5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:16, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sefyllfa sector gofal plant a chwarae Cymru a'n cynnig gofal plant i Gymru. Hoffwn ddechrau'r datganiad hwn drwy ddweud 'diolch' mawr a chydnabod y ffordd eithriadol y mae darparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru wedi ymateb i ddigwyddiadau'r misoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n cytuno eu bod yn haeddu ein diolch diffuant am y cyfraniad amhrisiadwy y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud.

Mae'r cyfnod ers mis Mawrth wedi bod yn heriol i'r sector. Hyd yn oed adeg y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni, nid oedd angen cau lleoliadau gofal plant. Fodd bynnag, roedd angen cyfyngu ar nifer y plant ar y safle. Roedd y lleoliadau hynny a oedd yn parhau'n agored yn cyflawni swyddogaeth hanfodol, gan alluogi ein gweithwyr allweddol i ymgymryd â'u swyddogaethau hanfodol. Fe'm trawyd gan benderfyniad a hyblygrwydd cynifer o'n darparwyr, gan wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor. Fodd bynnag, nid oedd aros ar agor yn ddewis i bob lleoliad, a, phan oedd pethau ar eu gwaethaf, caeodd tua 1,940 o ddarparwyr eu drysau. Mae hyn yn cynrychioli dros hanner yr holl ddarpariaeth gofal plant gofrestredig yng Nghymru. Fodd bynnag, heddiw, mae pethau'n edrych yn fwy addawol, gyda dim ond tua 428 o leoliadau ar gau. A'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw, hyd yn oed heb bandemig, y byddem fel arfer yn gweld rhai lleoliadau'n cau am amrywiaeth o resymau.

Yn ffodus, roeddem yn gallu rhyddhau'r cyfyngiadau ar ofal plant o 22 Mehefin ymlaen. Fel y mae hi'r wythnos hon, mae tua 1,527 o'r lleoliadau hynny a gaeodd wedi ailagor, sy'n golygu bod 88 y cant o ddarparwyr cofrestredig ar y cyfan bellach ar agor ledled Cymru. Fodd bynnag, ym mis Awst fe wnaethom ni gynnal arolwg byr o leoliadau a oedd ar agor, ac roedd hynny'n dangos bod y rhan fwyaf o leoliadau'n disgwyl gostyngiad o 30 y cant mewn presenoldeb. Ar gyfer lleoliadau bach yn benodol, mae hynny'n ostyngiad sylweddol yn y galw. Mae angen i ni ganolbwyntio bellach ar gefnogi ac adeiladu sector cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn mynd ati dros y misoedd nesaf mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys rhoi cymorth i leoliadau, cymorth i'r gweithlu a chymorth i rieni, gan roi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i ailddechrau defnyddio lleoliadau gofal plant a'r manteision niferus y mae hynny'n ei gynnig i'w plant.

Ym mis Ebrill, gwnes y penderfyniad anodd i atal y cynnig gofal plant i geisiadau newydd. Bryd hynny, dyna oedd y peth iawn i'w wneud a chaniataodd inni ailgyfeirio rhywfaint o'r cyllid ar gyfer y cynnig i helpu i gefnogi'r frwydr yn erbyn y feirws mewn ffordd fwy uniongyrchol ac ystyrlon. A thrwy ein cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, fe wnaethom ni gefnogi dros 9,600 o blant gweithwyr allweddol, gan ganiatáu i'w rhieni barhau â'u gwaith hanfodol, a gofalu am dros 900 o blant sy'n agored i niwed. Er bod y cynllun cymorth gofal plant coronafeirws yn ymyriad angenrheidiol a hanfodol a helpodd i ymateb i'r argyfwng uniongyrchol, roedd bob amser yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth adfer y cynnig gofal plant cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Rwy'n hynod falch ein bod ni, ers mis Awst, wedi gallu ailagor y cynnig.

Buom yn gweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i sicrhau bod ceisiadau gan rieni'n cael eu rheoli'n raddol. Mae hyn wedi golygu bod ceisiadau rhieni a gollodd y cynnig yn nhymor yr haf wedi cael eu hasesu'n gyntaf, gydag awdurdodau lleol yn symud ymlaen yn gyflym i ymdrin â cheisiadau gan rieni newydd. Ac fe hoffwn i ddiolch i awdurdodau lleol am y ffordd y buont yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, ac am weithio gyda ni i ddod â'r cynnig yn ei ôl. Ni allem fod wedi gwneud dim o hyn hebddynt.

Mae adfer y cynnig yn rhan allweddol o'n cynllun adfer. Nid yn unig y mae'r cynnig yn darparu sicrwydd cyllid y mae mawr ei angen i ddarparwyr, ond mae'n helpu miloedd o rieni, yn enwedig mamau, yr ymddengys bod y misoedd diwethaf wedi cael effaith arbennig o negyddol arnyn nhw. Elwodd oddeutu 14,600 o blant ar y cynnig ym mis Ionawr a rhagwelir y bydd tua 8,000 i 9,000 o blant yn manteisio ar y cynnig yn nhymor yr hydref, sydd tua 75 y cant i 85 y cant o'r nifer arferol sy'n manteisio arno yn ystod yr hydref. Mae ein gwasanaethau Dechrau'n Deg hefyd wedi ailgychwyn ledled Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo i gwblhau'r adolygiad o ymestyn y cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant.

Ochr yn ochr â hyn, rydym ni wedi cyflwyno'r grant darparwyr gofal plant. Er y byddai'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant wedi gallu cael rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, sefydlwyd y grant darparwyr gennym ni, sy'n caniatáu i leoliadau hawlio hyd at £5,000 tuag at eu costau, i helpu unrhyw rai nad oeddent yn gallu manteisio ar y cynlluniau cymorth busnes ehangach. Mae wythnosau cychwynnol y grant darparwyr bellach wedi dechrau ac mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi bod yn llai nag yr oeddem wedi gobeithio, ond mae cryn amser i fynd o hyd ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Cwlwm a Chwarae Cymru i hyrwyddo'r grant ymhellach a chynnig cymorth i gwblhau'r cais, lle bo angen. Mae pob darparwr gofal dydd llawn cofrestredig hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant tan fis Mawrth 2022.

Mae cynllun y gweithlu a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn amlinellu ein gweledigaeth i ddatblygu gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar medrus iawn yma yng Nghymru, gan ei wneud yn broffesiwn ac yn ddewis gyrfa. Mae hyn yn bwysicach nag erioed, o ystyried digwyddiadau diweddar, a byddwn yn parhau i weithio i weld ei nodau'n cael eu gweithredu a'u cryfhau, gyda rhaglenni hyfforddi ac uwchsgilio yn ailgychwyn. Mae'r sector gofal plant yng Nghymru yn glytwaith toreithiog o wahanol fathau o sefydliadau, pob un â modelau gweithredu penodol a heriau penodol. Rhaid inni gefnogi'r holl sector os ydym ni eisiau sicrhau bod dewis i deuluoedd a chymorth priodol i'n holl blant, ac, i'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn bwriadu cwblhau ein hadolygiad gweinidogol o chwarae i gefnogi ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.

Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith, i helpu rhieni i gael gwaith drwy gael gwared ar ofal plant fel rhwystr i waith, ac i sicrhau bod gwaith gofal plant a chwarae yn dod yn broffesiwn a werthfawrogir yma yng Nghymru am y cyfraniad enfawr y mae'n ei wneud tuag at feithrin a datblygu dinasyddion Cymru fydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.