Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 22 Medi 2020.
Rwyf wedi gwrthwynebu'r rheoliadau hyn yn gyson, oherwydd credaf eu bod yn gwbl anghymesur â'r bygythiad a ddaw yn sgil y coronafeirws. Ond hoffwn ddweud yn gyntaf faint yr oeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth yn gynharach am y modd y caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo, wythnosau ar ôl iddynt gael eu gweithredu gan y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n warth democrataidd, a chredaf hefyd fod 30 munud yn eithaf annigonol i drafod mesurau mor llym. Wrth gwrs, mae lliniaru i'w groesawu bob amser, ond mae swm a sylwedd y cyfyngiadau at ei gilydd yr un fath. Rydym ni wedi troi ein gwlad, i bob pwrpas, yn garchar agored, fel yr wyf wedi'i ddweud unwaith o'r blaen, ac rydym ni bellach yn gwneud hynny ar sail fwy llym fyth yn lleol.
Pan edrychwch chi ar fygythiad y coronafeirws o ran niferoedd, mae'n rhaid ichi ystyried tybed a oes gan y Llywodraeth, boed ar lefel y DU neu yn y weinyddiaeth ddatganoledig, unrhyw synnwyr o gymesuredd o gwbl. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y DU yn dangos mai dim ond 22 yw'r cyfartaledd symudol saith diwrnod y marwolaethau o'r coronafeirws, neu, mewn gwirionedd, yn ymwneud â choronafeirws—dyna sy'n ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth fel achos bosib y farwolaeth—sef yr union fan lle'r oedd yng nghanol mis Gorffennaf. Dim ond 138 o bobl yn y Deyrnas Unedig gyfan sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda'r coronafeirws, a'r marwolaethau fesul miliwn yw 615. Hyd yn oed os cymerwch chi hynny fel arwydd o nifer y marwolaethau oherwydd coronafeirws, yn hytrach na phobl sy'n marw gyda'r coronafeirws arnyn nhw, nid wyf yn credu bod hynny fel cyfran o'r holl boblogaeth, yn cyfiawnhau'r datgymaliad economaidd enfawr a hefyd y dinistr yn ein bywyd cymdeithasol, gyda holl oblygiadau hynny. Mae'n rhaid i ni adennill synnwyr cymesuredd.
Dyfynnwyd Sweden gan Mark Reckless ac mae hwn yn achos addysgiadol iawn. Dim ond 15 o bobl sydd yn Sweden gyfan mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda COVID. Mae ganddynt 60,000 o achosion o COVID, 15 o bobl mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae eu cyfartaledd symudol saith diwrnod ers diwedd mis Gorffennaf wedi bod rhwng un a thair marwolaeth. Nid yw Sweden wedi cael unrhyw gyfyngiadau symud gorfodol, er eu bod wedi cael mesurau cadw pellter cymdeithasol gwirfoddol ac ati.
Ni allwch chi wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng profiadau gwahanol wledydd. Weithiau, bydd ystyriaethau lleol yn creu gwahaniaethau sylweddol. Ond pan ystyriwch y costau enfawr yr ydym ni wedi'u hysgwyddo, o'u cymharu â'r hyn sydd wedi digwydd yn Sweden, am ganlyniad sydd ychydig bach yn wahanol, credaf fod hynny'n gondemniad o bolisi swyddogol, felly pleidleisiaf yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw.