Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 23 Medi 2020.
Gan mai dim ond i incwm nad yw'n gynilion ac nad yw'n ddifidendau y mae'r pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru'n berthnasol, clywsom y bydd Cymru'n arbennig o agored i drethdalwyr yn lliniaru eu rhwymedigaeth drwy newid o enillion i fathau eraill o incwm. Er enghraifft, gallai'r rheini sy'n hunangyflogedig ymateb i amrywiadau treth drwy gorffori eu busnes, er mwyn talu treth gorfforaeth ar elw a threth incwm ar gynilion difidend wrth dynnu elw allan, yn hytrach na thalu cyfraddau treth incwm Cymru ar enillion hunangyflogedig. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i effaith lliniaru treth incwm bersonol drwy gorffori a newid mathau o incwm, yn enwedig o gofio bod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n talu ar y gyfradd uwch ac ychwanegol yn cael eu cyflogi yn y sector preifat yng Nghymru, ac felly'n gallu corffori eu gweithgareddau wrth gwrs. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o ystyriaeth i geisio datganoli incwm cynilion ac incwm difidend i Gymru ac asesu buddion a risgiau sicrhau'r pŵer hwn.
Yn olaf, er i ni gwblhau ein gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn cyn inni sylweddoli gwir raddfa pandemig COVID-19, mae'n amlwg y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant er mwyn helpu adferiad economaidd Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael iddi, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu opsiynau polisi ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymreig ac ystyried cynlluniau wrth gefn i ymdopi ag amodau economaidd niweidiol a thoriadau posibl mewn gwariant cyhoeddus. Felly, gyda'r sylwadau hynny, edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at glywed cyfraniadau'r Aelodau.