11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:35, 23 Medi 2020

Gyda diwedd y Senedd hon yn prysur agosáu, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid benderfynu ymchwilio i effeithiau posib cael cyfraddau treth incwm gwahanol ar draws ffin Cymru a Lloegr, yn enwedig o gofio faint o bobl sy’n byw’n agos at y ffin. Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn, ac i’r Gweinidog cyllid hefyd am ei hymateb hi i’n hadroddiad ni, ac am dderbyn pob un o’r argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.

Mae’r tebygolrwydd eich bod hi'n drethdalwr incwm yn is yng Nghymru nag yn y Deyrnas Gyfunol yn ei chyfanrwydd. Yn ôl arolwg incwm personol 2016-17, roedd 44 y cant o boblogaeth Cymru yn drethdalwyr incwm, a hyn yn cymharu â 47 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol—yn rhannol, wrth gwrs, oherwydd cyfraddau cyflogaeth is ac incwm is ar gyfartaledd hefyd. Mae tyfu sylfaen dreth Cymru yn elfen bwysig o godi refeniw treth ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar strategaethau arloesol i ddatblygu’r sylfaen dreth hon.

Fe wnaethom ni glywed ei bod hi’n gallu bod yn anodd rhagweld beth fydd ymddygiad pobl yng Nghymru yn sgil effeithiau newidiadau mewn treth mewn gwledydd eraill, ond mae yna ddeunydd sylweddol sy’n ymchwilio i faint mae trethdalwyr yn ymateb i sefyllfaoedd o'r fath sydd yn rhoi arweiniad gwerthfawr inni yn y maes yma. Er enghraifft, mae yna astudiaethau rhyngwladol sy'n dangos bod y rheini sydd ar incwm uchel yn ymateb cryn dipyn i gyfraddau treth; ei bod hi'n haws i rai proffesiynau sydd ar incwm uchel i symud—hynny yw, mae'n boblogaeth fwy symudol; a bod lle mae rhywun arni yn eu gyrfa hefyd yn gallu dylanwadu ar allu rhywun i adleoli. Mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau polisi bydd yn helpu i ddenu’r grwpiau sy’n ymateb fwyaf i Gymru, fel y rheini sy’n ennill incwm uchel ac, wrth gwrs, graddedigion ifanc, a hynny er mwyn cynyddu ei refeniw treth.

Rydyn ni’n croesawu’r gwaith ymchwil y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu i ddatblygu modelau economaidd mwy cymhleth o economi Cymru, a hynny er mwyn dod i ddeall yn well yr effeithiau y byddai newidiadau i gyfraddau trethu yn eu cael. Fodd bynnag, mae ymchwilwyr yn nodi mai’r prif rwystr wrth lunio a datblygu eu model yw faint o ddata penodol i Gymru sydd ar gael. Rydym ni'n cydnabod bod materion sensitif ynghylch datgelu data treth, ond mae’n hanfodol bod data’n gwella er mwyn gallu deall strwythur sylfaen dreth Cymru a mynd ati wedyn i ddatblygu modelau economaidd ymhellach. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gydweithredu’n well er mwyn gwella’r gwaith o gasglu a lledaenu data am Gymru, yn ogystal â gweld sut mae modd defnyddio adran gwybodaeth, dadansoddi a deallusrwydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gefnogi gwaith ymchwil ym maes gwahaniaethau treth. Mae’r Gweinidog wedi nodi, gan adeiladu ar y dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i’r pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ymchwil gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i amcangyfrif effaith gwahaniaethau treth ar ymddygiad, ac mae’r datblygiad hwn yn rhywbeth rydyn ni fel pwyllgor yn ei groesawu.

Mae ein hadroddiad ni hefyd yn nodi rhagor o feysydd rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio iddyn nhw. Rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag academyddion ar astudiaeth hydredol am effaith gwahaniaethau mewn cyfraddau treth ar draws ffin Cymru a Lloegr. Mae’n galonogol bod y Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth yr Alban i ymchwilio i ba mor ymarferol yw cael set ddata hydredol i fesur effeithiau ar ymddygiad unrhyw newidiadau mewn treth incwm yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hymchwiliad yn cyfeirio at ddylanwad ffactorau heblaw am drethi ar ble mae unigolyn yn dewis byw—ffactorau fel prisiau tai, costau byw, cyfleoedd gwaith, sydd hefyd yn bwysig, wrth gwrs, safon gwasanaethau cyhoeddus, sy'n elfen bwysig arall, a safon bywyd yn gyffredinol, wrth gwrs, sy'n allweddol iawn. Rŷn ni'n argymell bod yn rhaid ystyried ffactorau fel y rhain fel rhan o unrhyw ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i effaith amrywiadau treth incwm ar draws ffin Cymru a Lloegr.

Yn ogystal ag ymchwilio i oblygiadau unrhyw newidiadau i bolisi treth o safbwynt refeniw, fe wnaeth tystion bwysleisio pa mor bwysig yw ystyried sgil-effeithiau penderfyniadau o ran polisi treth—hynny yw spillover effects yn Saesneg. Er enghraifft, fe allai cynyddu'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm gynhyrchu refeniw, ond os yw e'n lleihau nifer trethdalwyr y gyfradd ychwanegol yng Nghymru, yn mi allai hynny arwain at sgil-effeithiau fel cyflogau is neu lai o gyfleoedd gwaith. Felly, rŷn ni yn argymell bod gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ystyried sgil-effeithiau posib gan bolisi cyfraddau treth incwm Cymru ar bobl dan anfantais, fel, er enghraifft, y rheini sydd ar incwm isel ac unigolion sy'n talu treth incwm ac sydd yn derbyn y credyd cynhwysol.