Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 22 Medi 2020.
Diolch am eich ymateb i Huw Irranca-Davies ynglŷn â chanolfan brofi symudol i Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf i am ofyn dim ond hyn i chi, o gofio bod y rheoliadau hyn yn debygol o ddod ger ein bron yr wythnos nesaf ac na fyddan nhw'n cael eu hadolygu wedyn am dair wythnos arall o'r wythnos hon ymlaen, am ba hyd yr ydych chi'n disgwyl i'r cyfnodau clo barhau? A oes gennych amserlen mewn golwg, neu a yw hyn yn seiliedig i raddau helaeth iawn, wel, ar y rhif R i bob pwrpas? Diolch.