd â'r neges hollbwysig, ac mewn sawl ffordd y neges bwysicach o lawer, bod angen i bobl edrych eto ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud i leihau nifer y cysylltiadau y maen nhw'n eu cael, i ddeall pwy sy'n cael bod ar eu haelwydydd nhw, a chofio'r rheolau ynglŷn ag aelwydydd estynedig.
Fe ddylai hyn ganiatáu cyswllt â phobl eraill, ond fe ddylai fod ar sail yr un pedair aelwyd â'i gilydd, nid un aelwyd yn dewis tair arall, ac yna un o'r tair aelwyd hynny yn dewis grŵp arall o bobl hefyd. Fe fyddai hynny'n arwain at newid llawer mwy sylweddol yn y trosglwyddo ac nid yn darparu'r amddiffyniad yr ydym ni'n ei geisio—ond hefyd y gwmnïaeth a'r cyswllt y gwyddom ni sy'n heriol yn yr ardaloedd lle bu'n rhaid inni ddad-wneud y trefniadau hynny ynglŷn ag aelwydydd estynedig. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn edrych unwaith eto ar y ffordd iawn i ddilyn y rheolau ac aros o fewn eu terfynau nhw, oherwydd mae hyn mewn yn ymwneud â'n cadw ni'n ddiogel ac atal niwed.
Rwyf i o'r farn, o ran y cyfyngiadau teithio, ein bod ni eisoes yn gweld rhywfaint o dystiolaeth o Gaerffili bod pobl yn dilyn y rhain. Mae niferoedd yr heintus yn gostwng. Ac o ran y negeseuon yn lleol, rwy'n credu bod y cyngor yng Nghaerffili, ac yn enwedig yr arweinydd, sef Philippa Marsden, wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn sy'n angenrheidiol. O ran yr heriau yn yr hyn sy'n digwydd, mewn gwirionedd, fe fu ein cyfryngau lleol ni'n gyfrifol iawn ac yn gyson iawn wrth adrodd yn onest am y cyfyngiadau newydd sydd ar waith. Mae hynny'n wir ym mhob un o'r cyfryngau lleol iawn, nid yng Nghaerffili yn unig, ond ym mhob un o'r chwe ardal lle bu'n rhaid inni weithredu.
Er hynny, pe byddem yn cyrraedd y pwynt o orfod cael cyfyngiadau ehangach, credaf y byddai'n bosibl, wrth gwrs, cael neges gan y Llywodraeth i'r boblogaeth yn uniongyrchol, ond rhywbeth yw hwnnw, unwaith eto, i'w gadw wrth gefn; nid dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, ond eto i gyd, ni ddylem ddiystyru'r dewisiadau sydd ar gael inni, oherwydd ni allwn fod yn hyderus am gwrs coronafeirws yn y dyfodol a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i gadw pobl Cymru yn ddiogel.
Nid oedd yr ymyriad yna i fod, felly a gaf i atgoffa pobl na ddylai eu ffonau symudol fod ymlaen? Ac mae hynny yn wir os ydych chi'n ymuno â ni yn rhithwir, hefyd. Ac os ydych yn mynd i dderbyn galwad, a wnewch chi wneud yn siŵr bod eich meicroffon wedi ei dawelu os gwelwch yn dda? Mi daflodd hynny fi, mewn gwirionedd. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth fynd i'r afael â'r materion ym Mlaenau Gwent, soniodd y Gweinidog yn benodol am dafarndai a chartrefi gofal fel rhan o achos cynnydd yr haint yn y fwrdeistref. Tybed a allai wneud unrhyw sylwadau pellach ar hynny a disgrifio pam neu sut y mae'r data'n esbonio bod cartrefi gofal a thafarndai wedi arwain at y problemau yr ydym ni yn eu profi ym Mlaenau Gwent, ac a yw'n bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i ymdrin â phroblemau yn ymwneud â thafarndai a chartrefi gofal oherwydd hynny. Mae rhywfaint o bryder yn y fwrdeistref bod gennym ni y cyfyngiadau ychwanegol yma, tra bod tafarndai'n parhau ar agor. A yw'r Gweinidog yn credu bod angen cael pwerau ychwanegol neu eu darparu i lywodraeth leol i alluogi rheoleiddio pellach a llymach ar y tafarndai os ydyn nhw i barhau ar agor?
Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pam y mae'n credu nad oes angen rhestrau gwarchod yn yr ardaloedd hyn. Mae nifer o bobl a fu ar restr warchod ers rhai misoedd eleni eisoes yn teimlo braidd yn agored i niwed gan ein bod ni bellach o dan reoliadau ychwanegol, ond nid yw'n ofynnol iddyn nhw warchod eu hunain ar hyn o bryd. Byddai gennyf ddiddordeb deall meddylfryd y Llywodraeth ynglŷn â hynny.
Mae gofyniad—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—ar gyfer profion ychwanegol ym Mlaenau Gwent hefyd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol mai ychydig iawn o ffydd sydd gennyf yn systemau'r DU ac yn yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud dros rai misoedd, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer unedau profi symudol ac adnoddau profi ychwanegol mewn rhannau eraill o'r de. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ymrwymo i ddarparu adnoddau ychwanegol i alluogi cynnal profion ychwanegol ym Mlaenau Gwent.
Diolch am y cwestiynau. O ran cartrefi gofal, rydym ni mewn gwirionedd wedi canfod nifer o achosion cadarnhaol o'n rhaglen reolaidd o brofi staff cartrefi gofal, ac mae hynny wedi ein galluogi i ddeall beth sy'n digwydd yn y fan yna ac ynysu nid yn unig y staff, ond wedyn cael rhywfaint o amddiffyniad a phrofion ychwanegol yn y cartrefi gofal yr effeithir arnynt. Mae'n llythrennol yn ddyrnaid—llai na dyrnaid—ar hyn o bryd, ond rydym yn cymryd hynny o ddifrif oherwydd gwyddom am y niwed sylweddol y gellir ei achosi os bydd yr haint yn lledu mewn cartref gofal—nid amgylchedd caeedig yn unig, ond amgylchedd caeedig gyda phobl agored iawn i niwed, sy'n agored i niwed llawer mwy sylweddol o'r feirws hwn.
Mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned ehangach, ac felly mae her ynglŷn â sut yr ydym yn amddiffyn pobl. Ac eto, mae'n deillio'n ôl i—mae'n dal i ddechrau gyda chyswllt yn y cartref ac os yw pobl yn cymysgu yn y cartref mewn niferoedd mwy, mae'n debygol o ymddangos, fel y mae wedi gwneud, mewn amrywiaeth o dafarndai a phobl sy'n mynd i'r tafarndai hynny ac os nad ydynt yn parchu'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol a'r rheolau yn y tafarndai hynny hefyd, wel, ni ddylai fod yn syndod y bydd staff a phobl sy'n yfed yno wedyn yn cerdded ymaith gyda'r coronafeirws arnyn nhw hefyd. Felly, mae angen i fusnesau wneud eu rhan i ddilyn y rheolau gyda'u staff i amddiffyn eu staff a'u cwsmeriaid, ond mae angen i gwsmeriaid sydd eisiau parhau i fwynhau'r gallu i fynd i gael diod neu fynd allan am bryd o fwyd ddilyn y rheolau hefyd, oherwydd fel arall, bydd angen i ni weithredu mesurau mwy sylweddol nag yr wyf wedi eu hamlinellu eisoes. Mae hi hefyd yn wir fod pob awdurdod lleol yn ystyried gorfodi a'r nifer y gwiriadau ar hap sy'n digwydd, ac mae hynny'n ennyn ymateb gan rannau mwy cyfrifol y byd busnes ac rydym ni hefyd yn canfod materion y mae angen gwella arnynt hefyd.
O ran y rhestrau gwarchod, y man cychwyn yw y dylai pobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod o'r blaen ddilyn y cyngor a bod yn arbennig o gaeth ynghylch gwneud hynny, yn enwedig yr elfen yna ynglŷn â phwy sy'n dod i'ch cartref, ynghylch dilyn y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol. Mae ein prif swyddogion meddygol ledled y DU yn edrych eto ar lunio rhestrau gwarchod. Mae'n fodel meddygol arbennig sydd wedi'i fabwysiadu yn y gorffennol. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad oedd gwerth iddo, ond ar gyfer y cam nesaf, mae'n rhaid i ni ystyried ai dyna'r dull cywir, oherwydd rydym ni'n deall nawr nad yw pobl sydd fwyaf tebygol o gael niwed i gyd wedi'u pecynnu'n daclus yn y rhestr o gyflyrau meddygol. Gwyddom os ydych chi o rai cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, os ydych chi o dras du Affricanaidd neu Garibïaidd, os ydych chi o darddiad de Asiaidd neu os ydych chi dros eich pwysau hefyd, eich bod mewn categori risg uwch, ond ni fydd hynny wedi ei gynnwys mewn rhestr feddygol, o reidrwydd, o ran ei hun, oni bai eich bod wedi cael diagnosis o gyflwr. Mae'r un peth yn wir ar gyfer ardaloedd lle mae mwy o anfantais economaidd-gymdeithasol—llawer mwy o berygl o niwed, ond heb ei nodi yn ein cyngor gwarchod. Rydym yn chwilio am fath mwy penodol o gyngor a fydd yn dal i helpu pobl i ddeall sut y gallan nhw reoli eu risgiau.
Ac ynglŷn â phrofion, rwy'n hapus i gadarnhau fy mod yn disgwyl cael mwy o adnoddau profi gan Lywodraeth Cymru a darpariaeth gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Yn benodol, dylai'r ganolfan brofi yn y Cwm elwa ar lôn ychwanegol, lle caiff y profion hynny eu hanfon i labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru i ategu'r heriau yr ydym ni yn eu gweld o hyd yn rhaglen brofi Labordai Goleudy y mae'r DU yn arwain arni.
Diolch. Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ymddiheuriadau am fod yn rhy awyddus i ddweud fy mhwt y tro diwethaf—i chi ac i Carwyn.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth ostwng cyfraddau heintio? Oes gennych chi unrhyw ddata ynglŷn â chyfraddau glynu wrth fesurau i fynd i'r afael â COVID-19 a faint o bobl sydd wedi cael dirwy am dorri'r rheolau? Pa gymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau twristiaeth yn fy rhanbarth i, lle mae llawer yn dibynnu ar fasnach dymhorol, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw bellach ganslo archebion o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud hyn?
Ac yn olaf, Gweinidog, sut ydych chi'n ymateb i'r feirniadaeth eang o'r mesurau newydd? Mae llawer o bobl yn tybio pam y mae hi'n iawn cymysgu â phobl mewn tafarn, clwb neu gampfa ond nad yw hi'n iawn ymweld â'u hanwyliaid. Felly, a allwch chi egluro'r rhesymeg dros hyn fel y gallwn ni, yn ein tro, esbonio i'n hetholwyr a'u cael i gefnogi'r mesurau? Oherwydd heb gefnogaeth gyhoeddus eang, mae'r mesurau hyn yn ofer.
O ran yr her ynghylch pryd y byddwn yn deall effeithiolrwydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith, rydym ni wedi dweud y bydd hi yn bythefnos o leiaf cyn i ni ddeall y patrwm yn fwy pendant. Rydym yn gweld tystiolaeth bwyllog, ychydig cyn y cyfnod adolygu o bythefnos yng Nghaerffili, ond bydd angen i ni ddeall hynny ac yna gweld gostyngiad cyson. Mae'r cyfyngiadau lleol sydd wedi'u cyflwyno yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr yn dal i fod ar waith i raddau helaeth. Yn yr Alban maen nhw'n gweld bod y twf yn arafu, ond bod twf o hyd, mewn rhannau helaeth o orllewin yr Alban, ac, fel y gwyddoch chi, mae Lloegr wedi cynyddu'n sylweddol—mae tua 12 miliwn o bobl, mi gredaf, yn Lloegr sydd o dan ryw fath o gyfyngiad lleol. Felly, mae angen i ni weld y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd ym mhob un o'r ardaloedd hynny er mwyn deall patrwm yr haint ym mhob achos unigol. O ran y dystiolaeth amdanynt, fel y dywedais, mae gennym ni dystiolaeth o gefnogaeth i'r mesurau, a newid mewn ymddygiad yng Nghaerffili, yn enwedig o ran teithio, a chredaf fod hynny'n bwysig. Byddwn yn gweld mwy o dystiolaeth ynglŷn â gostyngiad yn nifer y cysylltiadau wrth i ni barhau i weld beth sy'n digwydd gyda'r gyfradd achosion dros yr wythnos nesaf.
O ran cymorth i fusnesau, roedd hwn, unwaith eto, yn fater a godwyd gennym ni, gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, yng nghyfarfod COBRA heddiw, am yr angen hanfodol i edrych eto ar gymorth busnes. Bu croeso eang i'r cynllun ffyrlo, ac mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn glir ei bod yn fenter gadarnhaol gan Lywodraeth y DU. Ein pryder ni yw, wrth i gyfnod gwahanol ddod ar ein gwarthaf, gyda mwy o gyfyngiadau'n debygol o gael eu gweithredu, nid yn lleiaf, drwy'r gaeaf, y gallai peidio â chael dilyniant ar gyfer cymorth busnes arwain at fusnesau'n gwneud dewisiadau ynghylch rhoi terfyn ar gyflogaeth a dileu swyddi. Mae pwynt cyffredinol yn y fan yna, yn ogystal â'r heriau os ydym yn cyflwyno cyfyngiadau lleol, neu gyfyngiadau cenedlaethol, ynghylch cymorth busnes pellach sydd ei angen, ac mae honno'n sgwrs y mae angen i ni barhau i'w chael gyda Llywodraeth y DU i ddeall yr hyn y mae'r Trysorlys yn barod i'w wneud ar lefel y DU i ddiogelu swyddi a chyflogaeth.
Ac o ran yfed a chymdeithasu yn eich cartref eich hun, neu mewn grwpiau eraill, yr her yw, fel yr ydym wedi dweud, ac fel yr ydym ni wedi cydnabod, pobl nad ydynt yn parchu cadw pellter cymdeithasol yn eu cartref eu hunain, a dyna yw'r achos mwyaf o ran lledaeniad y coronafeirws. Os ydych yn mynd allan mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli, boed yn gampfa, yn fwyty neu'n dafarn, dylai fod cyfyngiadau ychwanegol ar waith i osgoi cyswllt â phobl eraill. Bydd pobl, yn naturiol, os ydynt yng nghartrefi ei gilydd, gydag anwyliaid, yn dod i gysylltiad â nhw, ac mae hynny'n anodd iawn. Ac os nad yw pobl yn dilyn y rheolau ynglŷn â chael aelwyd estynedig benodol, yna mae hynny'n golygu ein bod yn debygol o weld mwy o ledaenu ar yr aelwyd honno. Dyma'r hyn yr ydym ni eisoes wedi'i weld mewn nifer o'r ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol bellach ar waith. Felly, dyna'r broblem y mae angen inni ymdrin â hi os ydym ni eisiau troi llanw'r coronafeirws yn ei ôl yma yng Nghymru.
Gweinidog, mae Llywodraeth y DU yn sôn am gyfnod o chwe mis nawr, ac rwy'n tybio mai dyna un dull amgen, yn hytrach na chael cyfyngiadau lleol, lleddfu'r cyfyngiadau ac yna eu hailosod, efallai y gallai fod cyfyngiad mwy cyson dros gyfnod hwy, a fyddai, rwy'n credu, yn rhoi mwy o ddealltwriaeth a sicrwydd i gymunedau, ac yn arwain mae'n siŵr at fwy o gydymffurfiaeth. Felly, tybed a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y math hwnnw o ddull ar gyfer Cymru.
O ran ysgolion, tybed a allech chi ddweud unrhyw beth ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hwyluso system lle gallai ysgolion, disgyblion a staff gael eu profi'n gyflymach, ac yna gellid cwtogi ar yr hunanynysu sydd ei angen pe bai prawf yn negyddol. Byddai hynny'n arbed colli amser o'r ysgol, sydd mor hanfodol bwysig.
Hefyd, tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth am dafarndai. Gwn eu bod yn arwyddocaol yn nifer yr achosion yng Nghasnewydd, fel y buon nhw mewn mannau eraill. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru o bosib ystyried newid yr amser cau o 11 o'r gloch i 10 o'r gloch neu 9 o'r gloch efallai, ac a fyddai unrhyw gyfyngiadau ar siopau diodydd trwyddedig i wneud yn siŵr bod chwarae teg?
O ran y pwynt olaf, rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â hwnnw o'r blaen, ac rydym ni yn ystyried y posibilrwydd ar gyfer gwasanaeth bwrdd a chau am 10 o'r gloch ar safleoedd trwyddedig. Rydym hefyd yn ystyried gwerthu mewn siopau diod trwyddedig hefyd.
O ran yr awgrym o chwe mis y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i Loegr, wel, yr her yw, rwy'n tybio, o ran cynllunio, pe gallem ni ragweld y byddai'n cymryd chwe mis i gyrraedd pwynt gwahanol, y byddai hynny'n ddefnyddiol i bobl gynllunio ar ei gyfer. Yr her yw na allwn fod yn sicr ynglŷn â chwrs y pandemig. Yr hyn y gallwn fod yn glir yn ei gylch yw y bydd yr hydref a'r gaeaf yn arbennig o anodd, a hyd nes y byddwn yn cyrraedd sefyllfa o gael triniaeth wrthfeirysol fwy effeithiol neu frechlyn, yna mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni fyw gyda her wirioneddol a maint yr ymyriadau y bydd angen i ni eu cymryd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn iach. Felly, byddwn yn parhau i siarad drwy'r cyfnod hwn, drwy'r hydref a'r gaeaf, ond ni allaf roi sicrwydd pendant am yr amser y gallai fod angen mesurau eraill. Ond rydym yn ystyried a oes angen nid yn unig negeseuon arnom ar gyfer Cymru gyfan, ond gweithredu ar gyfer Cymru gyfan, a byddwn yn parhau i adolygu'r achos ac adrodd yn agored cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny.
O ran profion ysgol, mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r her o ran capasiti Labordai Goleudy, ac mae'n un o'r ffactorau sydd wedi golygu nad yw Labordai Goleudy yn gallu ymdopi â niferoedd y profion a pham mae profion wedi'u cyfyngu. Fel y gwelsom ni yn yr Alban, mae'r gofynion ar gyfer profion yn sylweddol—pobl yn mynd am brawf pan fydd y flwyddyn ysgol yn dechrau. Mae hynny wedi digwydd gyda disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yng Nghymru a Lloegr; dyna un o'r ffactorau sydd wedi achosi'r broblem sy'n golygu nad yw Labordai Goleudy yn gallu ymdopi â'r un nifer o brofion ar hyn o bryd.
Yr her wedyn, serch hynny, yw, os a phryd y caiff y materion hynny eu datrys, a ydym ni eisiau blaenoriaethu grwpiau ysgol i'w profi, ac mae arnaf ofn nad yw'r cyngor a roddwyd i ni gan ein grŵp cynghori technegol yn cefnogi profi grwpiau blwyddyn ysgol gyfan na dosbarthiadau ysgol gyfan sydd y tu allan i ystafell ddosbarth yr ysgol. Mae hynny'n rhannol oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i'r coronafeirws ddatblygu—nid yw 'Os ydych chi yn ddigon agos byddwch yn ei ddal' mor daclus ac mor syml â, 'Cymerwch brawf, rydych chi'n iawn i ddychwelyd.' Dyna pam mae cyfnod ynysu o 14 diwrnod. Dyna pam yr oedd angen i ni brofi pobl sydd wedi dychwelyd o fannau lle ceir problemau dramor ddwywaith hefyd. Felly, er y gallai'r syniad swnio'n ddeniadol, mewn gwirionedd nid yw'r wyddoniaeth yn cefnogi hynny fel y math priodol o ymyriad ar hyn o bryd, ond, fel arfer, byddwn yn dysgu mwy am y wyddoniaeth a'r dystiolaeth, ac mae'n ddigon posib y bydd hynny'n newid y dewisiadau a wnawn i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Gweinidog, diolch am eich datganiad. Adroddwyd yn y cyfryngau fod Dr Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi awgrymu bod nifer o awdurdodau lleol yn cael eu monitro ar hyn o bryd ac y gallent wynebu cyfyngiadau lleol. Mae'r awdurdodau lleol hynny'n cynnwys Conwy a Sir Ddinbych, y mae'r ddau ohonynt yn pontio fy etholaeth. Rwyf newydd fod yn edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n awgrymu mai dim ond 16.8 o achosion cadarnhaol sydd yna fesul 100,000 yng Nghonwy ac 18.4 yn Sir Ddinbych. Nawr, mae hynny'n amlwg yn sylweddol is na'r trothwy o 25 fesul 100,000 sy'n gyffredinol yn sbarduno camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi ddweud wrthym ni ar ba sail y mae'r awdurdodau lleol hynny o dan drefniadau monitro arbennig ac a allwch chi egluro hefyd pam y mae'n ymddangos bod dwy gyfres wahanol o ddata ar gael i Lywodraeth Cymru farnu yn eu cylch?
Felly, deallaf fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dosbarthu rhywfaint o wybodaeth dros y 24 awr ddiwethaf a oedd yn cynnig cipolwg ar y sefyllfa ar 19 Medi a awgrymodd yng Nghonwy mai'r gyfradd oedd 26.4 fesul 100,000, sydd yn amlwg dros y trothwy o 25 fesul 100,000, a bod sir Ddinbych yn 25.1. Ac eto, ar yr un diwrnod, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ffigurau o ddim ond 19.6 yng Nghonwy ac 16.7 yn sir Ddinbych. Pam mae anghysondeb mor sylweddol, ac ar ba sail y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau o ran ymyrryd a monitro pellach?
Daw hynny'n ôl at fy ymateb i Suzy Davies, mi gredaf, yn gynharach, am yr her o gael canlyniadau gohiriedig. Felly, mae gennych y brif gyfradd ar y diwrnod y cewch y profion eu hunain, y 24 awr nesaf, ac yna cewch fwy o brofion, sy'n dod drwy broses Labordai Goleudy fel arfer, mewn niferoedd sylweddol, ac mae angen iddyn nhw roi'r rheini'n ôl i mewn ar y diwrnod y cymerwyd y profion mewn gwirionedd er mwyn deall, bryd hynny, beth oedd y ffigurau. Dyna fy nealltwriaeth i o'r her gyda rhai o'r ffigurau, a dyna pam y bu cymaint o bwyslais nid yn unig ar faint o brofion a wneir, nid capasiti'r labordy, ond faint o brofion a gyflwynir, a pha mor gyflym y darperir y canlyniadau.
O ran y rhestr wylio, mae'n rhestr wylio o'r hyn sy'n digwydd gyda darlun sy'n symud, felly rydym ni nid yn unig yn edrych ac yn aros nes bod pobl yn cyrraedd adeg mewn amser penodol, rydym yn edrych ar newid yn y cyfraddau o fewn awdurdodau lleol hefyd. Felly, gwyddom fod Conwy a Sir Ddinbych yn gweld peth cynnydd, ac felly yn hytrach na dweud na wnawn ni ddim nes iddyn nhw gyrraedd rhyw nifer benodol, rydym yn dweud bod hynny'n rhywbeth i gadw llygad arno yn hytrach na bod angen i ni ymyrryd nawr. Byddwn wedyn, os bydd achosion yn parhau i gynyddu, yn ystyried pa gamau pellach y mae angen inni eu cymryd.
A bod yn deg, mae yna bwynt yma i awdurdodau lleol ar draws y sbectrwm gwleidyddol, oherwydd gallaf ddweud yn onest ein bod, yn ystod yr argyfwng hwn a nawr, wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn gydag arweinwyr o bob plaid, gan gynnwys arweinwyr annibynnol, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac arweinyddiaeth Llafur Cymru. Mae teimlad gwirioneddol ymysg arweinwyr awdurdodau lleol am yr ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol sydd gennym ni, a'u cyfrifoldeb yn eu cymunedau lleol, a dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn parhau yn y dyfodol. Felly, byddwn yn rhannu data'n agored ac yn dryloyw gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae ein timau profi, olrhain, diogelu wedi'u lleoli mewn awdurdodau lleol. Mae ganddyn nhw fynediad parod at yr wybodaeth am newidiadau o fewn patrwm y coronafeirws yn eu cymunedau, a bydd angen yr undod hwnnw o fwriad arnom ni wrth inni i gyd ymdrechu i gadw Cymru'n ddiogel drwy hydref a gaeaf anodd iawn.
Diolch. Ac yn olaf, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. [Anhyglyw.]
Na, rwy'n credu bod rhywbeth o'i le. Nid ydym yn eich clywed chi.
Iawn. Ydych chi'n fy nghylwed i?
Dyna welliant, diolch.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Tri phwynt cyflym gennyf fi. Mae gennym ni gyfyngiadau ychwanegol nawr o ran ymweld â chartrefi pobl, ond i rai pobl eu cartrefi, wrth gwrs, yw eu gweithleoedd hefyd. Felly, rwy'n meddwl am bobl fel hyfforddwyr cerddoriaeth ac ati—mae pobl yn dod i'w cartrefi i gael eu hyfforddi. Ac mae cartrefi pobl eraill hefyd yn weithleoedd rhai pobl—rwy'n meddwl am bobl fel trinwyr gwallt symudol. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder ynghylch gallu'r busnesau hyn i barhau i weithredu ar yr amod y rhoddir mesurau diogelu ar waith.
Dygwyd rhai pryderon i fy sylw hefyd ynghylch achosion o ddiffyg cydweithredu ag olrheinwyr cyswllt y rhaglen profi, olrhain, diogelu, ac adroddiadau am rai pobl sydd wedi profi'n gadarnhaol nad ydyn nhw yn barod i ddatgelu eu cysylltiadau. Nawr, o ystyried difrifoldeb posibl hyn o ran tanseilio ymdrechion i atal lledaeniad y feirws, a oes angen inni ystyried gorfodi'r gofynion i ddatgelu cysylltiadau?
A'm sylw olaf, Dirprwy Lywydd, yw fy mod yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar awdurdodau lleol, sy'n gweithio i'r eithaf nawr i ymdrin â'r cyfyngiadau newydd hyn. Felly, a allwn ni weld rhywfaint o hyblygrwydd ar gyrff fel Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru o ran pryd y mae angen cynnal arolygiadau a drefnwyd, a chael cytundeb i oedi lle bo angen am ychydig wythnosau er mwyn sicrhau y gall pawb yn y sectorau hynny ganolbwyntio ar ymdrin â'r materion sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau newydd, yn hytrach na pharatoi ar gyfer arolygiadau nad ydyn nhw, waeth pa mor bwysig, yn hanfodol ar hyn o bryd?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Credaf fod y Gweinidog addysg wedi dweud bod diben arolygiadau Estyn yn rhannol mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd i'r afael â chynlluniau awdurdodau lleol i ddiogelu buddiannau dysgwyr yn ystod y cyfnod penodol hwn yn y pandemig. Ond rwyf wrth gwrs yn derbyn y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch a yw'r cydbwysedd yn un cywir, gan ein bod yn symud i gyfnod gwahanol, felly byddaf yn hapus i drafod hynny gyda'r Dirprwy Weinidog, a fydd yn siarad nesaf, am Arolygiaeth Gofal Cymru, ond hefyd gyda'r Gweinidog addysg am y patrwm ar gyfer arolygiadau sy'n digwydd, a nod a diben y rheini, oherwydd mae peidio â chael trefn arolygu yn sicr o esgor ar ganlyniadau. Mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu i gadw pobl yn ddiogel ym mhob un o'r sefydliadau hynny, ond rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw teg am y cydbwysedd presennol.
O ran ymweliadau cartref lle mae hynny'n weithle rhywun, naill ai ei gartref ei hun neu os yw'n ymweld â chartref rhywun arall ar gyfer gwaith, ar hyn o bryd caniateir hynny, hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau lleol, ond rhaid cymryd camau rhesymol, ac felly bydd yn wahanol i bobl yn dibynnu ar y dasg y maen nhw'n ymgymryd â hi. Gall y mesurau fod yn wahanol, er enghraifft, i athro cerdd, lle dylai ymbellhau cymdeithasol fod yn bosib, fel arfer, o gymharu â rhywun sy'n trin gwallt o dŷ i dŷ. Ac rydym ni yn cydnabod, os bydd angen inni symud i gyfnod lle na all hynny ddigwydd mwyach, y byddai hynny'n arwain at ganlyniad economaidd sylweddol i'r bobl hynny ac efallai na fyddant yn gallu troi'n hawdd at ffynonellau incwm amgen eu hunain. Felly, rydym yn cydnabod bod effaith wirioneddol i bob dewis a wnawn.
O ran y diffyg cydweithredu â'r gwasanaeth olrhain cyswllt, er ei bod hi'n siomedig, yn amlwg, nad yw pobl yn cydweithredu, rwy'n deall rhwystredigaeth pobl. Rhaid inni ystyried her y ddau, mi gredaf, y cymhelliant, a chredaf y gallu, sydd i'w groesawu, i roi cymorth ariannol i bobl, os yw Trysorlys y DU yn glir ac yn gyflym wrth gadarnhau bod arian ar gael nid yn unig i Gymru, ond i'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, i gyflwyno cynllun cymorth. Dylai hynny helpu gyda chydweithrediad, ond hefyd y neges mai prif ddiben hyn yw cadw pobl yn ddiogel.
Nid ydym yn ceisio dal pobl fel y gallwn ni eu dirwyo, rydym yn ceisio deall gwybodaeth i'w cadw nhw, eu teulu a'u cymuned yn ddiogel. A byddwch yn gwybod, o glystyrau sy'n digwydd yn eich etholaeth eich hun, fod y cymysgu, lle nad yw hynny wedi'i ddatgelu'n briodol, wedi ymdreiddio i'r grŵp teulu ehangach hwnnw, gyda phartneriaid, rhieni ac eraill wedyn mewn perygl o gael y coronafeirws, ac mae'r proffil risg yn newid wrth i'r proffil oedran newid hefyd. Felly, ein dewis ni yw cael y math priodol o gydweithredu â phobl ledled Cymru, ond, os na chawn ni hynny, rydym yn ystyried dewisiadau ynghylch a yw gorfodi a newid y rheolau ynghylch hynny yn rhywbeth y gallem ac y dylem ni ei wneud. Ond rhaid i hyn i gyd fod yn gysylltiedig â'r prif ddiben: beth sydd angen i bob un ohonom ni ei wneud i helpu i gadw Cymru'n ddiogel?
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.