5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:29, 22 Medi 2020

Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector pwysig yma am eu cyfraniad dros y misoedd diwethaf yn gofalu am blant, gan gynnwys, wrth gwrs, plant o deuluoedd rhai o'n gweithwyr allweddol, er mwyn iddyn nhw fedru parhau i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

Yn anffodus, bu'n rhaid i hanner y darparwyr gau eu drysau, ond, erbyn heddiw, mae llawer wedi ailagor, fel y sonioch chi. Ond mae 12 y cant o leoliadau yn parhau ar gau. Mi fuaswn i'n licio ymchwilio'r ffaith yma rhyw ychydig, a gofyn i chi ydych chi'n credu y bydd y lleoliadau yma yn ailagor, yntau a ydy rhai o'r rhain wedi cau eu drysau am byth. Rydych chi'n mynd ymlaen i ddweud yn eich datganiad chi fod y rhan fwyaf o leoliadau yn disgwyl gostyngiad o 30 y cant yn y nifer o blant fydd yn mynychu i'r dyfodol agos. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol ac yn mynd i wneud rhai lleoliadau yn anghynaladwy yn ariannol, ac yn anffodus, wrth i'r cyfyngiadau ddwysáu eto, does dim arwydd bod y sefyllfa am wella. Yn ogystal â'r effaith andwyol ar y busnesau eu hunain, a ydych chi'n credu bod goblygiadau eraill i'r gostyngiad yma? Dwi'n meddwl yn benodol am yr effaith ar blant, ar ddatblygiad cymdeithasol plant ac yn enwedig datblygiad plant o gefndiroedd difreintiedig. Rydym ni’n gwybod—ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos—pa mor bwysig ydy gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddatblygiad plentyn yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn addysgiadol. Felly pa mor bryderus ydych chi am y gostyngiad yma yn y tymor byr a’r tymor hir, a hynny o safbwynt y plentyn?

Mae gostyngiad hefyd, fel roeddech chi’n sôn, yn y rhai sydd wedi gwneud cais am y cynnig gofal plant. Mae dipyn llai na’r arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, ac un canlyniad o hynny, wrth gwrs, ydy fod yna fwy o arian yn y gyllideb benodol honno. Felly, gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried ymestyn y cynnig i blant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni neu riant yn gweithio, fel eu bod nhw’n gallu elwa o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, sef rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo o’r cychwyn cyntaf, fel y gwyddoch chi? Rydw i’n eich clywed chi’n sôn am adolygiad. Pryd fydd hwnnw’n cael ei gwblhau ac onid ydy’n briodol i symud peth o’r arian yn y gyllideb tuag at deuluoedd lle nad ydy rhieni’n gweithio er mwyn i’r plant yna gael elwa?

Ac yn olaf, sôn am y grantiau sydd ar gael. Rydych chi wedi cyhoeddi’r gronfa grantiau bach ar gyfer y sector yn ddiweddar. Mae fel roeddech chi’n ddweud, sef cronfa gwerth £4 miliwn, ond dwi'n deall ar hyn o bryd fod nifer y ceisiadau i’r gronfa yma’n fychan. Fedrwch chi ymhelaethu ar hyn? Yn ôl rhai o’r darparwyr rydw i wedi bod yn siarad â nhw, mae yna lot o waith ynghlwm â gwneud cais am grant o’r gronfa benodol yma am beth sydd yn arian gymharol fach a bod angen casglu llawer iawn o dystiolaeth. Felly, buaswn i’n gofyn yn garedig i chi edrych eto ar feini prawf y gronfa yma er mwyn denu mwy o geisiadau. Mi fyddai’n drueni pe na bai'r cyfan o’r £4 miliwn yn cael ei wario. Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny. Diolch.